Rydych chi yn: Archwilio'r Casgliadau > Taith trwy Gymru ym 1819

Taith trwy Gymru ym 1819

Taith Fawr yn Ewrop

Dwy dudalen o ran gyntaf dyddiadur 1819, yn disgrifio ardal San-clêr yn Sir Gaerfyrddin
Dwy dudalen o ran gyntaf dyddiadur 1819, yn disgrifio ardal San-clêr yn Sir Gaerfyrddin

Mae nifer fawr o lyfrau hanesyddol-bwysig yn Llyfrgell Amgueddfa Cymru, yn cynnwys llawer o adroddiadau am deithiau yng Nghymru a gyhoeddwyd tua diwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg. Yn wreiddiol, roedd llawer o'r rhain yn cael eu casglu oherwydd y darluniau ynddynt ond mae'r testun sy'n mynd gyda'r darluniau yr un mor bwysig.

Yn y 18fed ganrif, roedd yn arferiad gan foneddigion a chyfoethogion fynd ar "Daith Fawr yn Ewrop" fel uchafbwynt eu haddysg glasurol, gan ymweld â chanolfannau diwylliannol Paris, Fenis, Fflorens a Rhufain. Bu'n rhaid rhoi'r gorau i'r teithiau hyn dros dro oherwydd Rhyfeloedd Napoleon 1790-1815 a dechreuwyd teithio ym Mhrydain yn lle hynny.

Mae'r adroddiadau am y teithiau trwy Gymru'n cynnwys llawer o wybodaeth am bob math o bynciau. Cawn wybod am gyflwr y ffyrdd, y tafarndai a'r gwestai, cawn ddisgrifiadau o blastai a'u cynnwys, a gwybodaeth am amaethyddiaeth, diwydiant, arferion lleol a'r gymdeithas yng Nghymru yn gyffredinol. Mae llawer o'r teithwyr yn sôn am fyd natur yng Nghymru ac mae rhai'n rhestru'r planhigion a'r anifeiliaid y daethant ar eu traws.

Taith Fawr yng Nghymru

Yng nghasgliadau'r Llyfrgell yn Amgueddfa Cymru, ceir tri dyddiadur o'r 19eg ganrif, dyddiedig 1819, 1841 a 1844. Mae'n bosib eu bod wedi'u hysgrifennu gan Richard Dewing o Carbrooke Hall yn Norfolk. Ym 1873, nodwyd bod ganddo dir gwerth dros £2,300, ac felly roedd yn siwr o fod mewn sefyllfa ariannol ddigon cyfforddus i fynd ar nifer o deithiau, am fisoedd ar y tro.

O Gaerdydd i Abertawe

Cychwynnodd ar ei daith gyntaf ym Mryste ar 29 Mai 1819, a theithio mewn llong i Gaerdydd.  Yn y dref honno roedd llwybrau â choed ar hyd-ddynt ger y castell a byddai cynnyrch y ffowndr├»au haearn yn cael eu cludo i lawr Camlas Morgannwg.

Roedd yr awdur yn un o'r ychydig ymwelwyr â Llandaf oedd â gair caredig i'w ddweud am y gadeirlan yr oedd John Wood yn ei hailadeiladu ond a adawyd heb ei gorffen ym 1752.

Llwyddodd Abertawe i greu argraff arno oherwydd bod yno 'dai a siopau solet a pharchus a nifer o strydoedd da'. Yn yr ardaloedd o amgylch Caerdydd ac Abertawe, ysgrifennodd fod 'tai'r tlodion', â'u waliau wedi'u gwyngalchu, yn daclusach o lawer na thai tebyg yn Lloegr, ond doedd ganddo ddim i'w ddweud am gyflwr y tu mewn.

Blodau yn y Mynwentydd

Cader Idris, llun dyfrlliw gan John Varley yn yr Adran Gelfyddyd, Amgueddfa Cymru. Dywedodd yr awdur fod Cader Idris fel pe bai'n 'codi ei ben tywyll mawreddog uwchlaw ei frodyr cawraidd'.
Cader Idris, llun dyfrlliw gan John Varley yn yr Adran Gelfyddyd, Amgueddfa Cymru. Dywedodd yr awdur fod Cader Idris fel pe bai'n 'codi ei ben tywyll mawreddog uwchlaw ei frodyr cawraidd'.

Yng Nghydweli, sylwodd yr awdur ar rywbeth sy'n codi mewn adroddiadau eraill o deithiau trwy Gymru — yr arfer o roi blodau ar fedd, rhywbeth sy'n cael ei gymryd yn ganiataol heddiw. 'Sylwais mewn sawl mynwent bod yr hen arferiad Cymreig o blannu blodau ar feddau perthnasau yn dal mewn grym.' [cyfieithiad] Ni ddaeth yn arfer cyffredin i roi blodau ar feddau yn Lloeger tan yn nes ymlaen yn y 19eg ganrif.

Pas i Aberystwyth

Mae'r amser a gymerodd taith 1819 yn awgrymu bod y dyddiadurwr wedi cerdded y rhan fwyaf o'r ffordd. Ond cafodd bas ar gart pysgod i gyrraedd Aberystwyth a bu'n rhaid cyflogi dyn i gario'i fagiau am ryw 23 milltir. Disgrifir Aberystwyth fel 'porthladd a thraeth ymdrochi taclus iawn. Mae'r golygfeydd o'r 'Parade' yn hardd iawn, tua'r tir a'r môr.'

Dringo'r Wyddfa

Yna, teithiodd yr awdur tua'r gogledd. Dringodd yr Wyddfa ar un o'r ychydig ddyddiau y mae'n rhoi dyddiad iddo yn ei ddyddiadur.

'Dydd Gwener 16 Gorffennaf 1819' o'r dafarn yng Nglyn Gwyllyn' [i'r gorllewin o'r Wyddfa].' Roedd wedi codi am hanner awr wedi pedwar i ddringo'r Wyddfa. 'Roeddwn wedi bwriadu cychwyn am 2 o'r gloch, er mwyn cyrraedd y copa mewn pryd i weld yr haul yn codi oherwydd clywais fod honno'n olygfa eithriadol o hardd o'r Wyddfa, ond cefais fy styrbio gymaint â sŵn 4 neu 5 o fwynwyr o Gymry am dair awr ar ôl mynd i'r gwely, fel na chysgais winc cyn un o'r gloch.' [cyfieithiad]

Ger y copa, sylwodd ar fwynglawdd copr a oedd newydd ei agor a chwech o fwyngloddwyr o Gernyw yn gweithio yno.

Detholiad bychan o ddechrau'r ail gyfrol yn 1819 yw'r darnau uchod. Mae'r dyddiaduron yn ein helpu i ddeall Cymru tua dechrau'r 19eg ganrif.

Dyddiad yr erthygl: 6 Gorffennaf 2007

Gadael sylw


Erthygl gwreiddiol

Cliciwch i lawrlwytho'r erthygl gwreiddiol.


tours.pdf
579 KB

Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:
starstarstarstarstar

Delweddau:
starstarstarstarstar

Arddull a darllenadwyedd:
starstarstarstarstar