Rhagor - darganfod byd o gasgliadau

Awyrfeini Cymru

Yn yr Adran Ddaeareg y mae'r eitemau hynaf yn Amgueddfa Cymru. Y ffosilau yw'r eitemau mwyaf cyffredin yno, yn amrywio o ryw 550,000,000 o flynyddoedd oed i ychydig dros 10,000 oed.

[delwedd: Awyrfaen Beddgelert]

Awyrfaen Beddgelert, wedi'i dorri i ddangos y tu mewn. Mae'n mesur tua 9cm x 7cm

Fodd bynnag, mae un grŵp o eitemau gryn dipyn yn hŷn na'r ffosilau hynaf ac, yn wahanol i'r ffosilau, nid o'r Ddaear y maent yn dod, ond o'r gofod.

Syrthiodd llawer o'r eitemau hyn o'r gofod a glanio mewn gwledydd pell o Gymru ond fe welwyd un, sydd o ddiddordeb arbennig i ni, yn syrthio i'r ddaear yn y gogledd.

Goleuadau llachar a llechi'n chwalu

Yn oriau mân y bore ar 21 Medi 1949, gwelodd llawer o bobl yng ngogledd Cymru a Swydd Gaer olau llachar yn symud yn gyflym yn yr awyr. Am 1.45am clywodd rhywun oedd yn aros yng Ngwesty'r Prince Llewelyn, Beddgelert gyfres o gleciadau marwaidd. Yna, bu tawelwch am dair neu bedair munud ac yna sŵn sïo fel awyren fechan a aeth yn gryfach ac yn gryfach hyd nes iddo glywed sŵn llechi to yn chwalu.

Deffrwyd rheolwr y gwesty gan gyfarth ei gi a chlywodd sŵn bangio afreolaidd ond aeth yn ôl i gysgu. Fore trannoeth, daeth ei wraig o hyd i dwll garw yn nenfwd lolfa i fyny'r grisiau, a phlastr a charreg dywyll tua maint pêl griced ar y llawr. Ni wyddai'r rheolwr na'i wraig beth oedd hyn nac a oedd cysylltiad rhyngddo a'r synau a glywodd ef yn y nos. Yn y bar y noson honno, dywedodd hen fwynwr a oedd wedi gweld awyrfeini mewn amgueddfa mai dyna oedd y garreg hon. Yn ddiweddarach, gwelwyd bod twll crwn, taclus yn llechi to'r gwesty.

Awyrfeini

Peth naturiol sy'n syrthio i'r Ddaear o'r gofod yw awyrfaen. Wrth deithio trwy'r atmosffer, mae'r haenau allanol yn cael eu poethi gan ffrithiant ac felly mae'n disgleirio ac yn edrych yn debyg i seren wib. Gall awyrfeini syrthio yn unrhyw le, unrhyw bryd, ond mae'n annhebygol iawn, iawn y cewch eich taro gan un (diolch byth!).

Dim ond un awyrfaen arall y gwyddom iddo syrthio yng Nghymru — ym Mhontllyfni, ger Caernarfon ym 1931. Credir bod y rhan fwyaf o awyrfeini'n dod o gwmwl o bethau creigiog bychan a elwir yn Wregys Asteroidau, sydd rhwng cylchdroeon planedau Mawrth ac Iau yng nghyfundrefn yr haul. Weithiau, mae rhai'n taro'i gilydd neu'n cael eu tynnu gan rymoedd disgyrchiant ac mae eu cylchdro'n newid gan olygu eu bod yn taro'r Ddaear.

Mae bron pob awyrfaen y daw pobl o hyd iddynt yn cael eu rhoi i wyddonwyr i'w harchwilio a'u dadansoddi, ond mae'n debyg bod awyrfaen Pontllyfni wedi cael ei gadw o dan wely rhywun am dros ddeugain mlynedd cyn cyrraedd yr Amgueddfa Astudiaethau Natur yn Llundain!

Cafodd awyrfeini Beddgelert a Phontllyfni eu harchwilio trwy gael eu torri'n ofalus a rhannu'r darnau rhwng gwahanol amgueddfeydd, prifysgolion a sefydliadau ymchwil. Felly, mae Amgueddfa Cymru'n ffodus bod gennym ddarn bychan o awyrfaen Beddgelert a syrthiodd i'r Ddaear ym mis Medi 1949. Fe'i gwelir yn yr arddangosfa Esblygiad Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Creigiau o'r gofod yn hŷn na'r Ddaear

Trwy ddyddio isotopau ymbelydrol o elfennau cemegol yn yr awyrfeini, penderfynwyd bod y rhan fwyaf ohonynt, yn cynnwys rhai Beddgelert a Phontllyfni, tua 4,560,000,000 o flynyddoedd oed. Mae hyn yn debyg i oed tebygol y Ddaear a gweddill cyfundrefn yr h. Mewn cymhariaeth, credir bod y creigiau hynaf y gwyddom eu bod wedi'u ffurfio ar y Ddaear ei hunan tua 3,800,000,000 oed (yng Nghymru, tua 700,000,000 oed yw'r creigiau hynaf).

Am y rheswm hwn, mae awyrfeini o ddiddordeb ac o bwysigrwydd mawr wrth astudio hanes cynharaf y Ddaear a chyfundrefn yr haul. Maent yn rhoi cliwiau i ni am eu cyflwr cyntefig a sut y cawsant eu ffurfio.

Mae un dosbarth neilltuol o awyrfeini y ceir enghraifft ohonynt yng nghasgliadau'r Amgueddfa (ond nid un Beddgelert), yn cynnwys cemegau a gynhyrchwyd wrth i sêr enfawr ffrwydro; mae'r rhain yn cynnwys samplau o rai o'r elfennau cemegol sy'n ffurfio 'blociau adeiladu' bywyd ac y datblygodd pob math o fywyd — yn cynnwys ni ein hunain — ohonynt yn y pen draw.

Dyddiad yr erthygl: 26 Gorffennaf 2007

3 sylw

Amgueddfa Cymru ar 15 Tachwedd 2011, 09:30

Dear John,
Thank you for your comment, if you are able to bring it into the National Museum Cardiff, then our curators in the Geology Department can examine it for you. If this is the case, please contact geology@museumwales.ac.uk to book an appointment

john watts ar 13 Tachwedd 2011, 17:30

What do I do if I think i've found a meteorrite?

Robert Dancy ar 5 Hydref 2009, 09:44

A very interesting website. Thank you.

Gadael sylw


Erthygl gwreiddiol

Cliciwch i lawrlwytho'r erthygl gwreiddiol.

meteorites.pdf
46 KB

Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:     

Delweddau:     

Arddull a darllenadwyedd: