Rhagor - darganfod byd o gasgliadau

Ceffylau yng nglofeydd Cymru

Merlod pwll glo

[delwedd: 'Able' o Lofa Glyncorrwg ]

'Able' o Lofa Glyncorrwg — ail yn Sioe Geffylau Merthyr, Mehefin 1955. Byddai ceffylau gorau'r glofeydd yn cael eu dangos mewn sioeau a byddai'r gwahanol lofeydd yn cystadlu â'i gilydd i weld gan bwy fyddai'r pencampwr. Fel rheol, byddai 'ceffylau sioe' fel hyn yn cael bywyd breintiedig iawn, gan wneud gwaith ysgafn yn unig er mwyn sicrhau eu bod yn edrych yn dda.

Bu ceffylau'n gweithio yn y diwydiant glo ers y dyddiau cynnar. Byddent yn cario glo o'r glofeydd i'r cwsmer, yn gweithio injans dirwyn a phwmpio ac, yn bwysicaf oll, yn symud glo o'r ffas i'r siafft.

Ym 1878, cyfrifodd yr RSPCA bod dros 200,000 o geffylau'n gweithio mewn glofeydd ym Mhrydain.

Er mai 'merlod pwll glo' oedd yr enw cyffredin arnynt, ceffylau, yn hytrach na merlod, oedd y rhan fwyaf o'r rhai a ddefnyddid ym mhyllau glo Cymru.

Ceffylau 13 llaw

[delwedd: Glofa Darran, Mynachlog Nedd, tua 1974]

Glofa Darran, Mynachlog Nedd, tua 1974

Fel rheol, roeddent tua 15 llaw o uchder (10cm yw 'llaw' ac mae ceffylau'n cael eu mesur i'r ysgwydd). Fodd bynnag, roedd rhai merlod, tua 13 llaw, yn cael eu defnyddio i dynnu llwythi ysgafn.

Er eu bod yn gwneud gwaith hanfodol yn y glofeydd cyn cyflwyno peiriannau cludo, bu'r defnydd a wnaed o geffylau yn y diwydiant glo yn ddadleuol iawn ar hyd y blynyddoedd.

Dadleuai perchnogion y glofeydd na ellid gwneud hebddynt yn y broses economaidd o gloddio glo ond roedd eraill o'r farn bod eu gwneud i weithio fel hyn yn greulon.

Offeryn propaganda

[delwedd: Stablau dan-ddaear, Glofa Penallta yn fwy na thebyg, tua 1940]

Stablau dan-ddaear, Glofa Penallta yn fwy na thebyg, tua 1940

Yn y canol, rhwng y ddwy ochr, oedd y glowyr. Efallai eu bod nhw'n cydymdeimlo â'r ceffylau ond, yn aml, gallent anwybyddu creulondeb neu hyd yn oed fod yn greulon eu hunain pe bai eu pecyn pae o dan fygythiad.

Pa un bynnag ai cydweithiwr bodlon ynteu gaethwas truenus oedd y ceffyl, roedd yn rhannu'r un amodau a pheryglon â'r glowyr eu hunain. Cafodd y ceffylau eu defnyddio fel offeryn propaganda gan y ddwy ochr yn ystod anghydfodau diwydiannol; bu cannoedd farw o ganlyniad i gamdriniaeth, damweiniau a ffrwydradau ond, heb eu gwaith caled, ni fyddai'r chwyldro diwydiannol wedi llwyddo.

Atgofion

[delwedd: Ceffyl pwll glo wrth ei waith, 1/2 milltir o dan y ddaear ym Mhenallta]

Ceffyl pwll glo wrth ei waith, 1/2 milltir o dan y ddaear ym Mhenallta

Rwy'n cofio Edgar, haliwr bychan, oedd yn arfer dweud wrth ei geffyl bob bore 'Wyt ti'n mynd i weitho i fi heddi?' Yna byddai'n rhoi afal iddo. Roedden nhw'n fwy o bytis (cydweithwyr) na gweithiwr a cheffyl!
Len Howell, Glofa Six Bells, 1960au.

Roeddent yn cael eu rhoi yng ngofal bechgyn hurt a fyddai'n camddefnyddio'r cyfrifoldeb a ymddiriedwyd iddynt heb ofni cael eu cosbi. Roeddent yn aml yn gweithio shifftiau dwbl o 16 awr yn ddi-dor ac yn cael eu cadw dan y ddaear am flynyddoedd heb weld golau dydd. Ni fyddent yn cael unrhyw archwiliad o werth ac roedd eu bywydau'n fanllef o brotest yn erbyn creulondeb ac anghyfiawnder.
The Animal World, Medi 1918.

Dyddiad yr erthygl: 1 Ionawr 2009

4 sylw

Georgia ar 10 Chwefror 2014, 22:10

Yes they were

Amgueddfa Cymru ar 29 Ebrill 2013, 12:42

Dear Cassandra, thank you for your comment-

The peak of horse useage was about 1900 when there were around 300 horses working in coal mines in the Blaenafon area - 72 horses in Big Pit mine alone.

Cassandra ar 25 Ebrill 2013, 10:02

Hello,I am French, and I went to Big Pit in April, I want to know how many horses lived in the mine?
Thank you.

Bryan ar 10 Chwefror 2009, 12:20

I remember pit ponies in Nottinghamshire and every year they were put out to grass during the mins closed fortnight. My father in law worked in the mines from age 13 and he said the ponies were well looked after.

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:     

Delweddau:     

Arddull a darllenadwyedd: