Rydych chi yn: Archwilio'r Casgliadau > Bydoedd coll Gondwana

Bydoedd coll Gondwana

Y Ddaear tua 530 miliwn o flynyddoedd yn ôl, yn fuan wedi ffurfio uwchgyfandir Gondwana.
Delwedd 1: Y Ddaear tua 530 miliwn o flynyddoedd yn ôl, yn fuan wedi ffurfio uwchgyfandir Gondwana.
Mae'r ffosilau anifeiliaid morol mwneiddiedig hynaf yn dyddio o'r cyfnod hwn: (a) plât mwydyn wedi'i fwyno o Ogledd Iran; (b) braciopod o ranbarth Kashmir dan reolaeth India; (c) trilobit o Fynyddoedd Alai, Kyrgyzstan; (d) pos o ffosil o Wlad yr Iorddonen; ac (e) dant côn ddant. Graddfa = 0.2mm. Darnau trilobitau tua 4mm o lêd.
Tua 480 miliwn o flynyddoedd yn ôl, Avalonia wedi gwahanu o Gondwana
Delwedd 2: Tua 480 miliwn o flynyddoedd yn ôl, Avalonia wedi gwahanu o Gondwana, a Chymru'n dechrau ar ei siwrnai hir tua'r trofannau gan daro arfordir dwyreiniol Laurentia (Gogledd America) 70-80 miliwn o flynyddoedd yn ddiweddarach. Bywyd morol amrywiol mewn ardaloedd trofannol, fel y gwelwn yn y ffosilau yma o ranbarthau Awstralasia a'r Dwyrain Canol yn Gondwana: (a) cwrel cynnar; (b) ostracod, anifail cramennog pitw; a (c) bryosoaid yn grofen ar gragen braciopod.
440 miliwn o flynyddoedd yn ôl, roedd y byd yn ymadfer wedi oes iâ a difodiant torfol.
Delwedd 3: 440 miliwn o flynyddoedd yn ôl, roedd y byd yn ymadfer wedi oes iâ a difodiant torfol. Ymsefydlodd y rhan fwyaf o rywogaethau a oroesodd yn y trofannau gan fudo'n ddiweddarach i ledredau uwch. Mae cofnod prin mewn creigiau Silwraidd o Iran o'r mudo hwnnw: (a) braciopodau cyffredin a (b) bryosoaid; (c) platiau microsgopig o chwerwddwr y môr; (d) sbyngau prin; (e) trilobit Calymenaidd; (f) dannedd côn ddant a (g) braciopodau siâp côn.

Mae'r Amgueddfa'n meddu ar gasgliadau mawr o ffosilau o bob cwr o'r byd wedi'u dyddio i ddechrau'r cyfnod Paleosöig (540-400 miliwn o flynyddoedd yn ôl). Daw nifer o leoliadau a fu, yn ôl hanes daearegol, yn rhan o uwchgyfandir anferth o'r enw Gondwana. Roedd Cymru hefyd yn rhan o Gondwana, cyn torri'n rhydd tua 480 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Byd estron, hynafol

Byddai'r glôb yn edrych yn wahanol iawn 400-550 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Roedd Hemisffer y Gogledd bron yn gyfan gwbl dan ddŵr cefnfor Panthalassa. Yn Hemisffer y De roedd tir yn ymestyn yr holl ffordd o'r pegwn i'r Cyhydedd. Doedd dim moroedd yn gwahanu De America, Affrica, Awstralia, Antarctica ac India – roedden nhw i gyd yn un uwchgyfandir a enwyd gan wyddonwyr yn Gondwanaland, neu Gondwana. Roedd rhannau helaeth o dde a de-ddwyrain Asia yn rhan ohono, yn ogystal â de Ewrop, gyda rhai ardaloedd yn sownd i'r cyfandir ac eraill yn gadwyni o ynysoedd a llosgfynyddoedd oddi ar arfordir Gondwana. Roedd rhai o'r ynysoedd yma, fel gogledd a de Tsieina, yn gyfandiroedd bychan eu hunain.

Y bywyd cymhleth cyntaf

Ffurfiwyd Gondwana wedi gwrthdrawiad nifer o gyfandiroedd hynafol rywbryd yn ystod y Cyfnod Ediacaraidd erbyn 550-530 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Dyma lle gwelwn y cofnod ffosil cynharaf o fywyd cymhleth. Enwyd y Cyfnod ar ôl Bryniau Ediacara yn Ne Awstralia, lle canfu'r daearegwr Reg Sprigg y ffosilau anifeiliaid hynaf y gwyddid amdanynt ar y pryd ym 1946. Byth er hynny, Gondwana yw ein ffynhonnell bwysicaf o wybodaeth am y cyfnod metasoaidd cynnar (anifeiliaid cymhleth). Yn ogystal ag Awstralia, gwyddom am leoliadau ffosilau pwysig ar draws y byd – o Namibia i Newfoundland, ac o ganolbarth Iran i Gymru. Roeddent i gyd yn rhan o Gondwana yn yr un cyfnod.

O'r Ffrwydrad Cambriaidd...

Prin yw'r dystiolaeth o fywyd mewn cerrig a ffurfiwyd yn ystod y Cyfnod Ediacaraidd, ond newidiodd popeth ar ddechrau'r Cyfnod Cambriaidd, ychydig dros 540 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Yn y cyfnod hwn dechreuodd anifeiliaid morol ddatblygu rhannau caled, neu sgerbydau, am y tro cyntaf. Cadwyd gweddillion anifeiliaid o'r fath ar wahân; er enghraifft, dannedd anifeiliaid di-asgwrn-cefn a sbigylau sbyngau fel ffosilau cerrig; molysgau a braciopodau. fel cregyn; a thrilobitau ac anifeiliaid tebyg fel argregyn cyflawn. Mae ffosilau o'r fath i'w gweld mewn lleoliadau ffosil o bob cwr o Gondwana, o Newfoundland i Awstralia.

Mewn rhai lleoliadau, mae meinwe meddal rhai o'r anifeiliaid wedi'i gadw hefyd, ac un o'r ardaloedd pwysicaf a chyfoethocaf yn y maes hwn yw Chengjiang, De Tsieina. Mae'r ffosilau yma'n dystiolaeth ddarbwyllol bod bron pob prif fath o anifail di-asgwrn-cefn sy'n bodoli heddiw wedi bodoli ers dechrau'r cyfnod Cambriaidd.

... i'r amrywiaeth Ordoficaidd?

Yn ystod y Cyfnod Ordoficaidd (440-490 miliwn o flynyddoedd yn ôl) gwelodd bywyd yn y moroedd hynafol newidiadau mawr. Dechreuodd anifeiliaid oedd yn byw ar wely'r môr dyfu'n fwy, ymhellach o wely'r môr, ac ymddangosodd y riffiau cwrel cyntaf. Canlyniad hyn oedd cynnydd rhyfeddol mewn amrywiaeth bywyd.

Roedd mwy o anifeiliaid yn y byd Ordoficaidd yn byw yn sownd i wely'r môr ac yn bwyta plancton wedi'i ffiltro o ddŵr môr. Yn eu plith roedd nifer o gwrelau, brachiopodau, bryosoaid neu anifeiliaid mwsog, a crinoidau neu lilis môr. Roedd anifeiliaid symudol yn byw yn eu plith hefyd, gan gynnwys molysgau ac arthropodau. Roedd trilobitau yn dal yn niferus ond gydag amser aethant yn llai pwysig.

Fel moroedd de-ddwyrain Asia heddiw, roedd y moroedd trofannol o amgylch ardal Awstralia yn Gondwana yn ffynhonnell bwysig o fywyd morol newydd.

Y diwedd a dechrau newydd

Tua diwedd y Cyfnod Ordoficaidd, roedd bywyd ar y ddaear yn wynebu her fawr newydd, a'r canlyniad oedd y difodiant torfol ail fwyaf erioed. Ffurfiodd pegwn ia anferth yn Hemisffer y De, lle roedd mwyafrif y moroedd bâs oedd yn gynefin i fywyd morol. Yn ystod cymal (Hirnantaidd) olaf y Cyfnod Ordoficaidd gorchuddiwyd cyfran helaeth o Gondwana gan iâ trwchus. Gwelir tystiolaeth helaeth o hyn ar draws Affrica, Brasil a Phenrhyn Arabia, ac mae ein tîm ymchwil wedi canfod tystiolaeth yn Iran hefyd yn ddiweddar. Oerodd yr hinsawdd a disgynnodd lefel y môr o ganlyniad i'r llen iâ, gan newid cynefinoedd morol bâs yn sylweddol.

Enwyd y Cyfnod Hirnantaidd ar ôl Cwm Hirnant ger y Bala, y man lle sylwyd ar y cyfnod daearegol hanesyddol hwn am y tro cyntaf. Erbyn hynny, roedd Cymru ymhell o'r byd Gondwanaidd oedd yn prysur oeri, ac fel rhan o gyfandir bychan o'r enw Avalonia yn nesáu at ranbarth trofannol Laurentia (cyfandir hynafol Gogledd America). Yng Nghymru y cafodd 'trychineb ffawna Hirnantia' ei darganfod a'i disgrifio am y tro cyntaf. Esblygodd y grŵp cyfyng hwn o anifeiliaid yn rhanbarthau tymherus Gondwana wedi ton gyntaf y difodiant bydol. Gyda difodiant mwyafrif helaeth y gystadleuaeth, roeddent yn rhydd i ymledu'n gyflym ar draws y byd.

Erbyn diwedd y Cyfnod Ordoficaidd roedd dwy ran o dair o'r holl rywogaethau morol wedi difodi, a'r amrywiaeth rhyfeddol o fywyd ym mhob cwr o'r byd i gyd bron wedi diflannu. Dyma'r rhywogaethau oedd yn ddigon ffodus i oroesi yn ymledu drwy'r moroedd bâs wedi toddi'r llen iâ yn nechrau'r Cyfnod Silwraidd, tua 440 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Ffynnodd bywyd morol unwaith eto a gwelwyd amrywiaeth drachefn. Erbyn hyn roedd y pedwar prif gyfandir – Gondwana, Laurentia (Gogledd America), Baltica (Ewrop) a Siberia – yn graddol symud i'r gogledd ac at ei gilydd ac erbyn diwedd y Cyfnod Paleosöig byddent yn uno i ffurfio un cyfandir anferth, Pangea (Daear gyfan). Roedd byd newydd ag iddo'i hanes ei hun yn ffurfio.

Erthygl gan: Leonid Popov, Curadur Ymchwil (Palaeontoleg)

Dyddiad yr erthygl: 23 Rhagfyr 2013

+ Dangos sylwadau

---

Gadael sylw


Geirfa

Infertebratau
Anifeiliaid di-asgwrn-cefn.

Molysgiaid
Grŵp o infertebrata gyda chyrff meddal ac fel arfer gyda chregyn allanol caled. Mae molysgiaid cyffredin yn cynnwys cocos, wystrys, malwod, gwlithod, wythdroediaid a môr-lewys.

Arthropod
Anifail di-asgwrn-cefn ag argragen allanol galed a llawer o goesau cymalog, e.e. pryfed, crancod.

Metasoad
anifail amlgellog

Paleosöig
Gorgyfnod daearegol rhwng 542 a 251 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:
starstarstarstarstar

Delweddau:
starstarstarstarstar

Arddull a darllenadwyedd:
starstarstarstarstar