Rhagor - darganfod byd o gasgliadau

Arwyddion cenedlaethol

[delwedd: Welsh National Flag]

Symbol herodrol Cymru yw'r Ddraig Goch, a welir ar y faner genedlaethol. Yn ôl traddodiad, cariai Arthur faner a'r Ddraig Goch arni wedi i'w dad Uthr Bendragon weld draig yn yr awyr yn darogan mai ef fyddai'n frenin.

Yn ôl pob tebyg, y llengoedd Rhufeinig ddaeth â'r ddraig fel symbol i Brydain. Byddai beirdd Cymru yn yr Oesoedd Canol yn aml yn cymharu eu harweinwyr i ddreigiau, er mwyn canu clodydd i'w dewrder. Er enghraifft, disgrifiodd Gruffydd ab yr Ynad Coch y tywysog Llewelyn ap Gruffudd fel Pen dragon, pen draig oedd arnaw.

Rhwng 1485 a 1603, roedd y ddraig i'w gweld ar arfbais teulu'r Tuduriaid, ond fe'i dilewyd hi o'r arfbais frenhinol ar orchymyn Iago I a rhoddwyd uncorn yn ei lle.

Daeth y Ddraig Goch yn ôl i'r amlwg fel arwyddlun brenhinol Cymru yn 1807, ac yn raddol daeth i gystadlu â'r tair pluen estrys fel symbol o Dywysogaeth Cymru. Ar awgrym Gorsedd y Beirdd, cafodd ei chydnabod yn swyddogol gan y Frenhines yn 1959, ac fe'i defnyddir yn gyson bellach yn y faner genedlaethol.

Y genhinen a'r genhinen Bedr

Ceir sôn yng ngherddi Taliesin yn y 6ed ganrif a hefyd yn Llyfr Coch Hergest yn y 13eg ganrif am rinweddau'r genhinen fel llysieuyn lleol. Fe'i gwisgid gan filwyr o Gymru ym Mrwydr Crecy ac, erbyn 1536, pan rhoes Harri VIII genhinen i'w ferch ar Fawrth 1af, roedd cysylltiad eisoes rhwng y genhinen â Gŵyl Ddewi. Mae'n bosibl bod lliwiau teuluol y Tuduriaid - gwyrdd a gwyn - yn tarddu o liwiau'r genhinen.

Mabwysiadwyd y genhinen Bedr, neu'r daffodil, yn gymharol ddiweddar fel arwydd genedlaethol. Yn ystod y 19eg ganrif, daeth yn flodyn poblogaidd, yn arbennig gan ferched. Enillodd y genhinen Bedr ei phlwyf wedi i'r Prif Weinidog David Lloyd George ei gwisgo i seremonïau arwisgo Tywysog Cymru yng Nghaernarfon ym 1911.

Dyddiad yr erthygl: 24 Chwefror 2012

3 sylw

jacob simon ar 26 Ebrill 2012, 20:54

Why not illustrate (or include links to) some of your wonderful portraits of Welshmen holding or wearing leeks?

Amgueddfa Cymru ar 14 Mawrth 2012, 15:58

Dear Mr Parry,
Many thanks for your question relating to the colours on the Welsh flag. The symbolism you were taught regarding the red, white and green is actually connected to the Welsh youth movement 'Urdd Gobaith Cymru' (The Welsh League of Youth), founded in 1922 by Syr Ifan ab Owen Edwards. In 1944 a triangular badge in white, red and green was created for the Urdd, with the white representing 'Christ', red 'Fellow Man' and green 'Wales'. The Urdd's motto from then on was 'I will be faithful to Wales, to Fellow Man and to Christ'.

With regards to the Welsh flag, legend has it that the troops of Llywelyn ap Gruffudd, Prince of Wales (died 1282), were adorned in green and white, whilst the Welsh soldiers who fought in the Battle of Crecy in 1346 wore chequered green and white. The red dragon itself is said to have been introduced into Britain by the Roman legions. Henry VII used a derivative of the modern Welsh flag at the Battle of Bosworth in 1485; Henry's Welsh ancestry deriving from the Tudors of Penmynydd, Anglesey, themselves descended from the Princes of Gwynedd, which takes us back to the green and white of Llywelyn's period.
Hope this helps,

Geraint Thomas, Interpretive Craftsmen, Amgueddfa Cymru

alwyn parry ar 14 Mawrth 2012, 02:15

i was taught that the white background was for God,the red for the people and their language and green for the land any truth in this?

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:     

Delweddau:     

Arddull a darllenadwyedd: