Rydych chi yn: Archwilio'r Casgliadau > Y wisg Gymreig

Y wisg Gymreig

Dawnswyr Brynmawr mewn gwisg Gymreig

Daw'r ddelwedd boblogaidd o'r wisg genedlaethol Gymreig — gwraig mewn clogyn coch a het ddu uchel — o wahanol ddylanwadau'r 19edd ganrif. Rhan ydoedd o ymgais i roi hwb i ddiwylliant Cymreig mewn cyfnod pan oedd gwerthoedd traddodiadol o dan fygythiad.

Mae'r wisg sy'n cael ei hystyried yn wisg genedlaethol wedi'i seilio ar y dillad a wisgid gan wragedd cefn gwlad Cymru yn ystod y 19edd ganrif, sef pais wlanen resog a wisgid o dan goban neu wn agored, gyda ffedog, siôl a hances neu gap. Roedd steil y gwn yn amrywio - gellid cael gwn llac fel côt, gwn gyda bodis wedi'i ffitio a sgert hir a hefyd gwn byr a oedd yn debyg iawn i wisg farchogaeth.

Roedd yr hetiau a wisgid yn gyffredinol yn y cyfnod hwn yr un fath â hetiau'r dynion. Nid ymddangosodd yr het uchel math 'simnai' tan ddiwedd y 1840au ac ymddengys iddi gael ei seilio ar gyfuniad o'r hetiau uchel a wisgid gan ddynion, sef y 'top hat' a math o het uchel a wisgid mewn ardaloedd cefn gwlad yn ystod y cyfnod 1790-1820.

Bu'r Arglwyddes Llanofer, gwraig i un o feistri haearn Gwent, yn frwd dros wisg genedlaethol a byddai'n annog pobl i'w gwisgo yn ei chartref ac mewn eisteddfodau. Credai ei bod yn bwysig annog pobl i ddefnyddio'r iaith Gymraeg ac i wisgo dillad nodweddiadol Gymreig. Llwyddodd yn hyn o beth, a hynny'n bennaf oherwydd fod pobl Cymru yn teimlo bod eu hunaniaeth genedlaethol o dan fygythiad. Roedd gwisgo gwisg genedlaethol yn un ffordd o hyrwyddo'r hunaniaeth honno.

Dylanwad pellach oedd gwaith yr arlunwyr, a gynhyrchai brintiau i'r fasnach ymwelwyr a oedd yn prysur dyfu, ac a arweiniodd at boblogeiddio'r syniad o wisg Gymreig draddodiadol, ac yn ddiweddarach waith y ffotograffwyr a gynhyrchai filoedd o gardiau post. Arweiniodd hyn at greu un math o wisg, yn hytrach na'r steiliau amrywiol a geid yn gynharach yn y ganrif.

A oes yna'r fath beth â chilt Cymreig?

Telynor llys Llanofer, 19eg ganrif

Er i Arglwyddes Llanofer greu gwisg unigryw i'w thelynor llys (gweler y ffotograff), nid oedd ganddi lawer o ddiddordeb mewn creu gwisg genedlaethol ar gyfer dynion. O achos hynny, nid oes gan ddynion Cymru wisg genedlaethol, er i rai yn ddiweddar geisio 'adfer' cilt Cymreig — na fu mewn bodolaeth erioed!

Hyd yn oed yn yr Alban, mae tystiolaeth mai datblygiad cymharol ddiweddar yw'r cilt sy'n gyfarwydd inni heddiw. Byddai'r dynion yn draddodiadol yn gwisgo plad, wedi'i glymu â belt a'i daflu dros yr ysgwydd.

Siolau

Siol Paisley

Rhwng 1840 a 1870 y siôl oedd y gyfwisg fwyaf ffasiynol. Y sioliau mwyaf poblogaidd oedd y sioliau paisley. Daeth y patrwm gwreiddiol ar eu cyfer o Kashmir yn India.

Y sioliau mwyaf cyffredin ar y cychwyn oedd sioliau plaen ag ymyl patrymog wedi'i gysylltu wrthynt. Yn ddiweddarach, cafodd llawer math o sioliau cain gyda phatrymau ar yr ymyl neu dros y cyfan eu gwehyddu yn Norfolk, yr Alban a Pharis. Erbyn canol y ganrif ceid sioliau mawr iawn i gyd-fynd â sgertiau llawn y cyfnod. Câi sioliau eu gwneud mewn ffabrigau a phatrymau eraill, gan gynnwys sidan Canton a les cain a wnaed â pheiriant, er mai'r patrwm paisley a sioliau gwlân cartref gyda phatrymau sgwarog a ddaeth yn boblogaidd yng Nghymru.

Yn ddiweddarach, er nad oedd gwragedd ffasiynol bellach yn gwisgo sioliau, byddai gwragedd cefn gwlad a gweithwragedd y trefi'n dal i wneud a gwisgo sioliau llai o faint. Erbyn y 1870au cynhyrchid sioliau rhatach drwy brintio'r patrymau ar wlanoedd main neu gotwm. Roedd sioliau gwlân, gwau a paisley'n gyffredin yn ardaloedd cefn gwlad Cymru hyd yn oed ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Cafodd y siôl paisley ei derbyn yn rhan o'r wisg 'Gymreig', er nad oes dim yn draddodiadol Gymreig yn ei chylch.

Un traddodiad sydd yn wirioneddol Gymreig yw'r arfer o gario babanod mewn siôl. Ceir darluniau yn portreadu hyn o ddiwedd y 18fed ganrif pan arferai gwragedd Cymru wisgo darn syml o ddefnydd wedi'i glymu am eu cyrff. Pan ddaeth sioliau'n boblogaidd gwnaed yr un defnydd ohonynt ac mae rhai gwragedd hyd heddiw yn dal i lynu at y traddodiad hwn.

Erthygl gan: Christine Stevens

Dyddiad yr erthygl: 6 Mai 2007

+ Dangos sylwadau

---

Gadael sylw


Geirfa

Eisteddfod
Gŵyl o lenyddiaeth, cerddoriaeth a chanu Cymreig.

Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:
starstarstarstarstar

Delweddau:
starstarstarstarstar

Arddull a darllenadwyedd:
starstarstarstarstar