Rhagor - darganfod byd o gasgliadau

Archaeopteryx - y 'ddolen goll' rhwng deinosoriaid ac adar.

[delwedd: Sbesimen Archaeopteryx — Museum fuür Naturkunde, Berlin, yr Almaen]

Sbesimen Archaeopteryx — Museum fuür Naturkunde, Berlin, yr Almaen

[delwedd: Adluniad o'r Archaeopteryx © J. Sibbick]

Adluniad o'r Archaeopteryx © J. Sibbick

Mae'r Archaeopteryx yn ffosil eiconig, a ystyrir yn aml fel y 'ddolen goll' rhwng deinosoriaid ac adar. Fe'i disgrifiwyd am y tro cyntaf 150 mlynedd yn ôl gan Hermann von Meyer (1801-1869), palaeontolegydd o'r Almaen. Ers hynny, mae'r Archaeopteryx wedi bod yn destun dadl ynghylch tarddiad adar a'u cysylltiad â'r deinosoriaid.

Dim ond deg sbesimen ac un bluen sydd wedi'u darganfod, a hynny mewn nifer fechan o chwareli ger tref Solnhofen yn ardal Bafaria, de'r Almaen.

Daw bron pob sbesimen o Galchfaen Solnhofen, sef calchfeini mân mwdlyd gafodd eu dyddodi mewn lagwnau trofannol rhyw 150 miliwn o flynyddoedd yn ôl tua diwedd y cyfnod Jwrasig. Cafodd un sbesimen ei ddarganfod yn nyddodion gorchuddiol Ffurfiant Mörnsheim, ac mae tua hanner miliwn o flynyddoedd yn iau na'r gweddill.

Darganfyddiad

Ym 1861, cyhoeddodd Hermann von Meyer ddisgrifiad o bluen ffosil gafodd ei ddarganfod yng Nghalchfaen Solnhofen, a'i enwi'n Archaeopteryx lithographica. Ystyr Archaeopteryx yw 'adain hynafol'. Dywedodd Von Meyer fod "sgerbwd lled gyflawn o anifail wedi'i orchuddio â phlu" wedi'I ddarganfod hefyd. Wedi cryn gystadleuaeth rhwng amgueddfeydd amrywiol, llwyddodd yr Amgueddfa Brydeinig i brynu'r sgerbwd ynghyd â ffosilau eraill Solnhofen am £700, swm anferthol ar y pryd, yr un faint â chyflog deng mlynedd a mwy i grefftwr medrus.

Ym 1863, fe wnaeth Richard Owen, Uwcharolygydd casgliadau hanes natur yr Amgueddfa Brydeinig ddisgrifio a darlunio'r sbesimen, gan gyfeirio ato fel aderyn ag iddo "rare peculiarities indicative of a distinct order". Cafodd y ffosil arbennig hwn ei ddarganfod prin ddwy flynedd ers cyhoeddi llyfr Charles Darwin, On the Origin of Species, a newidiodd farn pobl am y byd naturiol.

Roedd yr Archaeopteryx yn cydfynd ag athroniaeth Darwin gan ei fod yn dangos nodweddion adar ac ymlusgiaid.

Sut o lwgoeddaryr Archaeopteryx?

Aderyn cyntefig a chanddo blu oedd yr Archaeopteryx, ond mae ei sgerbwd ffosiledig yn debycach i ddeinosor bychan.

Roedd tua'r un maint â phioden. Yn wahanol i adar modern, roedd ganddo lond ceg o ddannedd, cynffon hir esgyrnog a thair crafanc ar ei adenydd a ddefnyddiwyd i fachu ar ganghennau o bosibl. Nid oedd ganddo fysedd troed cwbl gildro sy'n helpu llawer o adar modern i glwydo. Roedd gan yr Archaeopteryx asgwrn tynnu, fodd bynnag, ac adenydd a phlu 'hedfan' anghymesur, fel aderyn cyffredin. Mae'n bosibl ei fod yn gallu hedfan, er nad cystal â hynny.

Byd yr Archaeopteryx

Bu Archaeopteryx yn byw ar dir ar bwys casgliad o lagwnau llonydd a hallt o fewn môr trofannol bas. Roedd bywyd ar wyneb dyfroedd y lagwnau yn bennaf, gan fod llawer o'r gwaelodion yn wenwynig iawn. Mae'n bosibl mai crinoidau arnofiol bach (lili'r môr) ac ambell bysgodyn oedd yr unig anifeiliaid oedd yn byw yn y lagwnau.

Roedd amonitau, berdys, cimychiaid a sêr môr yn byw yn y môr agored gerllaw, ac roeddynt yn cael eu golchi i'r lagwnau gan stormydd o dro i dro. Nid oeddynt yn para'n hir yn nyfroedd y lagŵn. Cafodd olion marchgrancod eu darganfod ar ddiwedd trywydd byr o'u hôl troed eu hunain.

Weithiau, byddai ymlusgiaid morol fel ichthyosoriaid a chrocodeiliaid yn cael eu golchi i'r lagwnau hefyd. Roedd pterosoriaid a phryfed mawr fel gweision y neidr yn hedfan fry uwchben y môr. Byddent yn cael eu sgubo i ddyfroedd y lagwnau mewn stormydd.

Cafodd sbesimen ifanc o ddeinosor theropod bach o'r enw Compsognathus ei ddarganfod yn yr un gwaddodion, wedi'I olchi yno o'r tir siŵr o fod.

Sut wnaeth Archaeopteryx farw a chaeleigadw?

Er mai aderyn y tir oedd yr Archaeopteryx, byddai rhai ohonynt yn cael eu dal gan stormydd weithiau wrth hofran uwchben y dŵr. Yn llawn dŵr ac yn methu codi i'r awyr eto, byddent yn boddi ac yn suddo i waelod y lagŵn.

Mae'r holl sbesimenau y gwyddom amdanynt yn dangos nodweddion anaeddfedrwydd, sy'n awgrymu nad oedd yr un ohonynt wedi tyfu'n oedolyn. Efallai mai dyma pam nad oedden nhw'n llwyddo i oroesi tywydd stormus.

Cafodd eu carcasau eu claddu'n gyflym dan fwd calch mân ar wely'r lagŵn. Credir bod metr o'r graig heddiw yn cynnwys gwaddodion 5,000 o flynyddoedd.

Mae ffosilau Solnhofen wedi para'n rhyfeddol o dda, am na wnaeth creaduriaid ysglyfaethus na symudiadau'r dŵr darfu arnynt. Mae'r calchfeini graenog yn cynnwys nodweddion cywrain fel adenydd gwas y neidr neu blu'r Archaeopteryx.

[delwedd: Adluniad o'r Archaeopteryx, © J. Sibbick]

Adluniad o'r Archaeopteryx, © J. Sibbick

Dyddiad yr erthygl: 13 Hydref 2011

1 sylw

m ar 17 Ionawr 2013, 16:59

helped with work good answers!
thanks

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:     

Delweddau:     

Arddull a darllenadwyedd: