Astudiaethau castell yng Nghymru (a'r tu hwnt)

Castell Cas-gwent © Cadw, Llywodraeth Cynulliad Cymru (Hawlfraint y Goron)
Castell Cas-gwent © Cadw, Llywodraeth Cynulliad Cymru (Hawlfraint y Goron)
Giatiau pren yn Castell Cas-gwen, wedi'u dyddio i'r 1190au.
Giatiau pren yn Castell Cas-gwen, wedi'u dyddio i'r 1190au. Mae hyn yn meddwl mai nhw mwy na thebyg yw'r drysau castell hynaf yn Ewrop. © Cadw, Llywodraeth Cynulliad Cymru (Hawlfraint y Goron)
Castell Dolforwyn. © Cadw, Llywodraeth Cynulliad Cymru (Hawlfraint y Goron)
Castell Dolforwyn o'r awyr. © Cadw, Llywodraeth Cynulliad Cymru (Hawlfraint y Goron)
Castell Dolforwyn. © Cadw, Llywodraeth Cynulliad Cymru (Hawlfraint y Goron)
Castell Dolforwyn. © Cadw, Llywodraeth Cynulliad Cymru (Hawlfraint y Goron)
Castell Dolwyddelan. © Cadw, Llywodraeth Cynulliad Cymru (Hawlfraint y Goron)
Castell Dolwyddelan. © Cadw, Llywodraeth Cynulliad Cymru (Hawlfraint y Goron)

Roedd datblygu astudiaethau canoloesol yn wedd arwyddocaol ar archeoleg yn dilyn yr Ail Ryfel Byd ac roedd gwaith ar gestyll yn nodwedd amlwg ar yr astudiaethau hynny.

Os hoffech ddysgu am gestyll canoloesol yng Nghymru, y llyfr i chi yw Castles, town defences and artillery fortifications in the United Kingdom and Ireland: a bibliography 1945-2006 a gasglwyd gan John R. Kenyon.

Gwnaethpwyd llawer o waith ar gestyll cyn 1945, er bod ein dealltwriaeth o'r cofadeiliau hyn wedi newid dros y blynyddoedd. Oherwydd y nifer fawr o enghreifftiau ardderchog o gestyll yng Nghymru bu astudiaethau castell yn rhan bwysig yn y ffordd mae'n hymchwil ar yr adeiladau hyn wedi'i datblygu dros y ganrif a hanner ddiwethaf, fwy neu lai.

Cestyll maen mawr Cymru

Disgrifiwyd George Thomas Clark fel sefydlwr astudiaethau castell. Roedd yn beiriannydd a fu'n gweithio o dan Brunel ar reilffyrdd y Great Western a Chwm Taf yn y 1830au. O'r 1850au bu'n rheoli gweithfeydd haearn Dowlais ym Morgannwg ac roedd mewn lle da i archwilio cestyll Cymru wrth ei bwysau. Ysgrifennodd nifer o bapurau ar y pwnc ac wedyn cyhoeddodd lyfr ohonynt. Cafodd ei ddamcaniaethau ar darddiad gwrthgloddiau cestyll Normanaidd cyntaf Cymru a Lloegr, yn enwedig y myntiau fel sydd i'w weld yng Nghastell Caerdydd, eu gwrthbrofi gan ymchwilwyr diweddarach megis Ella Armitage. Er gwaethaf hynny mae crynswth ei waith ar gestyll maen mawr Cymru a llefydd eraill o werth o hyd.

Mae'r Bibliography 1945-2006 gyda 740 tudalen yn brawf o ba mor boblogaidd bu astudiaethau castell er 1945. Mae cloddio'r Castell Baldwyn cyntaf a elwir yn Hen Domen o 1960 i 1992 yn enghraifft dda. Mae wedi rhoi darlun diddorol iawn i ni o sut byddai'r castell pridd a phren hwn ar y Gororau wedi edrych yn y ddeuddegfed ganrif.

Y drysau castell hynaf yn Ewrop

Mae ymchwil ddiweddar arall wedi newid ein dealltwriaeth o sut mae rhai nodweddion ar y cestyll maen mawr wedi datblygu. Un o'r enghreifftiau gorau o hyn yw Cas-gwent yn ne-ddwyrain Cymru. Yn y gorffennol ystyriwyd cyflwyniad porthdai crwn â dau dŵr fel sydd ym mhorth allanol Cas-gwent yn ddatblygiad o dua'r 1220au. Ond mae giatiau pren a oedd yn hongian yn y porthdy tan 1962, ac erbyn hyn sy'n cael eu harddangos o fewn y castell, wedi'u dyddio drwy ddendrocronoleg (sef dadansoddi cylchoedd coed) i'r 1190au. Mae hyn yn meddwl mai nhw mwy na thebyg yw'r drysau castell hynaf yn Ewrop.

Mewn llefydd eraill bu cloddio a gwarchod ar nifer o gestyll arglwyddi Cymreig cynhenid er enghraifft yn Ninefwr a Dryslwyn yn sir Gâr. Mae Dolforwyn ym Mhowys, sef y castell olaf i'w godi gan Lywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru a fu farw ym 1282, wedi ei lwyr ddatguddio. Mae canlyniadau'r gwaith ar y tri chastell wedi ymddangos mewn llyfrau tywys ac adroddiadau academaidd.

Gan: John R. Kenyon

Dyddiad yr erthygl: 1 Ebrill 2009

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:
starstarstarstarstar

Delweddau:
starstarstarstarstar

Arddull a darllenadwyedd:
starstarstarstarstar