Rhagor - darganfod byd o gasgliadau

Ogofau Cefn-yr-Ogof: Creaduriaid rhyfedd a dynion cyntaf Cymru

[delwedd: Ogof Pontnewydd]

Ymchwil Ogof Pontnewydd

[delwedd: Danedd Pontnewydd]

Danedd o ogof Pontnewydd

[delwedd: Ogof Pontnewydd ]

Ogof Pontnewydd

[delwedd: Ogofau Cefn-yr-Ogof]

Cefn-yr-Ogof edrych allan

Mae'r ogofau yn Cefn, ger Llanelwy, wedi bod yn destun cryn sylw dros y blynyddoedd. Ymwelodd nifer o enwau mawr â'r ogofau i weld yr esgyrn anifeiliaid a chartref y Neanderthaliaid cynnar, gan gynnwys Charles Darwin ym 1831.

Mae'r ogofau ym mhlwyf Cefn Meiriadog, Sir Ddinbych wedi bod yn leoliad o ddiddordeb i wyddonwyr, artistiaid, beirdd a henaduriaid ers blynyddoedd. Arferai'r ffordd rhwng Dinbych ac Abergele basio drwy'r bwa carreg ger Afon Elwy a byddai nifer yn aros yno i edmygu prydferthwch yr olygfa. Ysgrifennodd yr hynafiaethwr John Leland am Cefn yn y 1530au: 'On the farther ripe of Elwy a 3. or 4. miles above S. Asaphes is a stony rok caullid Kereg the tylluaine, i.e. the rok with hole stones, wher a great cave is, having divers romes in it hewid out of the mayne rok.' Roedd yr awduron Thomas Pennant, Richard Fenton ac Edward Pugh hefyd ymhlith yr ymwelwyr ag Ogofau Cefn cyn 1830.

Esgyrn yn y mwd

Ymwelodd Charles Darwin â Cefn yn Awst 1831 yn ystod ei daith ddaearegol gyda'r Athro Adam Sedgwick. Disgrifiodd Darwin y galchfaen yn Cefn ac yn ei lyfr nodiadau mae'n nodi bod Sedgwick wedi gweld esgyrn rhinoseros ym mwd yr ogof; mae nodiadau Sedgwick yn dangos i ddant rhinoseros gael ei ddarganfod. Yn anffodus, wnaeth yr un o'r ddau ymhelaethu ar bwysigrwydd palaeontolegol y darganfyddiad. Ym mha ogof oedd Darwin? Mwy na thebyg taw Ogof Cefn oedd hi, gan fod cofnod o ymweliad y Parchedig Edward Stanley y flwyddyn ganlynol yn nodi bod gwaith tirlunio wedi gadael 'esgyrn yn y mwd i'w cymryd' a bod llawer o esgyrn wedi'u lledu fel gwrtaith ar y tir islaw. Cofnododd Stanley iddo weld dant rhinoseros yng nghasgliad perchennog y tir – ai dyma ddant Sedgwick a Darwin? Fyddwn ni byth yn gwybod i sicrwydd.

Yr Hipo, y Rhino a'r Eliffant

Disgrifiodd Stanley y gwaith tirlunio ar Cefn a'r llwybrau cerdded a adeiladwyd yn y dyffryn, lle bu'n rhaid gwaredu rhannau o graig Cefn-yr-Ogof oedd yn ymwthio. Crëwyd cyfres o risiau graddol o waelod y dyffryn drwy Ogof Cefn. Symudwyd cyfaint anferth o rwbel o'r ogof er mwyn creu un llwybr yn cysylltu'r ddwy fynedfa. Dyma Stanley yn cloddio yn Ogof Cefn ym 1832 gan ddarganfod esgyrn eliffant ag ysgithrau syth, rhinoseros a hipopotamws o'r oes ryngrewlifol ddiwethaf (tua 125,000 o flynyddoedd oed), a gwaddodion oedd o ddiddordeb i nifer o ddaearegwyr a gwyddonwyr eraill a ymwelodd â'r ogofau.

Yng nghymdeithas ddysgedig y cyfnod, roedd y ddadl am hyd oes dyn ar y ddaear a'u perthynas ag anifeiliaid diflanedig ar ei hanterth. Felly pan ymddangosodd erthygl ym mhapur newydd The Times, ar 20 Hydref 1870 yn honni bod amffibiad rhyfedd yn byw yn Ogof Cefn, fe achosodd gryn ddiddordeb. Dyma'r erthygl yn galw ar naturiaethwyr i ymchwilio i oroesiad creadur hynafol yng Ngogledd Cymru. Mae erthygl yn The Flintshire Observer ar 4 Tachwedd 1870 yn sôn am fadfall fyw, pedair troedfedd saith modfedd o hyd, tebyg iawn i grocodeil yn cropian o ddyfnderoedd Ogof Cefn. Yn ôl y sôn, Cymro dewr a welodd yr anifail, Mr Thomas Hughes, ysgubwr simneiau o'r Rhyl. O ailadrodd yr hanes, mae'n annhebygol bod y crocodeil wedi cyrraedd Cefn o gwbl – mae'n debyg taw un o atyniadau sioe anifeiliaid a fu farw ar ymweliad â'r Rhyl oedd e. Wedi clywed yr hanes, dyma Mr Hughes yn dyfeisio'r stori am ei ddal yn yr ogof, ac wedi ei brynu, dyma ei arddangos fel madfall hynod Cefn.

Ogof Pontnewydd

Ym 1872 ymwelodd yr Athro Syr William Boyd Dawkins â Cefn a chloddio yn Ogof Pontnewydd. Pan ddarganfu Stanley yr ogof ar ochr y dyffryn ychydig i'r gogledd-orllewin o Ogof Cefn, nododd ei bod yn hollol ddigyffwrdd. Wnaeth Stanley ddim cloddio yno, ond credir bod y gweinidog lleol y Parchedig Thomas, Mrs Williams Wynn (perchennog y tir), a Boyd Dawkins wedi cloddio yno. Ym 1874 cloddiodd Thomas McKenny Hughes yn helaeth yn yr ogof gan ddarganfod asgwrn dynol hynod o fawr ynghyd ag offer carreg ac esgyrn anifeiliaid.

Prin oedd y diddordeb yn Ogofau Cefn wedi hyn tan y 1940au pan trowyd Ogof Pontnewydd yn storfa ffrwydron tir a ffrwydron tanddwr, gan adeiladu'r wal galchfaen, y drysau dur a siambr y gard gyda'i stôf golosg i gadw'r gwyliwr yn gynnes. Byddai pobl yn parhau i ymweld â Cefn, gan dreulio penwythnosau a Gwyliau'r Banc yn archwilio'r ogofau.

Ym 1978 dechreuodd Amgueddfa Cymru broject ymchwil i ymchwilio i ogofau Cefn gan ddechrau drwy gloddio yn Ogof Pontnewydd cyn symud i Cefn yn ddiweddarach. Mae Pontnewydd wedi dod yn safle o bwys rhyngwladol yn cynnwys gweddillion math esblygol cynnar o Neanderthal oedd yn defnyddio'r ogof tua 230,000 o flynyddoedd yn ôl.

Heddiw mae'r ogofau ar dir preifat Plas-yn-Cefn a does dim mynediad i ymwelwyr.

Erthygl gan: Elizabeth A. Walker, Curadur Archaeoleg Palaeolithig a Mesolithig

Dyddiad yr erthygl: 7 Mawrth 2013

5 sylw

sscott ar 19 Gorffennaf 2014, 17:45

i lived in trefnant and when i was a child you could go deep into the caves ,they used to be open to the public .

David Bradbury ar 24 Ebrill 2014, 08:34

I lived in St. Asaph between 1960 and 1969. The caves were always so busy then, with people out for a walk and just generally enjoying the area.Great memories of exploring! When my own children were old enough to appreciate it (about 2005) I wrote to the estate and asked permission to visit the caves. There was no problem with this, and we had a very enjoyable time. The paths however were treacherous and proved to be difficult to walk along safely. Well worth writing in for permission. It brought back some wonderful memories.

Dave Orange, Open Door Adventure ar 25 Medi 2013, 08:15

Cefn Caves is now part of a outdoor pursuit centre based at Dolben Hall www.opendooradventure.co.uk

We do a cave tour and a forest tour to see our Kota Hut and cabin and carvings, hot tub. There is a charge but you can go right through the caves see the pipperstralle bats and even have a candle lit birthday picnic

Contact dave on 01745 585535 or email. mail@opendooradventure.co.uk

Clare Abbott ar 29 Awst 2013, 23:37

I used to visit the caves as a child in the 1950s as my anut and uncle lived in St Asaph. One year I asked to have a candlelit picnic there as a birthday treat, which we did. I always enjoyed exploring the caves and I too wish they were open again occasionally.No doubt there would be elf and safety problems of an unsurmountable kind.

George Hindley ar 16 Mawrth 2013, 11:24

Really interesting, pity the cave/s are not open to the public occasionally. ('Article Date: 20 March 2013' a puzzle as I read it today the 16 March 2013!)

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:     

Delweddau:     

Arddull a darllenadwyedd: