Rhagor - darganfod byd o gasgliadau

Creigiau hynaf Cymru

Yr eitemau hynaf yng nghasgliadau'r Amgueddfa yw awyrfeini 4,500 miliwn mlynedd oed o'r gofod. Fodd bynnag, yr eitemau hynaf o Gymru yw sbesimenau o greigiau o ardal Pencraig, Powys, a ffurfiwyd tua 700 miliwn o flynyddoedd yn ôl, cyn i Gymru gymryd y ffurf yr ydym ni'n ei hadnabod heddiw.

Creigiau tawdd o Afalonia

Y creigiau hyn sy'n ffurfio y tri bryn bychain conaidd Hanter, Stanner a Worsel Wood, ac fe'u gwnaed o gabro, dolerit ac ithfaen — creigiau igneaidd a fu unwaith yn greigiau tawdd. Pan ffurfiwyd y rhain 700 miliwn o flynyddoedd yn ôl, roedd Cymru ymhell yn hemisffer y de. Roedd Cymru, Lloegr a rhannau o Newfoundland, New Brunswick a New England yn rhan o ficrogyfandir Afalonia a oedd ar gyrion cyfandir enfawr Gondwana.

Bryd hynny, roedd yr Alban yn agos at y cyhydedd, yn sownd wrth gyfandir Laurentia yng Ngogledd America. Ni ddaeth yn rhydd ac uno â de Prydain am gannoedd o filiynau o flynyddoedd wedyn.

Ceir creigiau hen iawn ar Ynys Môn ac ym Mhen Llŷn hefyd, a chredir bod creigiau tebyg yn ddwfn yn y ddaear ledled Cymru. Fel rheol, dim ond mewn mannau lle cawsant eu codi i'r wyneb ar hyd y prif ffawtiau y gwelwn y creigiau hynafol hyn.

Sut y gwyddom mai'r rhain yw creigiau hynaf Cymru?

Nid oes ffosilau yn y creigiau hyn. Felly, sut y gwyddom mai'r creigiau o ardal Pencraig yw'r hynaf a pha mor hen ydynt? Cawn yr ateb wrth edrych ar y mwynau sydd yn y creigiau a'r elfennau cemegol sydd yn y mwynau hynny.

Dadfeiliad ymbelydrol

Mae creigiau'n cynnwys gwahanol fwynau a'r mwynau yn eu tro yn cynnwys elfennau cemegol. Mae llawer o elfennau i'w cael mewn gwahanol ffurfiau, neu isotopau, ac mae rhai o'r rhain yn naturiol ansefydlog ac yn newid ohonynt eu hunain i fod yn elfen arall trwy broses dadfeiliad ymbelydrol. Trwy'r broses hon, cawn gloc naturiol sy'n mesur faint o amser a fu ers i'r mwynau gael eu ffurfio. Mae'r cloc yn dechrau cerdded cyn gynted ag y bydd y mwyn yn crisialu.

Trwy ddefnyddio offer manwl iawn — spectromedr màs — gellir mesur cyfran cynhyrchion y dadfeiliad ymbelydrol. Gan fod y rhain yn crynhoi ar raddfa sy'n gyson, gellir cyfrif faint o amser a gymerodd iddynt ffurfio — fel rheol mae'n cymryd miliynau lawer o flynyddoedd.

Mesurwyd oed creigiau Stanner-Hanter gan gyfrif yr amser a gymerodd isotop ansefydlog o rwbidiwm i ddadfeilio'n strontiwm. Defnyddiwyd elfennau gwahanol, er enghraifft wraniwm a phlwm, i ddyddio hen greigiau eraill.

Er bod creigiau hynaf Cymru yn 700 miliwn o flynyddoedd oed, maent gryn dipyn yn iau na creigiau hynaf Ynysoedd Prydain ac Ewrop. Creigiau metamorffig o Ynysoedd Lewis, yr Alban, yw'r rhain a chredir eu bod yn 3,300 miliwn o flynyddoedd oed.

Creigiau hynaf y byd

Mae'r creigiau hynaf y gwyddom amdanynt yn y byd yn 3,962 miliwn o flynyddoedd oed ac yn dod o Acasta, gogledd orllewin Canada. Cawsant eu creu o greigiau sy'n hŷn na hynny hyd yn oed, ond na chawsant eu dyddio hyd yma.

Mae samplau o greigiau hynaf Cymru, Ynysoedd Prydain a'r byd i'w gweld yn yr arddangosfa Esblygiad Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Dyddiad yr erthygl: 26 Gorffennaf 2007

1 sylw

Alan Bowring ar 5 Ionawr 2012, 09:04

Is it not the case that recent dating of late Precambrian rocks in Anglesey have revealed ages some 100 million years older than Stanner-Hanter?

cheers

Alan

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:     

Delweddau:     

Arddull a darllenadwyedd: