Rydych chi yn: Archwilio'r Casgliadau > Y Celtiaid cynharaf yn Ewrop

Y Celtiaid cynharaf yn Ewrop

Ffynonellau hanesyddol cynnar

Mae'r darlun hwn yn nodweddu'r ddelwedd glasurol o'r Celtiaid cynnar a ystyriwyd yn ymladdwyr unigol a ffyrnig.
Mae'r darlun hwn yn nodweddu'r ddelwedd glasurol o'r Celtiaid cynnar a ystyriwyd yn ymladdwyr unigol a ffyrnig.

Heddiw, ystyrir bod Cymru yn genedl Geltaidd, un o deulu o genhedloedd a rhanbarthau ar gyrion gorllewinol Ewrop. Caiff yr hunaniaeth Geltaidd hon ei derbyn gan lawer ac mae'n cyfrannu'n sylweddol at ein hunaniaeth genedlaethol - ond pwy oedd y Celtiaid cynharaf?

Mae'r atebion i'r cwestiwn ymddangosiadol syml hwn wedi cael eu casglu drwy ganrifoedd lawer o ymchwil i hanes cynnar, ieithoedd ac archaeoleg.

Pur anaml y cofnodai'r Celtiaid cynnar air amdanynt hwy eu hunain. Mae'r rhan fwyaf o'r cyfeiriadau ysgrifenedig yn argraffiadau a gofnodwyd gan awduron byd clasurol ardal Môr y Canoldir. I'r Groegwyr, fe'u hadwaenid fel y Keltoi, Keltai neu'r Galatai, ac i'r Rhufeiniaid y Celti, Celtae a'r Galli oeddynt.

Daw'r cyfeiriadau ysgrifenedig cyntaf at y Celtiaid gan yr awduron Groegaidd Hecataeus a Herodotus, oedd yn ysgrifennu tua 540 a 424CC. Ond ceir y sylwadau mwyaf treiddgar a gwerthfawr gan awduron Rhufeinig fel Polybius, Poseidonius a Julius Caesar oedd yn ysgrifennu rhwng 200CC ac OC0. Wrth i'r byd Rhufeinig ehangu, roeddent mewn cysylltiad uniongyrchol â'r Celtiaid ar hyd eu ffiniau gogleddol.

Mae'r testunau Clasurol yn dameidiog, llawer ohonynt wedi'u copïo flynyddoedd lawer wedi'r digwyddiadau maent yn eu cofnodi, ac yn cynnwys sylwadau personol a gwleidyddol rhagfarnllyd. Ar y gorau, felly, mae'r wybodaeth sydd gennym yn cynnig ambell gipolwg o'r Celtiaid ac, ar y gwaethaf, ceir honiadau annelwig a gwyrdroëdig.

Mae ffynonellau cynnar yn gosod y Celtiaid yng ngorllewin Ewrop ac yn meddiannu'r tiroedd ger blaenddyfroedd afon Donwy. Mae eu tiriogaethau cartref wedi eu priodoli i ardal oedd yn ymestyn o ganol a dwyrain Ffrainc, ar draws de'r Almaen ac i mewn i'r Weriniaeth Tsiec.

Mae'r cofnodion sydd wedi goroesi hefyd yn awgrymu eu bod yn bobl fudol, ryfelgar. Er enghraifft, yn fuan wedi 400CC croesodd y Celtiaid yr Alpau, gan oresgyn gogledd yr Eidal ac ymosod ar Rufain. Yn 335CC, cyfarfu dirprwyaeth o Geltiaid a drigai yng nghyffiniau Môr Adria ag Alecsander Fawr, ac yn 279CC ymosodasant ar deml gysegredig Delffi yng Ngwlad Groeg, cyn symud ymlaen i Dwrci'r flwyddyn wedyn.

Yn ddiddorol ddigon, nid oes un o'r testunau Clasurol yn cyfeirio at bobl Prydain ac Iwerddon fel Celtiaid; yn hytrach, enwir llwythau ac arweinwyr arbennig yn ystod y canrifoedd cyntaf CC ac OC. Erbyn i'r Rhufeiniaid ymosod ar Brydain roedd pobloedd pedwar llwyth yn meddiannu rhannau o'r hyn yr ydym yn ei hadnabod fel Cymru heddiw: yr Ordoficiaid (gogledd-orllewin), y Deceangli (gogledd-ddwyrain), y Demetae (de-orllewin) a'r Silwriaid (de-ddwyrain).

Er mwyn deall sut cysylltwyd y Celtiaid â Chymru am y tro cyntaf, rhaid i ni droi at ddatblygiad hanesyddol ieitheg Geltaidd (gwyddor iaith).

Iaith

Darn arian y Weriniaeth Rufeinig
Darn arian y Weriniaeth Rufeinig ac arno ben Galiad â'i wallt wedi'i olchi â chalch. Mae'r hanesydd Rhufeinig Diodorus Siculus yn disgrifio'r arferiad hwn yn ei ysgrifau. Mae'r fath ffynonellau'n cynnig cipolwg ac, o bosibl, ddarluniau camarweiniol o'r Celtiaid.

George Buchanon, un o ysgolheigion yr unfed ganrif ar bymtheg, oedd y cyntaf i ddatblygu syniadau ynglŷn â'r Celtiaid yn poblogi Prydain ac Iwerddon. Gan ddefnyddio tystiolaeth enwau lleoedd oedd wedi goroesi, awgrymodd fod pobloedd cyfandir Ewrop, ar un adeg, yn siarad grŵp perthynol o ieithoedd Galaidd. Gan fod Cymraeg cyfoes, Gwyddeleg a Gaeleg yn debyg i'r hen ieithoedd hyn, hawliwyd y daeth pobl Prydain yn wreiddiol o Ffrainc a Sbaen.

Ym 1703, cyhoeddodd Paul-Yves Pezron, mynach o Lydaw, lyfr oedd yn dadlau mai'r Llydaweg a'r Gymraeg oedd gweddillion hen ieithoedd Gâl. Cafodd y gwaith hwn ddylanwad mawr ar yr ysgolhaig blaenllaw o Gymro, Edward Llwyd, a gyhoeddodd The Glossography, ei gyfrol ieithyddol bwysig yntau ym 1707. Arweiniodd yr astudiaeth gymharol, arloesol hon at gydnabod bodolaeth dau deulu o ieithoedd Celtaidd, Celteg P neu Frythoneg (Cymraeg, Llydaweg, Cernyweg) a Chelteg Q neu Goedeleg (Gwyddeleg, Gaeleg, Mynaweg). Tybiwyd bod yr ieithoedd Brythonig wedi dod o Gâl (Ffrainc), tra bod yr ieithoedd Goedelig yn tarddu o Iberia (Sbaen, Portiwgal).

Yn ystod y ddeunawfed ganrif, cydgysylltwyd syniadau'n ymwneud ag iaith a hil, gan ddadlau bod pobl oedd yn siarad ieithoedd Celtaidd yn Geltiaid o ran cenedl. O ganlyniad, cyfeiriwyd fwyfwy at drigolion hynafol Cymru, a Phrydain hefyd, fel Celtiaid.

Mae olrhain tarddiad yr ieithoedd Celtaidd yn dal i fod yn beth anodd ac ansicr. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cytuno eu bod yn tarddu o iaith gynharach a elwir yn 'broto-Indo-Ewropeaidd'. Yn ôl pob tebyg, cyrhaeddodd yr iaith hon orllewin Ewrop o ganlyniad i ymfudiad pobl, o bosibl o ganolbarth Asia neu Anatolia rhwng 6000 a 2000CC. Gwaetha'r modd, nid oes fawr o gytundeb ynglŷn â phryd yn union y digwyddodd hyn, na pha bryd a sut y datblygodd yr ieithoedd Celtaidd wedi hynny.

Ar sail ein dealltwriaeth bresennol, tarddodd yr ieithoedd Celtaidd rywbryd rhwng 6000 a 600CC ac, hyd y gwyddom, cafwyd yr arysgrifau cynharaf mewn iaith Geltaidd yng ngogledd yr Eidal. Mae'r rhain yn dyddio o'r chweched ganrif CC.

Celfyddyd ac archaeoleg

Archaeologia Britannica
Archaeologia Britannica Edward Llwyd (1707). Arweiniodd yr astudiaeth arloesol hon at gydnabod dau deulu o ieithoedd Celtaidd.

Mae ymddangosiad dull newydd o gelfyddyd yn ystod y bumed ganrif CC a'i ledaeniad diweddarach ar draws y rhan fwyaf o Ewrop wedi cael ei ddehongli'n aml gan archaeolegwyr fel tystiolaeth o ddiwylliant neu hunaniaeth Geltaidd gyffredin a phellgyrhaeddol.

Cafodd celfyddyd Geltaidd ei chydnabod a'i henwi gan ysgolheigion Prydeinig tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fodd bynnag, bu rhaid aros tan 1910-14 nes i'r gwrthrychau addurnedig cynharaf yn y dull hwn gael eu holrhain i un ardal ddiwylliannol, gyffredin. Yn ôl Joseph Déchelette, y mwyaf blaenllaw o archaeolegwyr Ffrainc, roedd yr ardal hon yn ymestyn ar draws gogledd-ddwyrain Ffrainc, de'r Almaen a'r Weriniaeth Tsiec.

Fe'i henwyd gan Déchelette yn ddiwylliant La Tène, ar ôl casgliad pwysig o waith metel addurnedig y cafwyd hyd iddo ar safle ar lan Llyn Neuchâtel yn y Swistir. Am flynyddoedd lawer, dehonglwyd ymlediad diweddarach celfyddyd La Tène neu Geltaidd ar draws Ewrop, gan gynnwys Prydain ac Iwerddon, fel tystiolaeth o oresgyniad yr ardal gan y Celtiaid.

Yn ystod y degawdau diwethaf, mae archaeolegwyr Prydeinig wedi dod yn fwyfwy anfodlon â'r syniad bod y Celtiaid wedi goresgyn Prydain a bod cymdeithas 'Geltaidd' yn rhannu iaith, celfyddyd, credo grefyddol a hunaniaeth gyffredin ar draws Ewrop. Nid oes fawr o dystiolaeth gadarn ymhlith yr olion archaeolegol o blaid ton ar ôl ton o newydd-ddyfodiaid o'r Cyfandir.

Mae archaeoleg yr Oes Haearn ym Mhrydain yn awgrymu clytwaith o gymunedau rhanbarthol, a bod gan bob un ohonynt hunaniaeth neilltuol. Mae hyn yn gwbl groes i'r syniad o ddiwylliant Celtaidd unffurf.

Yn ogystal, mae archaeolegwyr wedi dod yn fwy beirniadol o'u rhagdybiaethau eu hunain wrth ddehongli arteffactau, claddfeydd ac adeiladau ar safleoedd sy'n dyddio o'r Oes Haearn. Er enghraifft, nid yw presenoldeb celfyddyd La Tène yng Nghymru o reidrwydd yn dynodi Celtiaid goresgynnol, oherwydd gallai hefyd ddangos ymlediad ffasiwn ar draws nifer o gymunedau neu awgrymu cysylltiadau masnach dros bellteroedd maith. Yr un pryd, gwyddom fod llawer o'r gelfyddyd La Tène ddiweddarach yn Brydeinig ei dull ac yn absennol ar gyfandir Ewrop.

Crynodeb

Manylyn o drisgel
Manylyn o drisgel, tua 11cm (4.3 modfedd) ar draws, ar blac o Lyn Cerrig Bach (Môn). Yn amlach na pheidio, dehonglir yr enghraifft nodedig hon o gelfyddyd La Tène yn dystiolaeth o blaid traddodiad artistig Celtaidd.

Mae cryn ddadlau wedi bod ynghylch y Celtiaid ers i ysgolheigion ddechrau archwilio'r cysyniad am y tro cyntaf, a disgwylir i'r drafodaeth barhau drachefn.

Yn y dyfodol, mae'n bosibl y bydd astudiaethau genetaidd o DNA dynol, hynafol a chyfoes, yn ein helpu ni i ddeall ein pwnc. Fodd bynnag, mae'r astudiaethau hyd yma wedi tueddu i ddod i gasgliadau annhebygol ar sail niferoedd bychain o bobl, a chan ddefnyddio rhagdybiaethau o'r oes o'r blaen ynglŷn ag ieitheg ac archaeoleg.

Darllen Cefndir

Christian Celts

Exploring the World of the Celts gan S. James. Cyhoeddwyd gan Thames & Hudson (1993).

The Celts: Origins, Myths and Inventions gan J. Collis. Tempus Publishing Ltd (2003).

The Ancient Celts gan B. Cunliffe. Gwasg Prifysgol Rhydychen (1997).

Dyddiad yr erthygl: 4 Mai 2007

+ Dangos sylwadau

---

Gadael sylw


Geirfa

DNA
Neu asid diocsiriboniwclëig; molecwl helics-dwbwl hir sy'n cario cod genetig sy'n penderfynu rhywogaeth.

Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:
starstarstarstarstar

Delweddau:
starstarstarstarstar

Arddull a darllenadwyedd:
starstarstarstarstar