Rhagor - darganfod byd o gasgliadau

Mynd am dro trwy dde Cymru ym 1804

[delwedd: Llun o groesau o'r 11eg ganrif ger Margam, o lyfr Excursions Donovan (1805)]

Llun o groesau o'r 11eg ganrif ger Margam, o lyfr Excursions Donovan (1805)

Mae gan Amgueddfa Cymru gasgliad helaeth o lyfrau topograffig o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ac ynddynt ddarluniau ardderchog.

Ysgrifennwyd un o'r llyfrau hyn, Descriptive Excursions through South Wales and Monmouthshire in the Year 1804, and the Four Preceding Summers, gan Edward Donovan, awdur a oedd yn canolbwyntio ar fyd natur. Ysgrifennodd lawer o lyfrau ar wahanol fathau o greaduriaid fel pryfetach, cregyn a physgod. Ceir ynddynt lawer o blatiau lliw o safon uchel iawn.

Yn ogystal, roedd gan Donovan gasgliad mawr o sbesimenau o fyd natur. Hwn oedd y casgliad a agorwyd i'r cyhoedd ym 1807 fel y London Museum and Institute of Natural History. Er bod Donovan yn ddyn cyfoethog i gychwyn, bu farw'n dlawd — yn ôl pob tebyg, llyfrwerthwyr oedd yn rheoli ei weithiau i gyd a oedd, yn ôl y cyfrif, yn werth dros £60,000 yn y 1830au.

Parotiaid Cymru

Yn Descriptive Excursions through South Wales and Monmouthshire in the Year 1804, and the Four Preceding Summers, a gyhoeddodd mewn dwy gyfrol ym 1805, mae'n disgrifio'i deithiau o Fryste i Sir Benfro. Mae Donovan yn cynnig llawer o sylwadau ar fyd natur a daeareg yr ardaloedd y mae'n dod ar eu traws, fel palod Ynys Bŷr, a alwyd yn 'barotiaid Cymru' gan forwyr.

Mae Donovan yn disgrifio topograffeg, arferion, pensaernïaeth a hynafiaethau y mannau y mae'n ymweld â nhw. Prynodd ben bwrdd Rhufeinig o Gaerllion ar Wysg, yn dangos llun o Fenws. Mae'r cerflun hwn ar goll erbyn hyn, ond ceir llun ohono yn ei adroddiad am ei deithiau.

Mae'r gyfrol gyntaf yn sôn am ei daith hyd at ardal Ewenni ger Pen-y-bont ar Ogwr a'r ail gyfrol yn mynd â'r darllenydd o Fargam i Ddinbych-y-pysgod. Ceir un bennod, o dros 80 o dudalennau, yn disgrifio cyflwr olion a henebion Caerllion ar Wysg. Yn ogystal â bod yn adroddiad archeolegol defnyddiol ynddo'i hunan, ceir yno hefyd nifer o ysgythriadau o bethau a ganfuwyd yn y gaer Rufeinig yn cynnwys cerfluniau, crochenwaith, darnau arian a theils.

Croesau cerrig Margam

Ceir disgrifiadau o henebion cyfnod diweddarach yn yr ail gyfrol, sy'n sôn am ymweliad Donovan ag ardal Margam. Yn ogystal ag adfeilion abaty Sistersaidd Margam, roedd yno nifer o groesau cerrig ac arysgrifau arnynt a oedd yn perthyn i'r cyfnod Cristnogol Cynnar. Roedd pâr ohonynt ger ffermdy Cwrt-y-Dafydd.

Ar y pryd, roedd croesau Cwrt-y-Dafydd yn cael eu defnyddio fel pont dros nant. Ceir llun ohonynt yn un o'r platiau mwyaf deniadol a ddefnyddiwyd i ddarlunio adroddiad Donovan am ei daith. Mae Donovan yn eu cymharu â henebion tebyg a welodd yn Llanilltud Fawr. Erbyn hyn mae'r slabiau hyn yn rhan o gasgliad yn Amgueddfa Abaty Margam ac fe'i gelwir, ar ôl yr arysgrifau sydd arnynt, yn groesau Ilquici ac Ilci. Croesau o'r unfed ganrif ar ddeg ydynt.

Aeth Donovan ymlaen i Margam ei hunan. Gadawyd ef i mewn gan y garddwr a oedd yn cael gadael pobl ddieithr i mewn os oeddent yn 'edrych yn barchus'. Mae'n disgrifio ac yn darlunio dau heneb Cristnogol Cynnar arall o'r ardal.

Mae'r adroddiadau hyn yn rhoi cipolwg gwerthfawr i ni ar fywyd o ddydd i ddydd yng Nghymru tua diwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg.

Dyddiad yr erthygl: 6 Gorffennaf 2007

0 sylw

Gadael sylw


Themau

Erthygl gwreiddiol

Cliciwch i lawrlwytho'r erthygl gwreiddiol.

tours of wales.pdf
1133 KB

Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:     

Delweddau:     

Arddull a darllenadwyedd: