Rydych chi yn: Archwilio'r Casgliadau > Cymru 1678: Ail-greu'r brasluniau cynharaf o Gymru a luniwyd yn y fan a'r lle

Cymru 1678: Ail-greu'r brasluniau cynharaf o Gymru a luniwyd yn y fan a'r lle

Mae gan Amgueddfa Cymru frasluniau o bymtheg golygfa o Gymru a luniwyd gan Francis Place (1647-1728). Mae deg o'r rhain mewn un llyfr braslunio. Tynnwyd y deg braslun ym 1678, a dyma'r lluniau cynharaf o Gymru a dynnwyd 'yn y fan a'r lle'.

Prynodd yr Amgueddfa'r brasluniau gan ddeliwr ym 1931. Roedd y deliwr wedi'u prynu yn Sotheby's mewn arwerthiant o gasgliad Coleg Celf Patrick Allan-Fraser yn Arbroath, yr Alban. Roedd y casgliad yn cynnwys darluniau, argraffiadau, crochenwaith a'r unig lun olew hysbys, sef hunanbortread, a ddaeth i law'n uniongyrchol drwy deulu Place.

Mae'r darluniau wedi'u gwneud drwy gyfuno o leiaf dwy ddalen ar wahân a'u gludo ar ddalen arall i'w dal at ei gilydd, sef papur cynnar wedi'i wehyddu mwy na thebyg, sy'n awgrymu bod y gwaith yn perthyn i ddiwedd y ddeunawfed ganrif neu ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Roedd rhai darluniau a oedd yn ymestyn dros y dudalen wedi'u gadael yn 'rhydd', fel bod modd i'r sawl a oedd yn edrych arnynt godi'r dudalen a gweld yr ochr arall. Roedd eraill wedi'u gludo i ddalen gynnal gan guddio'r braslun 'dibwys' ar y cefn.

Brasluniau cudd

Yn ystod y gwaith cadwraeth, penderfynodd staff yr Amgueddfa dynnu'r holl frasluniau oddi ar y dalenni cynnal. Ar ôl tynnu'r holl frasluniau o'r llyfr, daeth i'r amlwg bod darlun ar gefn un dudalen yn perthyn i ddarlun ar gefn tudalen arall, gan greu darlun dwy dudalen newydd.

Drwy wneud hyn datgelwyd brasluniau nad oeddent wedi'u gweld ers i'r llyfr braslunio gwreiddiol gael ei ddarnio o leiaf 200 mlynedd yn ôl. Roedd yn bosibl gweld trefn wreiddiol y brasluniau hefyd.

Caerdydd

Mae gan lawer o'r brasluniau groes neu saeth yn dangos lle mae'r olygfa banoramig yn ymestyn dros y dudalen. Mae Caerdydd yn ddau fraslun dwy dudalen sy'n uno. Mae yna groes ar dŵr yr eglwys yn y ddau fraslun, yn dangos lle mae'r ddau yn gorgyffwrdd.
<em>Cardydd</em> (1678) Francis Place. Braslun dros ddwy dudalen 1
Cardydd (1678) Francis Place. Braslun dros ddwy dudalen 1
<em>Cardydd</em> (1678) Francis Place. Braslun dros ddwy dudalen 2
Cardydd (1678) Francis Place. Braslun dros ddwy dudalen 2
<em>Caerdydd</em> (1678) Francis Place, wedi'u cyfuno'n ddigidol.
Caerdydd (1678) Francis Place, wedi'u cyfuno'n ddigidol.

Golygfeydd panoramig nas gwelwyd o'r blaen

Gan nad oedd llawer o botensial mewn dangos y golygfeydd hanesyddol hyn o Gymru mewn oriel draddodiadol, cafodd y lluniau eu sganio a'u cyfuno drwy ddefnyddio technoleg ddigidol. Roedd modd gweld y lluniau panoramig fel delweddau cyflawn am y tro cyntaf erioed wedyn.

Yn ystod y broses, dadlennwyd gwybodaeth am ddulliau Place o weithio. Wrth gyfuno'r tudalennau gwahanol, nid oedd angen newid y gorwel yn y lluniau i sicrhau ei fod yn syth — tystiolaeth o allu Place fel dyluniwr.

Er nad yw technoleg wedi newid y dulliau o drin y gwrthrychau hyn, mae wedi gwella ein gwybodaeth amdanynt drwy ddatgelu llawer am ddulliau gweithio'r arlunydd.

Ystumllwynarth

Mae gan Ystumllwynarth ddwy groes ar yr ymyl chwith, yn dangos bod y darlun yn parhau dros y dudalen. Ar ochr arall y ddalen ceir croesau cyfatebol ar yr ymyl dde
<em>Ystumllwynarth</em> (1678) Francis Place.
Ystumllwynarth (1678) Francis Place. Braslun 1
<em>Ystumllwynarth</em> (1678) Francis Place.
Ystumllwynarth (1678) Francis Place. Braslun 2
<em>Ystumllwynarth</em> (1678) Francis Place
Ystumllwynarth (1678) Francis Place wedi'u cyfuno'n ddigidol

Ymchwil

Mae'r rhan fwyaf o waith gwreiddiol Place yn dod o arwerthiant Sotheby's ym 1931. Mae eitemau amrywiol o'r arwerthiant hwn bellach i'w gweld yn Amgueddfa Victoria ac Albert yn Llundain, gan gynnwys nifer o ddarluniau wedi'u mowntio a dau lyfr braslunio. Mae'r eitemau hyn yn awgrymu bod y darluniau sydd i'w gweld yn Amgueddfa Cymru ac Amgueddfa Victoria ac Albert yn perthyn i un llyfr braslunio yn wreiddiol.

Mae llyfr braslunio cyntaf Amgueddfa Victoria ac Albert yn cynnwys deunaw tudalen, yr un nifer yn union â'r un yn Amgueddfa Cymru, ac mae ganddo'r un dyfrnodau; ceir rhestr ar ddechrau'r llyfr braslunio sy'n cyfateb i'r golygfeydd ynddo, ac mae'r rhestr yn parhau gyda llefydd yng Nghymru sy'n cyfateb i'r drefn a sefydlwyd ar ôl astudio brasluniau Amgueddfa Cymru.

Er nad Place a ysgrifennodd y rhestr, mae'n ymddangos yn gymharol hen. Efallai mai un o ddisgynyddion Place a wnaeth y rhestr cyn symud y brasluniau gorau i'w mowntio mewn llyfr ar wahân?

Ceir mwy o dystiolaeth yn ail lyfr braslunio Amgueddfa Victoria ac Albert, sy'n cynnwys darn o bapur wedi'i ludo y tu mewn i'r clawr cefn. Mae'r ddalen hon yn cyfateb i'r braslun olaf yn y llyfr braslunio cyntaf. Yn anffodus, mae'r dudalen olaf wedi'i gludo i lawr, ond ar yr unig ddarn bach y gellir ei godi, gwelir llinell pensil glir, a allai gyfateb i un o frasluniau Amgueddfa Cymru...

Dinbych-y-Pysgod

Gwelir enghraifft arall o blygu drosodd ynDinbych-y-Pysgod. Mae'r plyg ar ochr chwith y darlun yn dangos yr ochr arall.
<em>Dinbych-y-Pysgod</em> (1678) Francis Place
Dinbych-y-Pysgod (1678) Francis Place. Braslun 1
<em>Dinbych-y-Pysgod</em> (1678) Francis Place
Dinbych-y-Pysgod (1678) Francis Place. Braslun 2
<em>Dinbych-y-Pysgod</em> (1678) Francis Place.
Dinbych-y-Pysgod (1678) Francis Place. Wedi'u cyfuno'n ddigidol

Erthygl gan: Emily O'Reilly, yr Adran Gelf

Dyddiad yr erthygl: 11 Chwefror 2011

+ Dangos sylwadau

---

Gadael sylw


Geirfa

Verso
Verso yw cefn, neu ochr wrthwyneb dalen o bapur mewn eitem wedi’i rhwymo. Recto yw ochr flaen y ddalen.

Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:
starstarstarstarstar

Delweddau:
starstarstarstarstar

Arddull a darllenadwyedd:
starstarstarstarstar