Rydych chi yn: Archwilio'r Casgliadau > Ar drywydd y derwyddon

Ar drywydd y derwyddon

'An Archdruid in his Judicial Habit' o Costume of the Original Inhabitants of the British Isles (1815) gan Samuel Rush Meyrick a Charles Hamilton Smith.
'An Archdruid in his Judicial Habit' o Costume of the Original Inhabitants of the British Isles (1815) gan Samuel Rush Meyrick a Charles Hamilton Smith.
Teml Dderwyddol dybiedig Tre'r Dryw (Môn) - paratowyd gan y Parchedig Henry Rowlands (1723)
Teml Dderwyddol dybiedig Tre'r Dryw (Môn) - paratowyd gan y Parchedig Henry Rowlands (1723)
seremoni dderwyddol
Dyfaliad, a baratowyd yn gynnar yn y bedwaredd ganrif a bymtheg, o sut olwg fyddai ar seremoni dderwyddol yng Nghôr y Cewri. Gwyddom bellach, y cafodd Côr y Cewri ei godi tua 1,500 o flynyddoedd cyn ymddangosiad y cyfeiriad hanesyddol cyntaf at y derwyddon.
Llyn Cerrig Bach
Llyn Cerrig Bach (Ynys Môn). Cafwyd hyd i lawer iawn o waith metel o'r Oes Haearn yn y llyn ym 1943.[Llun © Philip Macdonald].
Detholiad o waith metel
Detholiad o waith metel y cafwyd hyd iddo yn Llyn Cerrig Bach, gan gynnwys cadwynau caethweision, cleddyfau wedi'u plygu, arfau ac offer cerbyd.

Ers tro byd mae derwyddon, offeiriaid Prydain ac Iwerddon 'slawer dydd, wedi ennyn diddordeb a thanio dychymyg nifer fawr o bobl gyffredin. Mae'r ddelwedd ystrydebol o'r dyn doeth yn ei wisg wen, yn cario cryman aur, a thusw o uchelwydd neu ffon yn ei law, yn un sydd wedi'i serio ar ein cof hyd heddiw. Mae'n greadigaeth ganrifoedd lawer o bendroni a dychymyg byw. Ond pa dystiolaeth sydd gennym am y cymeriadau pwerus ond annelwig hyn?

Ceir y cyfeiriadau cyntaf at y Derwyddon yng ngwaith yr awduron Clasurol, yn enwedig Posidonius, Strabo a Julius Caesar, oedd yn ysgrifennu yn ystod y ganrif gyntaf CC. Mae'r rhain yn crybwyll y druidae yng Ngâl (Ffrainc) a Phrydain, oedd yn ddynion doeth, yn arsylwyr digwyddiadau naturiol ac yn athronwyr moesol. Roedd eu swyddogaethau'n bwysig yn y cymunedau Celtaidd hyn, gan mai hwy a ganiatâi ryfela, hwy oedd ceidwaid gwybodaeth, a hwy oedd yn gweinyddu cyfiawnder ac yn goruchwylio aberthau a seremonïau crefyddol.

Mewn cysylltiad agos â hwy oedd y beirdd (bardoi), y cantorion a'r prydyddion, a'r dewiniaid (vates), oedd yn dehongli aberthau er mwyn rhagfynegi'r dyfodol. Yn ôl Caesar, tarddle Derwyddiaeth oedd Prydain, a chredir i Timaeus, hanesydd o Roeg, eu crybwyll am y tro cyntaf mor gynnar â diwedd y bedwaredd ganrif CC.

Roedd derwyddon a beirdd hefyd yn gymeriadau amlwg mewn testunau Cymraeg a Gwyddeleg o'r Oesoedd Canol, ac yn ôl pob tebyg cofnodai'r rhain draddodiad llafar cynharach a drosglwyddwyd o'r naill genhedlaeth i'r llall. Mae'r testunau Gwyddeleg yn cynnwys Chwedl Wlster, Llyfr y Fuwch Frech a'r Chwedl Ffeniaidd.

Yng Nghymru, rhestrwyd swyddogaethau a breintiau'r beirdd mewn dogfennau yn ymwneud â'r cyfreithiau a luniwyd gan Hywel Dda yn y ddegfed ganrif OC. Yn ystod y ddeunawfed ganrif, ystyriwyd y derwyddion fel hynafiaid y beirdd, y beirdd oedd yn canu mawl, cerddorion ac achyddion, oedd yn ffynnu yn y gymdeithas Gymraeg ganoloesol.

Mae'n anodd bwrw goleuni ar bryd a gwedd y derwyddon, nac ar eu gwisgoedd a'u heiddo. Prin iawn yw'r darluniau neu arysgrifau sy'n dyddio o'r cyfnod, a phur anaml mae'r dystiolaeth archaeolegol yn cynnig atebion pendant. Mae llawer wedi dibynnu ar ddisgrifiad o seremoni dderwyddol a gofnodwyd gan yr awdur Pliny, yn ei Natural History. Yn yr adroddiad hwn, mae derwydd yn ei wisg wen yn dringo derwen er mwyn torri tusw o uchelwydd â chryman aur.

Dechreuwyd ailymddiddori yn y derwyddon yng nghyfnod y Dadeni (y bedwaredd ganrif ar ddeg hyd yr unfed ar bymtheg), pan roedd mynd mawr ar y testunau Groeg a Lladin Clasurol. Mae nifer o ffynonellau yn disgrifio derwyddon, a addolai mewn llennyrch anghysbell a gerllaw pyllau a llynnoedd cysygredig, yn aberthu pobl. Er enghraifft, mae'r hanesydd Tacitus, a oedd yn ysgrifennu yn ystod y ganrif gyntaf OC, yn crybwyll cellïoedd derwyddol Mona (Môn), gan sôn hefyd fod gwaed carcharorion yn cael ei daenu ar eu hallorau.

Ar gorn y fath adroddiadau, ym 1659 awgrymodd John Aubrey, prif hynafiaethydd ei gyfnod, fod cylchoedd cerrig Avebury a Chôr y Cewri wedi bod yn demlau derwyddol. Yn yr un modd, ym 1723, roedd y Parchedig Henry Rowlands o'r farn fod nifer o gofadeiliau megalithig Môn yn demlau ac yn allorau aberthol derwyddon. Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif, daeth 'neo dderwyddiaeth', dan arweiniad pobl megis y Parchedig William Stukely, yn symudiad diwylliannol o bwys ym Mhrydain. Fodd bynnag, gyda'r cynnydd mewn dealltwriaeth archaeolegol yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, daeth yn amlwg y cafodd y cofadeiliau hyn eu codi dros 4,000 o flynyddoedd yn ôl, ymhell cyn ymddangosiad y derwyddon. Eto i gyd, mae derwyddon a beirdd yn dal i ymgynnull y tu mewn i gylchoedd cerrig heddiw.

Hyd yn oed os yw archaeoleg yn ei chael hi'n anodd adnabod derwyddon, y mae'n darparu tystiolaeth gadarn am arferion crefyddol pobl yr Oes Haearn Geltaidd. Yng Nghymru, cafwyd hyd i dystiolaeth o'r traddodiad o gynnig gwaith metel o fri i'r duwiau ar safle Llyn Cerrig Bach ym Môn. Yma, rhwng 300 CC a CC 100, cafodd cerbydau, arfau, offer ac eitemau o waith metel addurnedig eu taflu o sarn neu ynys i mewn i lyn bach. Trwy gyd-ddigwyddiad, ceir adroddiad gan yr awdur Rhufeinig Tacitus sy'n dwyn i gof mewn modd trawiadol iawn orchfygiad cadarnle derwyddol ym Môn gan y fyddin Rufeinig, digwyddiad a berodd i rai pobl gredu bod Llyn Cerrig Bach yn safle derwyddol.

Cafwyd hyd i enghreifftiau eraill o ddefodau'r Oes Haearn Geltaidd hefyd. Er enghraifft, cafodd corff gŵr a aberthwyd, yn ôl pob tebyg, oedd wedi'i gadw mewn haenau o fawn, ei ddarganfod yn Lindow Moss, Sir Gaer (Lloegr). Yn ne a dwyrain Lloegr, cloddiwyd temlau o'r Oes Haearn oedd yn cynnwys offrymau o ddarnau arian, bwyd ac arfau. Yn ddiweddar, cafodd powlen enwog Cerrigydrudion, sydd wedi'i haddurno'n gywrain yn null celfyddyd Geltaidd La Tène, ei dehongli'n argyhoeddiadol fel coron seremonïol. Mae'n bosibl fod hon a nifer o goronau a theyrndlysau eraill, a ddarganfuwyd mewn claddfeydd neu demlau ym Mhrydain, yn dynodi swyddogaeth offeiriadol.

Yn y byd cynhanesyddol hwn, teimlid grym y duwiau Celtaidd paganaidd yn fyw iawn, grym oedd yn fythol bresennol ac yn rhan annatod o fywyd bob dydd.

Darllen Cefndir

Druids gan A. Ross. Tempus Publishing (1999).

Exploring the World of the Druids gan M. J. Green. Cyhoeddwyd gan Thames & Hudson (1997).

Shrines & Sacrifice gan A. Woodward. Cyhoeddwyd gan Batsford (1992).

Tacitus: the annals gan J. Jackson. Cyhoeddwyd gan William Heinemann (1951).

The Bog Man and the Archaeology of People gan D. Brothwell. British Museum Publications (1986).

The Druids gan S. Piggott. Cyhoeddwyd gan Thames & Hudson (1968).

Dyddiad yr erthygl: 3 Mai 2007

+ Dangos sylwadau

---

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:
starstarstarstarstar

Delweddau:
starstarstarstarstar

Arddull a darllenadwyedd:
starstarstarstarstar