Rydych chi yn: Archwilio'r Casgliadau > Archaeopteryx - y 'ddolen goll' rhwng deinosoriaid ac adar.

Archaeopteryx - y 'ddolen goll' rhwng deinosoriaid ac adar.

Sbesimen <em>Archaeopteryx</em> — Museum fuür Naturkunde, Berlin, yr Almaen
Sbesimen Archaeopteryx — Museum fuür Naturkunde, Berlin, yr Almaen
Adluniad o'r <em>Archaeopteryx</em> © J. Sibbick
Adluniad o'r Archaeopteryx © J. Sibbick

Mae'r Archaeopteryx yn ffosil eiconig, a ystyrir yn aml fel y 'ddolen goll' rhwng deinosoriaid ac adar. Fe'i disgrifiwyd am y tro cyntaf yn 1861 yn ôl gan Hermann von Meyer (1801-1869), palaeontolegydd o'r Almaen. Ers hynny, mae'r Archaeopteryx wedi bod yn destun dadl ynghylch tarddiad adar a'u cysylltiad â'r deinosoriaid.

Dim ond un sbesimen ar ddeg ac un bluen sydd wedi'u darganfod, a hynny mewn nifer fechan o chwareli ger tref Solnhofen yn ardal Bafaria, de'r Almaen.

Daw bron pob sbesimen o Galchfaen Solnhofen, sef calchfeini mân mwdlyd gafodd eu dyddodi mewn lagwnau trofannol rhyw 150 miliwn o flynyddoedd yn ôl tua diwedd y cyfnod Jwrasig. Cafodd un sbesimen ei ddarganfod yn nyddodion gorchuddiol Ffurfiant Mörnsheim, ac mae tua hanner miliwn o flynyddoedd yn iau na'r gweddill.

Darganfyddiad

Ym 1861, cyhoeddodd Hermann von Meyer ddisgrifiad o bluen ffosil gafodd ei ddarganfod yng Nghalchfaen Solnhofen, a'i enwi'n Archaeopteryx lithographica. Ystyr Archaeopteryx yw 'adain hynafol'. Dywedodd Von Meyer fod "sgerbwd lled gyflawn o anifail wedi'i orchuddio â phlu" wedi'I ddarganfod hefyd. Wedi cryn gystadleuaeth rhwng amgueddfeydd amrywiol, llwyddodd yr Amgueddfa Brydeinig i brynu'r sgerbwd ynghyd â ffosilau eraill Solnhofen am £700, swm anferthol ar y pryd, yr un faint â chyflog deng mlynedd a mwy i grefftwr medrus.

Ym 1863, fe wnaeth Richard Owen, Uwcharolygydd casgliadau hanes natur yr Amgueddfa Brydeinig ddisgrifio a darlunio'r sbesimen, gan gyfeirio ato fel aderyn ag iddo "rare peculiarities indicative of a distinct order". Cafodd y ffosil arbennig hwn ei ddarganfod prin ddwy flynedd ers cyhoeddi llyfr Charles Darwin, On the Origin of Species, a newidiodd farn pobl am y byd naturiol.

Roedd yr Archaeopteryx yn cydfynd ag athroniaeth Darwin gan ei fod yn dangos nodweddion adar ac ymlusgiaid.

Sut o lwgoeddaryr Archaeopteryx?

Aderyn cyntefig a chanddo blu oedd yr Archaeopteryx, ond mae ei sgerbwd ffosiledig yn debycach i ddeinosor bychan.

Roedd tua'r un maint â phioden. Yn wahanol i adar modern, roedd ganddo lond ceg o ddannedd, cynffon hir esgyrnog a thair crafanc ar ei adenydd a ddefnyddiwyd i fachu ar ganghennau o bosibl. Nid oedd ganddo fysedd troed cwbl gildro sy'n helpu llawer o adar modern i glwydo. Roedd gan yr Archaeopteryx asgwrn tynnu, fodd bynnag, ac adenydd a phlu 'hedfan' anghymesur, fel aderyn cyffredin. Mae'n bosibl ei fod yn gallu hedfan, er nad cystal â hynny.

Byd yr Archaeopteryx

Bu Archaeopteryx yn byw ar dir ar bwys casgliad o lagwnau llonydd a hallt o fewn môr trofannol bas. Roedd bywyd ar wyneb dyfroedd y lagwnau yn bennaf, gan fod llawer o'r gwaelodion yn wenwynig iawn. Mae'n bosibl mai crinoidau arnofiol bach (lili'r môr) ac ambell bysgodyn oedd yr unig anifeiliaid oedd yn byw yn y lagwnau.

Roedd amonitau, berdys, cimychiaid a sêr môr yn byw yn y môr agored gerllaw, ac roeddynt yn cael eu golchi i'r lagwnau gan stormydd o dro i dro. Nid oeddynt yn para'n hir yn nyfroedd y lag&#373n. Cafodd olion marchgrancod eu darganfod ar ddiwedd trywydd byr o'u hôl troed eu hunain.

Weithiau, byddai ymlusgiaid morol fel ichthyosoriaid a chrocodeiliaid yn cael eu golchi i'r lagwnau hefyd. Roedd pterosoriaid a phryfed mawr fel gweision y neidr yn hedfan fry uwchben y môr. Byddent yn cael eu sgubo i ddyfroedd y lagwnau mewn stormydd.

Cafodd sbesimen ifanc o ddeinosor theropod bach o'r enw Compsognathus ei ddarganfod yn yr un gwaddodion, wedi'I olchi yno o'r tir si&#373r o fod.

Sut wnaeth Archaeopteryx farw a chaeleigadw?

Er mai aderyn y tir oedd yr Archaeopteryx, byddai rhai ohonynt yn cael eu dal gan stormydd weithiau wrth hofran uwchben y d&#373r. Yn llawn d&#373r ac yn methu codi i'r awyr eto, byddent yn boddi ac yn suddo i waelod y lag&#373n.

Mae'r holl sbesimenau y gwyddom amdanynt yn dangos nodweddion anaeddfedrwydd, sy'n awgrymu nad oedd yr un ohonynt wedi tyfu'n oedolyn. Efallai mai dyma pam nad oedden nhw'n llwyddo i oroesi tywydd stormus.

Cafodd eu carcasau eu claddu'n gyflym dan fwd calch mân ar wely'r lag&#373n. Credir bod metr o'r graig heddiw yn cynnwys gwaddodion 5,000 o flynyddoedd.

Mae ffosilau Solnhofen wedi para'n rhyfeddol o dda, am na wnaeth creaduriaid ysglyfaethus na symudiadau'r d&#373r darfu arnynt. Mae'r calchfeini graenog yn cynnwys nodweddion cywrain fel adenydd gwas y neidr neu blu'r Archaeopteryx.

Adluniad o'r Archaeopteryx, © J. Sibbick
Adluniad o'r Archaeopteryx, © J. Sibbick

Dyddiad yr erthygl: 13 Hydref 2011

+ Dangos sylwadau

---

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:
starstarstarstarstar

Delweddau:
starstarstarstarstar

Arddull a darllenadwyedd:
starstarstarstarstar