Y Diweddaraf am Ysbrydwlithen, Gwanwyn 2010

Helpwch ni i ddysgu mwy am ddirgelwch yr "Ysbrydwlithen" estron: Diweddaraf, Gwanwyn 2010

Diolch i'r 200 ohonoch chi sydd wedi cyfrannu hyd yma! Ers mis Gorffennaf 2008, mae pobl o bob cwr o'r DU (a thu hwnt) wedi dweud wrthym eu bod wedi gweld Ysbrydwlithen, ac mae'n dda gweld bod ein neges wedi teithio mor bell. Hefyd, aeth llawer o bobl ati i anfon ffotograffau neu sbesimenau atom er mwyn i ni adnabod eu gwlithod, neu ddod â nhw i'r Amgueddfa yma yng Nghaerdydd.

Dosbarthiad

Mae patrwm pendant wedi deillio o'r cofnodion Ysbrydwlithod a wiriwyd (gweler y map). Mae bron pob un wedi'i gweld yn y De-ddwyrain, gydag un ar y gororau yn y Gelli Gandryll ac un yn Knowle, Bryste. Er efallai bod pobl yn y rhan hon o Brydain wedi bod yn fwy tebygol o ymateb i'n hapêl, rydym o'r farn bod y canlyniadau hyn yn adlewyrchu dosbarthiad go iawn y rhywogaeth, gan fod ein hymatebion eraill wedi dod o bedwar ban byd.

Mae'r map yn dangos bod y wlithen eisoes wedi gwasgaru'n gymharol eang, ond dim ond mewn rhan fach o'r DU. Pam mae'r ardal hon mor fach? Efallai gan mai dim ond yn ddiweddar y cyrhaeddodd yr ardal, a'i bod yn dal i symud. Gwelwyd y wlithen gyntaf yn Aberhonddu yn 2004 . Ni all y gwlithod fod wedi ymlusgo mor bell ar eu pennau eu hunain, felly mae'n rhaid eu bod wedi'u gwasgaru gan ddyn, mewn pridd neu gompost o bosibl. Fel arall, efallai mai'r ardal lle mae'r gwlithod hyn wedi'u gweld yw'r ardal lle maen nhw'n goroesi ac yn bridio orau. Mae gan y De-ddwyrain ac ardal Bryste hinsawdd a phriddoedd cymharol debyg, ac mae'n amlwg bod hyn at ddant y gwlithod.

Mae'r holl gofnodion sydd wedi'u gwirio wedi'u cyflwyno i Gymdeithas Gregynegol Prydain ac Iwerddon , sy'n cofnodi dosbarthiad holl folysgiaid Prydain ac Iwerddon.

Cynefin a thymhorau

Daw'r holl gofnodion Ysbrydwlithod sydd wedi'u gwirio o erddi neu ardaloedd trefol yn ymyl gerddi. Mae'r rhain yn gynefinoedd lle mae llawer o rywogaethau estron eraill i'w gweld. Wrth gwrs, maen nhw hefyd yn llefydd lle mae pobl yn fwy tebygol o sylwi ar wlithod. Mae Ysbrydwlithod byw wedi'u gweld ar bron i bob adeg o'r flwyddyn (gweler y graff). Gwelir y rhan fwyaf ohonynt yn ystod y misoedd cynhesaf, a allai adlewyrchu cynnydd mewn gweithgarwch neu niferoedd gwlithod, ond dyma hefyd yr adeg pan mae pobl yn treulio mwy o amser yn eu gerddi. Mae'n ymddangos nad yw'r oerfel yn effeithio ar y rhywogaeth hon! Mae'r cofnodion diweddaraf yn profi bod o leiaf rhai Ysbrydwlithod wedi goroesi ein gaeaf oeraf ers 30 mlynedd; gwelwyd oedolyn yng Nghaerdydd ddechrau mis Mawrth 2010.

Gwlithen welw arall

Mae llawer o bobl yn drysu rhwng yr Ysbrydwlithen a Gwlithen y Maes, Deroceras reticulatum, sydd wedi'i chynnwys yn ein canllaw adnabod. Mae'r rhywogaeth welw, lysysol hon yn gyffredin mewn gerddi a lawntiau. Anfonodd ychydig o bobl sbesimenau gwelw o'r Wlithen Fwydyn (Boettgerilla pallens) atom. Daw'r enw "Gwlithen Fwydyn" o siâp y corff; yn wahanol i'r Ysbrydwlithen, nid yw'r rhywogaeth hon yn bwydo ar abwydod. Fel Gwlithod y Maes, mae gan Wlithod Mwydyn smotiau llygad a thwll anadlu yn agosach at ganol y corff. Mae'r twll anadlu yn y rhan siâp cyfrwy y wlithen, sef y fantell (gweler y llun). Mae'r Ysbrydwlithen yn wahanol; mae ei mantell a'r twll anadlu ym mhen isa'r corff, ac nid oes ganddi smotiau llygad. Credir bod y Wlithen Fwydyn wedi dod o'r Cawcasws (yr un rhan o'r byd â'r Ysbrydwlithen), ac wedi gwasgaru'n gyflym iawn ym Mhrydain ers y 1970au.

A ydym am wybod o hyd os ydych yn gweld yr Ysbrydwlithen?

Ydym! Rydym ni am fonitro unrhyw wasgariad pellach gan y rhywogaeth hon, yn enwedig os yw'n cael ei gweld mewn rhannau eraill o'r DU neu Ewrop. Mae manylion cyswllt ar y canllaw adnabod. Cofiwch bod rhaid i wlithod gael eu gwirio gyda sbesimen neu ffotograff cyn iddynt gael eu cyfrif.

Diolch unwaith eto i bawb sydd wedi cymryd rhan.

Dyddiad yr erthygl: 6 Mehefin 2010

+ Dangos sylwadau

---

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:
starstarstarstarstar

Delweddau:
starstarstarstarstar

Arddull a darllenadwyedd:
starstarstarstarstar