Rhagor - darganfod byd o gasgliadau

Llwch Folcanig yn disgyn ar Gymru

[delwedd: Sbesimen o fasalt o Wlad yr Ia o’r casgliadau Daeareg ]

Sbesimen o fasalt o Wlad yr Ia o’r casgliadau Daeareg

[delwedd: Gronyn folcanig gwydrog, miniog]

Gronyn folcanig gwydrog, miniog (500 microns)

[delwedd: Pyrocsen (50 microns)]

Pyrocsen (500 microns)

[delwedd: Olifin]

Olifin

Delweddau o’r lludw a grëwyd gan ddefnyddio microsgop cryf (1μm = 1/1000 mm).

[delwedd: Darn tenau o fasalt]

Darn tenau o fasalt

Staff yr Adran Ddaeareg yn dadansoddi llwch o Wlad yr Ia:

Aeth staff o Adran Ddaeareg Amgueddfa Cymru ati i gasglu a dadansoddi llwch folcanig oddi ar doeon ceir yn ardal Caerdydd ar ddydd Gwener 16 Ebrill 2010.

Crëwyd y llwch gan echdoriad y llosgfynydd Eyjafjallajökull, sy’n gorwedd o dan rewlif yn ne Gwlad yr Ia. Ar ôl bod yn fud am bron i 200 mlynedd, mae’r llosgfynydd wedi bod yn fyw ers Mawrth 2010.

Ar ddydd Mercher 14 Ebrill, echdorrodd y llosgfynydd yn ffyrnig, gan chwythu llawer iawn o lwch folcanig i mewn i’r atmosffer. Roedd y ffrwydrad yn arbennig o ffyrnig am i’r echdoriadau ddigwydd wrth i’r magma poeth ddod i gysylltiad â dŵr o’r rhewlif oedd dros ei ben yn toddi. Adeg ysgrifennu’r erthygl hon, roedd y llosgfynydd yn dal i echdorri.

Mae’r llwch, a gludwyd tua Phrydain a gogledd Ewrop ar y gwynt, wedi tarfu’n ddifrifol ar awyrennau masnachol. Mae hyn am fod injans awyrennau yn gallu sugno’r llwch i mewn gan leihau faint o aer sy’n llifo drwyddynt. Mae hyn yn ei dro yn gallu peri iddynt fethu.

Am fod y llwch mor fân, bu rhaid defnyddio camera ar ficrosgop cryf i greu’r delweddau. O fewn y lludw roedd darnau o lafa caled, gronynnau main o wydr folcanig a’r mwynau ffelsbar, olifin a pyrocsen. Mae’r mwynau hyn yn gyfansoddion cyffredin mewn craig folcanig o’r enw basalt, sy’n gyson â’r math o echdoriad folcanig sy’n digwydd yng Ngwlad yr Ia.

Mae Gwlad yr Ia yn rhanbarth fyw iawn yn ddaearegol am ei fod yn eistedd ar Gefnen Canolbarth yr Iwerydd. Gwlad yr Ia yw’r unig fan lle gellir gweld Cefnen Canolbarth yr Iwerydd ar y tir.

Darn o graig basalt sy’n ddigon tenau i adael i’r golau lifo drwyddi sy’n galluogi’r daearegwyr i astudio’r mwynau yn y graig trwy ficrosgop.

Delweddau o’r lludw a grëwyd gan ddefnyddio microsgop cryf (1μm = 1/1000 mm).

Dyddiad yr erthygl: 16 Ebrill 2010

0 sylw

Gadael sylw


Geirfa

Llwch
Deunydd folcanig mn (llai na 2mm o faint) syn cael ei chwythu allan o losgfynydd yn ystod echdoriad.

Basalt
Craig folcanig sy’n ffurfio wrth i lafa oeri. Maen cynnwys y mwynau ffelsbar, olifin a phyrocsen. Basalt ywr math mwyaf cyffredin o lafa.

Lafa
Craig dawdd sy’n echdorri ar wyneb y Ddaear.

Magma
Craig dawdd islaw cramen y Ddaear, sy’n gallu echdorri fel lafa.

Cefnen Canolbarth yr Iwerydd
Mae cramen y ddaear yn cynnwys nifer o blatiau ‘tectonig’. Maer platiau hyn yn symud yn araf ar wyneb allanol y blaned dros amser daearegol. Mae Cefnen Canolbarth yr Iwerydd yn nodir ffin rhwng platiau Ewrop ac Affrica ir dwyrain a phlatiau Gogledd a De America ir gorllewin. Ar y ffin yma, mae’r platiaun cael eu tynnu oddi wrth ei gilydd ac mae cramen newydd yn ffurfio o hyd.

Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:     

Delweddau:     

Arddull a darllenadwyedd: