Rydych chi yn: Archwilio'r Casgliadau > Crochenwaith o Loegr yn Amgueddfa Cymru

Crochenwaith o Loegr yn Amgueddfa Cymru

Jwg gynhaeaf o briddwaith wedi'i endorri
1: Jwg gynhaeaf o briddwaith wedi'i endorri. Cafodd ei gwneud yn Gestingthorpe, Suffolk, ym 1680. Prynwyd ym 1904.
Tebot hufenwaith gydag addurn wedi'i argraffu a'i enamlo ar thema sêr-ddewiniaeth
2: Tebot hufenwaith gydag addurn wedi'i argraffu a'i enamlo ar thema sêr-ddewiniaeth. Cafodd ei wneud gan William Greatbatch, Swydd Stafford, tua 1778. Prynwyd ym 1902.
Dysgl crochenwaith slip yn dangos eryr â dau ben
3: Dysgl crochenwaith slip yn dangos eryr â dau ben. Cafodd ei gwneud gan Ralph Toft, Swydd Stafford, tua 1663-88. Prynwyd ym 1903.
Mwg crochenwaith caled â gosodiad arian, wedi'i enamlo ag arfbais Farmer, Fulham, 1706
4: Mwg crochenwaith caled â gosodiad arian, wedi'i enamlo ag arfbais Farmer, Fulham, 1706. Prynwyd ym 1903.
Jwg berlwaith wedi'i henamlo a wnaed yng Nghrochendy Ferrybridge, Swydd Efrog, tua 1800
9: Jwg berlwaith wedi'i henamlo a wnaed yng Nghrochendy Ferrybridge, Swydd Efrog, tua 1800. Cymynrodd gan Ernest Morton Nance, 1953
Fâs o grochenwaith caled basalt â darlun llosgliw. Cafodd ei gwneud gan Wedgwood a Bentley, tua 1775-85
10: Fâs o grochenwaith caled basalt â darlun llosgliw. Cafodd ei gwneud gan Wedgwood a Bentley, tua 1775-85. Rhodd gan Mr a Mrs F. E. Andrews, 1934
Ffigwr priddwaith o Alexandra, Tywysoges Cymru (1844-1925), a wnaed yn Swydd Stafford tua 1862
11: Ffigwr priddwaith o Alexandra, Tywysoges Cymru (1844-1925), a wnaed yn Swydd Stafford tua 1862. Cymynrodd gan Mrs H. de C. Hastings, 1995
Tebot hufenwaith wedi'i baentio dan y gwydredd mewn glas a manganîs
12: Tebot hufenwaith wedi'i baentio dan y gwydredd mewn glas a manganîs. Cafodd ei wneud gan Enoch Booth, Swydd Stafford, tua 1743. Rhodd gan W. J. Grant-Davidson, 1994

Mae gan Amgueddfa Cymru gasgliad rhagorol o grochenwaith o Loegr a ddechreuwyd adeg sefydlu'r Amgueddfa. Mae'n parhau i ffynnu, diolch i genedlaethau o gymwynaswyr.

Dechreuodd hen Amgueddfa Drefol Caerdydd gasglu gwaith cerameg ym 1882, gyda'r nod o ddatblygu'r casgliad gorau posibl o grochenwaith a phorslen o Gymru. Erbyn 1895 credai'r Amgueddfa ei bod yn meddu ar y casgliadau gorau a mwyaf cynrychiadol o'u math yn y byd, a dechreuodd gyfeirio'i sylw at feysydd newydd, gan gynnwys cerameg o Loegr a'r cyfandir.

Ym 1896 gwnaed Robert Drane yn guradur anrhydeddus. Roedd yn gasglwr brwd ar borslen Caerwrangon, ac ef hefyd a oedd wedi dewis yr eitemau porslen Cymreig cyntaf i'r Amgueddfa eu prynu.

Sefydlu Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Ar yr adeg hon roedd Amgueddfa Drefol Caerdydd hefyd yn ymgyrchu dros sefydlu amgueddfa genedlaethol i Gymru, a'i huchelgais oedd datblygu i fod y sefydliad newydd hwnnw. Ym 1902 cyfeiriodd at y ffaith fod ei chasgliadau yn tyfu'n fwyfwy cenedlaethol eu natur, ac felly dechreuodd ddatblygu ei chasgliad o grochenwaith o Loegr.

O'r Canoloesol i'r diwydiannol

Câi pob rhan o'r traddodiad crochenwaith yn Lloegr ei chynrychioli, o grochenwaith diwedd y canol oesoedd, i grochenwaith caled, slip a Delft yr ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif, i ddarnau wedi'u cynhyrchu trwy'r dulliau diwydiannol a gyflwynwyd yn Swydd Stafford o ganol y ddeunawfed ganrif. [lluniau 1-2]

Dyma rai o'r eitemau eithriadol:

  • dysgl crochenwaith slip prin a godidog o'r ail ganrif ar bymtheg gan Ralph Toft o Swydd Stafford [llun 3]
  • mwg pwysig o grochenwaith caled wedi'i enamlo ag arfbais Farmer â'r dyddiad 1706 arno [llun 4]
  • dysgl hynod, o grochenwaith Delft. Cafodd ei gwneud yn Brislington ym 1680, ac mae'n dangos dau sgweier o Wlad yr Haf a oedd wedi herwgipio efeilliaid cyswllt i'w harddangos, er mwyn codi arian. [llun 5]

Roedd balchder yr Amgueddfa yn yr hyn yr oedd wedi'i gyflawni yn amlwg. Mewn adroddiad a ysgrifennwyd ym 1905 ar y ddysgl crochenwaith Delft o Brislington, mae'n nodi mai ychydig iawn o'r dysglau hyn a oedd yn bodoli, ac mai'r enghraifft hon yng Nghaerdydd, o bosibl, oedd y gorau ohonynt.

Dysgl o grochenwaith Delft a wnaed yn Brislington ger Bryste, tua 1680
5: Dysgl o grochenwaith Delft a wnaed yn Brislington ger Bryste, tua 1680. Prynwyd ym 1904
Tebot crochenwaith caled <em>rosso antico</em> a wnaed gan Wedgwood, Swydd Stafford, tua 1810-20
6: Tebot crochenwaith caled rosso antico a wnaed gan Wedgwood, Swydd Stafford, tua 1810-20. Rhodd gan Wilfred de Winton, 1903.
Jwg gwrw o berlwaith, gydag arysgrif i John Hughes o Lansamlet ger Abertawe
7: Jwg gwrw o berlwaith, gydag arysgrif i John Hughes o Lansamlet ger Abertawe. Mae'n debyg iddi gael ei gwneud gan Ralph Wedgwood yn Burslem, Swydd Stafford, neu Ferrybridge, Swydd Efrog, tua 1790-1800. Rhodd gan W S de Winton ym 1904
<em>The New Marriage Act</em>, mewn perlwaith
8: The New Marriage Act, mewn perlwaith. Er mai'r gred, pan y'i prynwyd, oedd iddo gael ei wneud yn Abertawe, cafodd ei wneud mewn gwirionedd yn Swydd Stafford tua 1825. Prynwyd ym 1941

Wilfred de Winton

Roedd y banciwr Wilfred de Winton yn cefnogi'r ymgyrch dros gael amgueddfa genedlaethol, a rhoddodd ei gasgliad enfawr o borslen iddi yn ddiweddarach.

Roedd ei roddion o grochenwaith o Loegr yn cynnwys jwg gwrw ddoniol o berlwaith, wedi'i mowldio ag wynebau yn dangos gwahanol gamau meddwdod. Mae'r handlen ar ffurf morfab yn edrych i mewn i'r jwg. [ill. 6-7] Y gred ar y pryd oedd i'r jwg hon gael ei gwneud yng nghrochendy lleol Cambrian, ond mewn gwirionedd mae'n un o'r nifer o ddarnau o Gymru yn y casgliad y canfuwyd yn ddiweddarach eu bod o Loegr. [llun 8]

Ernest Morton Nance

Ym 1953 rhoddodd Ernest Morton Nance ei gasgliad o waith cerameg Cymreig i'r Amgueddfa yn ei ewyllys. Roedd Nance yn arbennig o falch o'i jwg 'Crochenwaith Cambrian'. Credai mai golygfeydd o grochendy yn Abertawe a baentiwyd arni, ond mewn gwirionedd mae'n debygol mai yng nghrochendy Ralph Wedgwood yn Ferrybridge y gwnaed hon hefyd, tua'r flwyddyn 1800. [llun 9]

Powlen gwaddodion/slops o grochenwaith caled wedi'i fowldio o slip a'i wydro â halen
13: Powlen gwaddodion/slops o grochenwaith caled wedi'i fowldio o slip a'i wydro â halen. Cafodd ei gwneud yn Swydd Stafford tua 1740. Rhodd gan W. J. Grant-Davidson, 1994
Tebot crochenwaith caled coch ag addurn <em>chinoiserie</em> wedi'i fowldio
14: Tebot crochenwaith caled coch ag addurn chinoiserie wedi'i fowldio. Cafodd ei wneud yn Swydd Stafford tua 1760-65. Rhodd gan W. J. Grant-Davidson, 1994
Dysgl briddwaith wedi'i phaentio mewn lystar coch ac aur gan William de Morgan, tua 1881
15: Dysgl briddwaith wedi'i phaentio mewn lystar coch ac aur gan William de Morgan, tua 1881. Prynwyd ym 1994
Fâs briddwaith wedi'i phaentio â llaw
16: Fâs briddwaith wedi'i phaentio â llaw. Cafodd ei dylunio gan Frank Brangwyn ar gyfer Royal Doulton, tua 1930-35. Prynwyd ym 1972

Y casgliad yn parhau i ehangu

Mae'r casgliad o grochenwaith o Loegr yn parhau i ffynnu, diolch i genedlaethau o gymwynaswyr. [llun 10] Trwy gymynroddion, derbyniwyd casgliadau helaeth o grochenwaith lystar (yr Arglwydd Boston, 1942), cloriau potiau o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Miss E. A. Nicholl, 1981) a ffigyrau o Swydd Stafford o gyfnod y Frenhines Victoria (Mrs H. Hastings, 1995). [llun 11] Ym 1994 roedd rhodd W. J. Grant-Davidson, a oedd yn ysgolhaig ym maes crochenwaith Cymru, yn cynnwys darnau diddorol o Swydd Stafford. Y mwyaf diddorol oedd enghraifft gynnar a phwysig o debot hufenwaith a wnaed gan Enoch Booth tua'r flwyddyn 1743. [lluniau 12-14]

Mae Amgueddfa Cymru hefyd yn casglu crochenwaith modern, ac mae wedi prynu enghreifftiau fel dysgl lystar gan William de Morgan a fâs Royal Doulton a ddyluniwyd gan Frank Brangwyn. [lluniau 15-16] Cafwyd darnau modern eraill o Gasgliad Allestyn yr Amgueddfa, er enghraifft dyluniadau o'r 1930au gan y pensaer Keith Murray ar gyfer Wedgwood ac, yn arbennig, rhodd hael gan Mick Richards, sef casgliad ardderchog o waith cerameg Susie Cooper. [llun 17]

Mae'r casgliad yn parhau i ehangu, a phrynwyd eitemau fel tebot hufenwaith o tua 1765, sy'n coffáu'r gwleidydd radical John Wilkes. [llun 18]

Fâs briddwaith wedi'i chreu ar droell a'i hendorri
17: Fâs briddwaith wedi'i chreu ar droell a'i hendorri. Cafodd ei gwneud gan Grochendy Susie Cooper, tua 1932. Rhodd gan Mick Richards, 2003
Tebot hufenwaith yn dathlu John Wilkes
18: Tebot hufenwaith yn dathlu John Wilkes. Mae'n debyg y cafodd ei wneud a'i enamlo yn Swydd Stafford tua 1763-68. Prynwyd yn 2009

Awdur: Andrew Renton, Pennaeth Celfyddyd Gymhwysol

Dyddiad yr erthygl: 6 Ionawr 2010

+ Dangos sylwadau

---

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:
starstarstarstarstar

Delweddau:
starstarstarstarstar

Arddull a darllenadwyedd:
starstarstarstarstar