Daeargrynfâu yng Nghymru

Er na ellir cymharu'r sefyllfa yng Nghymru â'r hyn a geir mewn ardaloedd sy'n enwog am fod yn ansefydlog fel gorllewin Califfornia, Japan neu Swmatra, mae'r ddaear yn symud yn eithaf aml yma hefyd. Efallai y synnwch o glywed bod o leiaf 16 daeargryn sylweddol wedi digwydd yng Nghymru yn ystod y ganrif ddiwethaf.

Seismograff yn dangos daeargryn yn y gogledd ym 1994
Seismograff yn dangos daeargryn yn y gogledd ym 1994

Beth sy'n achosi daeargrynfâu yng Nghymru?

Mae Arolwg Daearegol Prydain (BGS) yn cofnodi rhyw 300-400 o ddaeargrynfâu bob blwyddyn ym Mhrydain. Mae Cymru, fel gweddill y DU, yn eistedd ar y plât Ewropeaidd, ac mae'r straen yn cynyddu wrth iddo gael ei wthio'n araf tua'r gogledd ddwyrain o Gefnen Canol Cefnfor Iwerydd. Caiff y straen ei ollwng trwy symud ar hyd planiau ffawtiau sydd yno eisoes, gan achosi daeargryn.

Lle yng Nghymru y mae daeargrynfâu yn digwydd?

Ceir nifer o hen systemau ffawtiau yng Nghymru. Pan ffurfir ffawtiau, maent yn creu gwendid yng nghramen y ddaear lle gall daeargrynfâu ddigwydd dro ar ôl tro. Er enghraifft, gwyddom fod y system ffawtiau sy'n rhedeg yn gyfochrog ag Afon Menai rhwng Ynys Môn a Bangor, Gwynedd yn weithredol dros 500 miliwn o flynyddoedd yn ôl ac fe gafwyd daeargrynfâu eraill yno yn fwy diweddar.

Yn ardal Afon Menai y ceir y rhan fwyaf o ddaeargrynfâu Cymru ac mae'n un o'r ardaloedd sy'n cael ei tharo amlaf yn y DU hefyd. Ym 1984 y cafwyd y ddaeargryn fawr ddiwethaf yma ond ceir cofnodion hanesyddol am eraill hefyd (e.e. 1827, 1842, 1852, 1874, 1879, 1903). Er bod sawl daeargryn wedi'u cofnodi yn ne Cymru, o Sir Benfro i Gasnewydd, dim ond yn ardal Abertawe y cafwyd daeargrynfâu yn gymharol aml, gyda rhai eithaf mawr ym 1727, 1775, 1832, 1868 a 1906.

Y ddaeargryn fwyaf yng Nghymru ers canrif

Y ddaeargryn a gafwyd yn ardal Afon Menai ym 1984, yn mesur 5.4, oedd yr un fwyaf a gafwyd ar dir mawr y DU ers dros ganrif. Roedd yr uwchganolbwynt yn ardal gogledd Llŷn ac fe gychwynnodd y ddaeargryn ar ddyfnder o ryw 22km yng nghramen y ddaear.

Cafwyd daeargryn arall sylweddol ar 2 Ebrill 1990 yn y Gororau. Roedd hon yn mesur 5.1 a chafodd ei theimlo dros ardal o ryw 140,000km sgwâr. Cafwyd chwe ôl-gryniad wedyn. Y farn i ddechrau oedd mai yn Nhrefesgob (Swydd Amwythig) roedd yr uwchganolbwynt ond canfuwyd wedyn ei fod ychydig y tu mewn i ffin Cymru (lledred 52.43° Gogledd, hydred 3.03° Gorllewin).

Difrod lleol

Ni wnaed llawer iawn o ddifrod gan y naill na'r llall o'r daeargrynfâu hyn. Craciwyd plastr a gwaith cerrig mewn tai a dymchwelodd rhai simneiau. Yn naeargryn Trefesgob, dim ond yn yr ardal agosaf at yr uwchganolbwynt y cafwyd unrhyw ddifrod.

Yr unig farwolaeth y gwyddom amdani yng Nghymru o ganlyniad i ddaeargryn yw bod menyw wedi syrthio i lawr y grisiau a marw yn ystod daeargryn Porthmadog ym 1940.

Digwyddiadau yn ddiweddar

Digwyddodd daeargryn yn ddiweddar ger Maesteg yn y de ar 5 Mehefin 2009. Cafodd Arolwg Daearegol Prydain wybod gan y cyfryngau a'r trigolion lleol. Rhai o'u sylwadau oedd: 'gorwedd yn fy ngwely a siglodd ffrâm y gwely', 'y tŷ'n gwneud sŵn fel pe tai'n symud', 'teimlo fel bod car wedi taro'r tŷ' a chlywed 'sŵn dwndwr'.

Maint y ddaeargryn oedd 2.9 a honno oedd yr un fwyaf i daro'r de er 2002.

Mae daeargrynfeydd eraill yng Nghymru yn cynnwys:

  • Daeargryn o faint 2.9 yng Nghaerdydd ar 20 Mehefin 2002
  • Dwy ddaeargryn maint 3 ger Bargod yn Chwefror 2002 a Hydref 2001
  • Daeargryn maint 3.5 ger Pontsenni, Powys ar 25 Hydref 1999

Ar y cyfan, nid yw pobl yn teimlo effeithiau daeargrynfâu sy'n mesur llai na 2.

Cofnodi daeargrynfâu yn Amgueddfa Cymru.

Mae seismograff yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn dangos yr hyn a gofnodir gan seismomedr yn yr ardal fel y gellir gweld data o ddigwyddiadau seismig.

Gan fod seismomedrau yn sensitif iawn i bob math o ddirgryniadau yn y ddaear, nid dim ond daeargrynfâu ond symudiadau traffig, trenau a hyd yn oed waith ar y ffordd, nid oedd modd gosod seismomedr yng nghanol dinas Caerdydd. Yn hytrach, rydym yn cael data trwy gysylltiad radio o seismomedr agosaf y BGS ger Casnewydd, Gwent.

Geirfa

  • ôl-gryniadau yw'r daeargrynfâu sy'n dilyn y ddaeargryn fwyaf mewn cyfres. Maent yn llai na'r brif ddaeargryn a gallant barhau am flynyddoedd wedyn. Mae hyd cyfnod yr ôl-gryniadau yn gysylltiedig â maint y brif ddaeargryn. Yn dilyn daeargryn fawr, ceir ôl-gryniadau mwy niferus a mwy o faint am gyfnod hirach.
  • Uwchganolbwynt yw'r man ar wyneb y Ddaear uwchben isganolbwynt y ddaeargryn.
  • Isganolbwynt, y man, yn ddwfn yn y ddaear, lle mae'r ddaeargryn yn cychwyn.
  • Dwysedd yw'r ffordd y mesurir effaith daeargryn ar bobl a'r amgylchedd. Mae'r dwysedd yn dibynnu ar y pellter o'r uwchganolbwynt; maint y ddaeargryn; a daeareg yr ardal. Yn Ewrop, defnyddir EMS 98 (y Raddfa Macroseismig Ewropeaidd), ac iddi 12 rhan, ac yn UDA, defnyddir Graddfa Ddwysedd Addasedig Mercalli. Ceir manylion EMS 98 yn:-http://www.earthquakes.bgs.ac.uk/macroseismics/ems_synopsis.htm
  • Maint yw'r ffordd o fesur cryfder daeargryn. Mae'n raddfa logarithmig ac ar gyfer pob cynnydd o un rhif cyfan ar y raddfa, mae symudiadau'r ddaear ddengwaith gymaint. Ceir sawl graddfa i fesur maint deaergryn, ond 'Graddfa Richter'(ML - maint lleol) yw'r un a ddefnyddir gan amlaf yn y DU ar gyfer daeargrynfâu 'lleol'.
  • Plât. Caiff haenau allanol cramen a mantell y Ddaear eu rhannu'n segmentau a elwir yn blatiau ac mae'r rhain yn symud trwy'r amser. Gelwir y broses hon yn dectoneg platiau.
  • Mae seismomedrau yn gweithio trwy fesur lleoliad pwysau, sydd â thorch yn sownd wrtho, mewn perthynas â magned mewn ffrâm. Mae dirgryniadau'n gwneud i'r dorch symud gan greu cerrynt trydan a gofnodir gan seismograff. Mae seismomedrau'n sensitif iawn a gallant gofnodi symudiadau bach iawn nad yw pobl yn eu teimlo o gwbl.
  • Mae seismograffau yn cofnodi'r symudiadau a deimlir gan y seismomedr. Gwneir hyn trwy olrhain y symudiad ar bapur neu ar ffurf data electronig. Mae marcwyr amser yn golygu y gellir cofnodi'n union pryd y mae digwyddiad seismig yn cyrraedd y seismomedr. Gellir canfod lleoliad daeargryn trwy ddefnyddio data o dri seismograff neu fwy.

I gael data cyfredol am ddaeargrynfâu, ewch i: http://earthquake.usgs.gov/earthquakes/

Dyddiad yr erthygl: 19 Mehefin 2009

+ Dangos sylwadau

---

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:
starstarstarstarstar

Delweddau:
starstarstarstarstar

Arddull a darllenadwyedd:
starstarstarstarstar