Cyfrinachau'r amonitau

Sbesimen parod yn dangos y pigynau cywrain
Sbesimen parod yn dangos y pigynau cywrain
Amonitau sy'n rhan o'r casgliadau
Amonitau sy'n rhan o'r casgliadau
Section through an ammonite showing the chambers
Darn o'r amonit sy'n dangos y siambrau
Ochr isaf sbesimen parod
Ochr isaf sbesimen parod
Sbesimen parod yn dangos y pigynau cywrain
Sbesimen parod yn dangos y pigynau cywrain

Mae gwyddonwyr wedi llwyddo i hydoddi'r graig a oedd yn amgylchynu ffosil amonit 150 miliwn o flynyddoedd oed, gan ddatgelu'r patrymau cymhleth o bigynau am y tro cyntaf erioed.

Pan welwch chi ffosil ar draeth, fel rheol bydd wedi torri neu erydu. Efallai y byddwch yn ei daflu i ffwrdd oherwydd ei fod mewn cyflwr gwael. Ond mae'r rhan fwyaf o ffosilau yn cael eu darganfod wedi'u cuddio'n rhannol mewn craig, ac mae'r rhain yn gallu bod yn llawn o gyfrinachau cudd.

Rhoddwyd un ffosil amonit o'r fath o'r golwg mewn drôr yn Adran Ddaeareg yr Amgueddfa am hanner canrif. Mae'n rhan o gasgliad o bron i 6,000 o ffosilau a gyfranwyd gan James Frederick Jackson i'r Amgueddfa ym 1960.

James Frederick Jackson

Roedd Jackson yn byw mewn bwthyn bach yn Charmouth ger Lyme Regis, ac yn treulio'i amser hamdden yn casglu creigiau a ffosilau ar hyd arfordir Dorset yn ne-orllewin Lloegr. Bu'n gweithio yn yr Amgueddfa rhwng 1914 a 1919, a chyfrannodd bron i 21,000 o sbesimenau yn ystod ei oes.

Mae palaeontolegwyr yn astudio casgliad Jackson yn rheolaidd oherwydd ei fod yn cynnwys cofnod cyflawn a gwerthfawr o ffosilau Jwrasig Dorset. Ychydig flynyddoedd yn ôl, sylwodd un ymchwilydd ar amonit anarferol. Fodd bynnag, roedd darn helaeth o'r ffosil ynghudd yn y graig, ac roedd angen ei dynnu'n ofalus iawn o'r graig i ddatgelu'r ffosil.

Blwyddyn o baratoi

Ar ôl blwyddyn o waith caled, o'r diwedd cafodd y sbesimen ei ddychwelyd i'r Amgueddfa i'w arddangos gyda'r casgliadau. Defnyddiwyd asid gwan i gael gwared ar y gwaddodion calchfaen, gan ddatgelu pigynau cywrain y sidelli mewnol am y tro cyntaf erioed. Byddai rhan allanol yr amonit wedi cynnwys pigynau tebyg hefyd, ond roedd rheiny wedi cael eu herydu'n gyfan gwbl.

Mae'r sbesimen hwn wedi ymddangos yn ddiweddar ym monograff y Palaeontographical Society, mewn cyfres arbennig sy'n cynnwys disgrifiadau gwyddonol a lluniau o ffosilau Prydeinig, dan yr enw gwyddonol ffurfiol Eoderoceras obesum (Spath).

Amonitau

Anifeiliaid y môr oedd amonitau a oedd yn perthyn i'r Nawtilws (neu gragen Bedr), ac roedden nhw'n byw yn y Cyfnod Mesosöig (251-65.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl). Roedden nhw'n nofio yn y môr, gan hela a bwyta anifeiliaid llai'r môr. Roedd ganddynt gragen droellog fel arfer, rhwng 5mm a 2m ar draws. Gallai'r cregyn fod yn llyfn, rhychiog, cnapiog neu hyd yn oed bigog. Roedden nhw'n byw yn sidell allanol eu cragen, tra'r oedd y rhan fewnol yn llawn siambrau nwy er mwyn eu galluogi i nofio'n dda. Gallwch weld patrwm cymhleth ar wyneb cregyn amonitau, sy'n dangos y rhaniad rhwng pob siambr. Mae palaeontolegwyr yn defnyddio'r holl nodweddion hyn i adnabod rhywogaethau gwahanol o amonitau.

Mae gan yr Amgueddfa gasgliadau sylweddol a phwysig o amonitau, y rhan fwyaf o dde-orllewin Prydain. Maent yn ddefnyddiol iawn er mwyn helpu gwyddonwyr i ddeall daeareg a phalaeontoleg gwledydd Prydain.

Awdur: Cindy Howells

Dyddiad yr erthygl: 26 Chwefror 2010

+ Dangos sylwadau

---

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:
starstarstarstarstar

Delweddau:
starstarstarstarstar

Arddull a darllenadwyedd:
starstarstarstarstar