Rhagor - darganfod byd o gasgliadau

Dinorwig: Cofio'r Cau

Cofio'r Cau

[delwedd: Chwarel Dinorwig]

Chwarel Dinorwig. Gyda dyfodiad y Chwyldro Diwydiannol defnyddiwyd llechi i doi ffatrïoedd a thai drwy Brydain ac Ewrop, yn ogystal â threfi yng ngogledd America a rhannau eraill o'r byd.

Ar 22ain Awst 1969 daeth distawrwydd i Chwarel Dinorwig. Wedi bron 200 mlynedd o lafur caled, caewyd y chwarel ac anfonwyd y chwarelwyr adref am y tro olaf.

Collodd 350 o ddynion eu gwaith, ac yn sgil hyn newidiodd cymuned chwarelyddol a ffordd o fyw a oedd wedi bodoli ers y 1780au am byth.

Roedd pawb yn yr ardal wedi byw yng nghysgod Chwarel Dinorwig ar hyd eu hoes. Roedd gan bawb dad, daid, ŵr, ewythr neu frawd oedd wedi gweithio yno. Ganrif ynghynt, byddai cau'r chwarel yn anodd ei dychmygu. Roedd Chwarel Dinorwig yn un o'r chwareli llechi mwyaf yn y byd — a, gyda Chwarel y Penrhyn ym Methesda, gallai gynhyrchu mwy o lechi toi mewn blwyddyn na'r holl chwareli llechi eraill yn y byd gyda'i gilydd.

Y Chwarelwr

slate.f4v
Darn yw hwn o'r ffilm sain gyntaf yn y Gymraeg, sef Y Chwarelwr, a wnaed ym 1935. 'Does dim sain yn y darn hwn am mai rhannau yn unig o'r ffilm sydd wedi goroesi, ac fe recordiwyd y sain ar ddisgiau ar wahân i'r ffilm ei hun. (O archif Amgueddfa Werin Cymru. Ffilm rhif 60. Hwylfraint: Urdd Gobaidd Cymru)

Darn yw hwn o'r ffilm sain gyntaf yn y Gymraeg, sef Y Chwarelwr,
a wnaed ym 1935. 'Does dim sain yn y darn hwn am mai rhannau yn
unig o'r ffilm sydd wedi goroesi, ac fe recordiwyd y sain ar
ddisgiau ar wahân i'r ffilm ei hun. © Urdd Gobaidd Cymru

Pam y bu i'r chwarel gau?

[delwedd: Grŵp o chwarelwyr]

Grŵp o chwarelwyr

Ddim dros nos ddigwyddodd y dirywiad yn Chwarel Dinorwig. Doedd pethau ddim yn dda ers rhai blynyddoedd am sawl rheswm:

  • doedd dim cymaint o alw am lechi ym Mhrydain yn ystod yr 20fed ganrif;
  • roedd llechi Cymru yn ddrud o'u cymharu â theils to a llechi o dramor;
  • roedd perchenogion y chwareli yn cystadlu yn erbyn ei gilydd am farchnad weddol fychan;
  • 'doedd Chwarel Dinorwig ddim wedi ei datblygu'n effeithiol. Roedd y llechfaen oedd yn hawdd ei gyrraedd wedi ei gloddio i gyd erbyn y 60au, ac roedd rhaid gwario i ddatblygu ymhellach. 'Doedd gan perchnogion y chwarel ddim mo'r arian i wneud hynny. Un o'u camgymeriadau oedd buddsoddi'n helaeth yn Marchlyn - rhan o'r mynydd wnaeth ddim dwyn ffrwyth iddyn nhw o gwbl. Dim ond 'baw' oedd yno — dim llechi;
  • erbyn diwedd y 1960au, roedd y chwarel yn dibynnu ar archebion o Ffrainc i oroesi. Ym mis Gorffennaf 1969, daeth yr archebion hyn i ben. Dyma'r hoelen olaf yn yr arch.

Erbyn y 1960au, roedd y diwydiant llechi yn gyffredinol yn wynebu dyfodol mwy ansicr fyth.

Be nesa'?

[delwedd: Catalog ocsiwn fawr Chwarel Dinorwig]

Catalog ocsiwn fawr Chwarel Dinorwig. Rhagfyr 1969

Aeth nifer o'r 350 a gollodd eu gwaith i waith arall, rhai yn weddol lleol i Ferodo a Peblig ac eraill ymhellach i Ddolgarrog, Trawsfynydd a Chaergybi. Aeth rhai hyd yn oed ymhellach i chwilio am waith, i Corby, y dref ddur newydd yn Swydd Northants.

Yn ystod Hydref a Rhagfyr, 1969 bu'r gwerthu mawr - gwerthu popeth oedd werth ei gario o'r chwarel ac o'r gweithdai. Yn ffodus i ni yma yn yr Amgueddfa, sicrhaodd Hugh Richard Jones, Prif Beiriannydd Chwarel Dinorwig, na chafodd popeth ei werthu. Iddo fo, ac eraill tebyg iddo, mae'r diolch na ddatgymalwyd yr Olwyn Ddŵr enfawr ac y diogelwyd y peiriannau yn y gweithdai.

Dair blynedd wedi cau Chwarel Dinorwig, ym 1972, agorwyd Amgueddfa Lechi Cymru yn y Gilfach Ddu. Cyflogwyd Hugh Richard Jones fel y rheolwr cyntaf.

Dyddiad yr erthygl: 22 Awst 2009

2 sylw

Nathan Bohana ar 3 Chwefror 2010, 14:02

Roeddwn yn drist iawn pan wnath y chwarael cau.

Bill Lloyd ar 7 Rhagfyr 2009, 10:22

A lovely little article and it is sobering to think what the quarries must have been like when they were fully operational. My family were quarrymen from Ffestiniog and it was certainly a hard and dangerous life but, like the coal mines, there was a wonderful community which will never recover from the loss of their traditional industries.

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:     

Delweddau:     

Arddull a darllenadwyedd: