Rhagor - darganfod byd o gasgliadau

Dod yn artist yn y ddeunawfed ganrif

[delwedd: Joshua Reynolds (1723 - 1792), Charlotte (Grenville), Y Foneddiges Williams-Wynn (1754-1830) a'i Phlant]

Joshua Reynolds (1723 - 1792), Charlotte (Grenville), Y Foneddiges Williams-Wynn (1754-1830) a'i Phlant. Olew ar gynfas, prynwyd 1998 gyda chefnogaeth Cronfa Genedlaethol y Casgliadau Celfyddyd / Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. NMW A 12964

[delwedd: William Hogarth (1697 - 1764), Llun Sgwrs y Teulu Jones]

William Hogarth (1697 - 1764), Llun Sgwrs y Teulu Jones, 1730. Olew ar gynfas. Prynwyd 1996 Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol / Cronfa Genedlaethol y Casgliadau Celfyddyd. NMW A 3978

[delwedd: Richard Wilson (1714 - 1782), Castell Dolbadarn]

Richard Wilson (1714 - 1782), Castell Dolbadarn. Olew ar banel, prynwyd 1937. NMW A 72

Yn draddodiadol, bu statws cymdeithasol artistiaid yn isel. I ennill parch darpar gleientiaid, roedd ar artist angen addysg gyffredinol dda, yn cynnwys peth gwybodaeth ynglŷn â geometreg, hanes clasurol a llenyddiaeth. Roedd nifer ohonynt felly'n feibion i bobl broffesiynol neu fasnachwyr dosbarth-canol.

I raddau helaeth roedd hyfforddiant artist yn dal i fod yn seiliedig ar y system prentisiaeth draddodiadol. Âi'n ddisgybl i artist profiadol, gan dalu ffi iddo. Yn gyfnewid am hyn dysgwyd sgiliau technegol paratoi paent a chynfasau iddo, a dysgai drwy esiampl a thrwy gyflawni tasgau cyffredin.

Sylweddolwyd bod angen hyfforddiant mwy ffurfiol a strwythuredig hefyd, ac roedd nifer o ysgolion darlunio yn Llundain. Mynychodd yr arlunydd Cymreig Thomas Jones ddwy o'r rhain am ddeunaw mis cyn treulio dwy flynedd yn astudio dan adain Richard Wilson.

Wedi iddo ennill sgiliau o safon dderbyniol, gallai artist ganfod gwaith fel cynorthwy-ydd cyflogedig, ond byddai'n rhaid iddo sefydlu ei stiwdio ei hun yn y pen draw. Pe bai'n gallu fforddio hynny, roedd cyfnod o astudiaeth dramor yn gam hanfodol yn natblygiad ei yrfa. Aeth bron i ddau gant o artistiaid o Brydain ac Iwerddon i deithio yn yr Eidal yn ystod y ddeunawfed ganrif.

Arbenigo

Roedd yn rhaid i artistiaid Prydeinig o'r ddeunawfed ganrif ddatblygu sgil arbennig i ddenu cwsmeriaid drwy arbenigo mewn un o blith nifer o 'ganghennau' peintio. Ystyriai damcaniaethwyr mai lluniau hanes, gweithiau â negeseuon moesol, yn aml yn seiliedig ar hen hanes, oedd ffurf 'uchaf' celfyddyd. Mewn gwirionedd bodlonwyd y galw am luniau hanes gan yr Hen Feistri Ewropeaidd a gasglwyd gan gyfoethogion.

Portreadwyr oedd y mwyafrif o'r arlunwyr Prydeinig, gan fod bron pawb a fedrai fforddio hynny'n comisiynu portread — mewn miniatur neu mewn sialc neu bensil, os oedd peintiad olew yn rhy ddrud. Yn gyfrwys, sebonai Reynolds ei gleientiaid cyfoethog â chyffyrddiadau yn arddull yr Hen Feistri yn ei bortreadau mawr ohonynt. Datblygodd rhai artistiaid, Hogarth yn arbennig, y darlun ymddiddan o ffigyrau'n rhyngweithio mewn lleoliad domestig neu beintiadau 'ffansi' neu genre o fywyd modern. Enillodd eraill eu lle drwy beintio anifeiliaid, llongau neu flodau.

Tyfodd poblogrwydd peintio tirluniau wrth i agweddau pobl at natur newid. O fod yn ddelweddau o lefydd, daeth yn ffordd o fynegi delfrydau ac emosiynau. Roedd Richard Wilson yn arbenigo mewn tirluniau oedd yn cyfleu tawelwch y byd clasurol. Ceisiodd eraill gyfleu prydferthwch a mawredd byd natur.

Geni proffesiwn

I ennill statws ac arian, bu'n rhaid i artistiaid gefnu ar eu gwreiddiau fel crefftwyr a sefydlu gyrfa broffesiynol. Gwnaethant hyn drwy ddod yn fwy medrus, ond yn arbennig drwy sefydlu clybiau a chymdeithasau. Roedd y rhain yn hyrwyddo buddiannau'r aelodau, yn enwedig trwy arddangosiadau, gan gau allan y rhai nad oedd yn ddigon da.

Ym 1768 sefydlwyd yr Academi Gelf Frenhinol gan nifer o artistiaid blaenllaw oedd yn anfodlon â'r Gymdeithas Artistiaid oedd yn fwy o lawer. Roedd aelodaeth yn gyfyngedig a thrwy etholiad yn unig. Eu Llywydd cyntaf oedd Syr Joshua Reynolds (1723-1792), peintiwr portreadau a damcaniaethwr, a gymdeithasai'n rhwydd ag elît y cyfnod. Roedd yr Academi'n hyrwyddo statws proffesiynol artistiaid ac yn darparu hyfforddiant. Gallai llwyddiant yn ei harddangosfa flynyddol sicrhau enw da artist.

Cynhaliwyd arddangosfeydd yr Academi Frenhinol yn 'Ystafell Fawr' Somerset House o 1780 ymlaen. Câi'r lluniau eu hongian o'r llawr i'r nenfwd, a'r artistiaid yn cynllwynio i gael eu gwaith 'ar y llinell' - sef lefel llygaid y darpar-brynwyr.

Roedd ar artist angen adeilad addas mewn ardal ffasiynol hefyd, er mwyn derbyn cleientiaid ac arddangos ei waith. Roedd y rhain yn ddrud ac yn codi prisiau artist llwyddiannus. Yn ei anterth gallai Reynolds godi £200 am bortread maint llawn, swm oedd bryd hynny'n gyflog blynyddol i berson dosbarth-canol.

Dyddiad yr erthygl: 8 Hydref 2010

0 sylw

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:     

Delweddau:     

Arddull a darllenadwyedd: