Plant mewn Pyllau Glo

Plant Pyllau Glo

Plant mewn Pyllau Glo
opening quotemark

'Roedd ofn arna i am fod rhywun wedi dwyn fy mara a caws. Dwi'n credu taw'r llygod mawr wnaeth.'

Tan ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd gwladwriaeth Prydain yn derbyn y ffaith bod plant mor ifanc a phum mlwydd oed yn rhan o'r gweithlu diwydiannol.

Plant mewn Pyllau Glo

Nid dim ond y rheolwyr oedd yn derbyn y sefyllfa, byddai nifer o rieni yn derbyn hyn hefyd. Roedd yn rhaid i bethau newid a dechreuwyd ymchwilio i gyflogaeth plant. Rhwng 1840 a 1842, ymwelodd arolygwyr y llywodraeth â meysydd glo Cymru a siarad â nifer o blant oedd yn gweithio yn y pyllau. Cyflwynwyd yr adroddiadau yma i'r Senedd fel rhan o'r Commission of Enquiry into the State of Children in Employment. Mae'r adroddiad yn sôn am amodau gwaith dychrynllyd y plant ac hefyd yn rhoi darlun byw o'u bywyd bob dydd.

Pyllau Glo yn y 1840au

Roedd pyllau glo yn y cyfnod hwn yn glos, heb systemau awyru ac yn hynod o beryglus.

Doedd dim llawer o boeni am iechyd a diogelwch a cai plant eu hanafu neu eu lladd mewn ffrwydradau, wrth i doeon gwympo neu wrth gael eu taro gan geirt.

Byddai plant yn gwneud sawl swydd bwysig o dan ddaear — fel ceidwaid drysau, fyddai'n agor a chau'r drysau awyru i'r ceirt, dramwyr, fyddai'n tynnu'r ceirt glo o'r ffas ac yn ôl, cynorthwy-wyr glowyr, fyddai'n helpu i dorri'r glo, fel arfer gyda'u tadau neu frodyr hŷn, a gyrwyr fyddai'n arwain y ceffylau fyddai'n tynnu'r wagenni ar hyd y prif dwnneli.

Roedd cyrraedd y gwaith hyd yn oed yn gallu bod yn hynod o beryglus. Roedd nifer o byllau 'drift' wedi'u naddu i ochr y mynyddoedd a gallai plant grwydro i mewn, roedd eraill yn byllau 'siafft' gyda wins ac injanau stem yn eu gweithio. Roedd y pyllau yn ardal Llanelli hyd at 500' o ddyfnder ac roedd yn rhaid defnyddio basgedi neu ysgolion i gyrraedd y gwaelod.

Roedd Philip Philip, 10 oed, o Bwll Glo Brace yn Llanelli, wedi hen arfer â pheryglon ysgolion: 'Rwy'n helpu fy mrawd i dynnu'r ceirt. Galla i ddringo i lawr yr ysgolion fy hun. Dydw i ddim yn ofni mynd i'r pwll.'

Cafodd yr arolygwr wnaeth gyfweld â Phillip drafferth i ddringo i lawr yr ysgolion yma. Yn wahanol i Phillip, roedd arno ofn y sŵn a'r ffyn pwmpio trwm oedd yn agos i'r ysgolion.

Yn unig yn y tywyllwch

Plant mewn Pyllau Glo

Roedd Mary Davis yn 'ferch fach bert' chwe mlwydd oed. Daeth Archwiliwr y Llywodraeth o hyd iddi yn cysgu'n sownd yn erbyn carreg fawr dan y ddaear ym Mhwll Glo Plymouth, Merthyr. Wedi cael ei dihuno dywedodd: 'Fe es i gysgu oherwydd bod fy lamp wedi diffodd am nad oedd digon o olew ar ôl. Roedd ofn arna i am fod rhywun wedi dwyn fy mara a caws. Dwi'n credu taw'r llygod mawr wnaeth.'

Dywedodd Susan Reece, oedd hefyd yn chwe mlwydd oed ac yn geidwad drws yn yr un pwll glo: 'Dwi wedi bod dan y ddaear am chwech neu wyth mis a dydw i ddim yn ei hoffi rhyw lawer. Rwy'n dod yma am chwech y bore ac yn gadael am chwech y nos. Pan fydd fy lamp yn diffodd, neu fy mod i'n llwgu, bydda i'n rhedeg adref. Dydw i heb gael niwed eto.'

Mewn perygl

Roedd pwll glo yn lle peryglus iawn i oedolion, felly does dim syndod bod nifer o blant wedi cael eu hanafu'n wael dan y ddaear.

opening quotemark
closing quotemark

'Roedd damwain bron i flwyddyn yn ôl a cafodd y rhan fwyaf ohonon ni ein llosgi. Cefais i fy nghario gartref gan ryw ddyn. Roedd yn boenus iawn am fod y croen wedi llosgi o fy wyneb. Doeddwn i ddim yn gallu gweithio am chwe mis.'

Phillip Phillips, 9 oed , Pyllau glo Plymouth, Merthyr

 

opening quotemark
closing quotemark

'Cafodd fy mhen i ei wasgu beth amser yn ôl gan ddarn o'r to yn cwympo ...'

William Skidmore, 8 oed, Pwll Glo Buttery Hatch, Mynydd Islwyn

 

opening quotemark
closing quotemark

'...cafodd fy nghoesau i eu gwasgu beth amser wedyn, wnaeth fy nghadw o'r gwaith am rai wythnosau.'

John Reece, 14 oed, Pwll Glo Hengoed

 

Plant o lowyr a gyrwyr ceffylau

Plant mewn Pyllau Glo

Byddai rhai plant yn treulio hyd at 12 awr ar eu pen eu hunain, ond roedd brawd Susan Reece, John yn gweithio gyda'i dad ar y ffas: 'Rydw i'n helpu fy nhad ac rydw i wedi bod yn gweithio yma am ddeuddeg mis. Rydw i'n cario ei offer drosto ac yn llenwi'r dramiau â'r glo mae wedi ei gloddio neu ei ffrwydro. Fe es i i'r ysgol am rai diwrnodau a dysgu'r wyddor' John Reece, 8 oed, Pyllau Glo Plymouth, Merthyr

Roedd gan Philip Davies geffyl yn gwmni. Roedd yn welw a heb fawr o gig amdano ac yn gwisgo dillad carpiog wedi treulio. Doedd 'e ddim yn gallu darllen: 'Rydw i wedi bod yn gyrru ceffylau ers oeddwn i'n saith ond roeddwn i'n gweithio ar ddrws aer am flwyddyn cyn hynny. Byddwn i'n hoffi mynd i'r ysgol ond rydw i wedi blino gormod gan fy mod i'n gweithio deuddeg awr.' Philip Davies, 10 oed, Pwll Glo Dinas, y Rhondda

Byddai dramwyr yn tynnu eu certi gyda chadwyn wedi'i chlymu o amgylch y canol. Bydden nhw'n gweithio yn y twnneli isel rhwng y ffasau glo a'r prif dwneli uwch lle gallai ceffylau gael eu defnyddio. Roedd y ceirt yn pwyso tua 1½cwt. o lo ac roedd yn rhaid ei dynnu am bellter o tua 50 llath mewn twnnel tua 3 troedfedd o uchder.

opening quotemark
closing quotemark

'Fy swydd i yw cludo glo o'r pen i'r brif ffordd; mae'r pellter yn 60 llath; does dim olwynion ar y ceirt; rydw i'n eu gwthio nhw o fy mlaen; weithiau, bydda i'n eu llusgo nhw am fod y cert weithiau yn cael ei dynnu arnon ni, ac rydyn ni'n cael ein gwasgu'n aml.'

Edward Edwards, 9 oed, Pwll Glo Yskyn, Llansawel

Byddai dramiwr yn ennill tua 5c y diwrnod am hyn.

Y Tair Chwaer

Roedd gwaith dur Dowlais hefyd yn berchen ar byllau glo a haearn; nhw oedd y mwyaf yn y byd ar y pryd ac yn darparu cynnyrch i bob rhan o'r byd. Roedden nhw yn dal i ddibynnu ar blant am eu helw fodd bynnag. Roedd tair chwaer yn gweithio yn un o'u pyllau glo:

opening quotemark
closing quotemark

'Rydyn ni'n gofalu am y drysau yn y lefel pedair troedfedd. Rydyn ni'n gadael y tŷ cyn chwech bob bore ac rydyn ni yn y lefel tan saith o'r gloch, neu'n hwyrach weithiau. Rydyn ni'n ennill 2p y diwrnod ac mae ein golau yn costio 2½c yr wythnos. Roedd Rachel mewn ysgol ddydd ac mae hi'n gallu darllen rhywfaint. Cafodd hi ei gwasgu dan ddram amser yn ôl ac roedd hi adref yn sal am amser hir, ond fe wellodd hi.'

Elizabeth Williams, 10 oed a Mary a Rachel Enoch, 11 a 12 oed, Pyllau Dowlais, Merthyr

Yn Dilyn y Deddfu

Roedd hi'n anochel y byddai deddf yn cael ei phasio wedi'r dicter cyhoeddus a glywyd yn sgil cyhoeddi'r Adroddiad. Pasiwyd y Ddeddf Rheoli Pyllau Glo o'r diwedd ar 4 Awst 1842. O 1 Mawrth 1843 roedd hi'n anghyfreithlon i fenywod neu unrhyw blentyn o dan ddeg oed weithio dan y ddaear ym Mhrydain.

Doedd dim iawndal i'r sawl a gollodd eu swyddi ac a achosodd hyn galedi mawr. Ond roedd hi'n hawdd osgoi'r Ddeddf — dim ond un arolygwr oedd ym Mhrydain gyfan ac roedd yn rhaid iddo roi rhybudd cyn ymweld âr pyllau glo. Mae'n debyg bod nifer o fenywod wedi parhau i weithio yn anghyfreithlon am sawl blwyddyn, a dim ond wrth iddynt gael eu lladd neu eu hanafu fyddai pobl yn dod i glywed.

Daeth hi'n llai derbyniol i fenywod ennill cyflog yn y diwydiant glo wrth i amser basio. Er hyn, roedd nifer fechan o fenywod yn gweithio ar yr wyneb yng Nghymru yn ystod yr ugeinfed ganrif. Ym 1990 diddymwyd y ddeddf warchod gan roi'r hawl unwaith eto i fenywod weithio o dan y ddaear.

Dyddiad yr erthygl: 11 Ebrill 2011

+ Dangos sylwadau

---

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:
starstarstarstarstar

Delweddau:
starstarstarstarstar

Arddull a darllenadwyedd:
starstarstarstarstar