Rhagor - darganfod byd o gasgliadau

Glud hynafol o Burry Holms, Gŵyr

[delwedd: Pen saeth]

Pen saeth yn dangos rhesi o adfachau cerrig, a elwir yn ficrolithau, wedi'u gosod yn y goes. Defnyddid pennau saethau â blaenau microlith yng Nghymru rhwng 9000 a 4000CC.

[delwedd: Microlith]

Microlith (yn llai na 40mm [1.6 modfedd] o hyd) a ddarganfuwyd ar Burry Holms. Gellir gweld y smotiau o dar ar waelod y llun.

[delwedd: Dar rhisgl y fedwen]

Llun o smotyn o dar rhisgl y fedwen a dynnwyd gyda chymorth microsgop sganio electron. Ymddengys y cafodd y tar ei dwymo rywbryd neu'i gilydd, gan roi iddo wedd wydrog.

Er nad oes cysylltiad amlwg rhwng gwyddoniaeth yr unfed ganrif ar hugain a gwrthrychau 11,000 o flynyddoedd oed, mae gwaith ymchwil yn Amgueddfa Cenedlaethol Cymru yn dal i ddangos sut y gall yr hen elwa ar y newydd.

Yn ystod y cyfnod Mesolithig (9200-4000CC), tryferi a gwaywffyn oedd dewis arfau helwyr-gasglwyr Cymru. Defnyddiwyd yr arfau hyn i hela ceirw ac i drywanu pysgod, dwy ffynhonnell hollbwysig o fwyd yn ystod y cyfnod hwn.

Câi'r tryferi a'r gwaywffyn hyn eu gwneud o bren, asgwrn neu gorn carw, ac i lawr eu hochrau gosodid rhesi o adfachau cerrig, a elwir yn ficrolithau. Dros y canrifoedd, mae'r coesau pren ac asgwrn wedi pydru gan adael y microlithau cerrig yn unig yn wrthrychau i'w darganfod gan archaeolegwyr.

Cafwyd hyd i gannoedd o'r microlithau hyn yng Nghymru, ond nid oes yr un ohonynt wedi bod o gymorth i ateb y cwestiynau canlynol: Sut y gosodwyd y microlithau'n sownd yn eu coesau? Beth oedd yn eu rhwystro rhag cwympo allan?

Hynny yw, dim un hyd nes y cafwyd hyd i enghraifft ac arno smotiau microsgopig ar ei wyneb, wrth gloddio ar Burry Holms yng ngorllewin Gŵyr.

Aed â'r microlith hwn i Brifysgol Caerdydd er mwyn ei osod dan ficrosgop sganio electron oedd yn caniatáu astudiaeth fanwl o'r smotiau, a modd i baratoi proffil cemegol ohonynt.

Dangosai'r canlyniadau mai tar rhisgl y fedwen, yn ôl pob tebyg, yw'r smotiau arwynebol, resin gludiog a ddefnyddid fel glud. Gwyddys am y defnydd o dar rhisgl y fedwen o safleoedd Mesolithig ledled Ewrop, ond dyma'r tro cyntaf iddo gael ei gofnodi yng Nghymru - cipolwg ar dechnoleg ein cyndeidiau na fyddai wedi dod i'r fei oni bai am gymorth gwyddoniaeth gyfoes.

Darllen Cefndir

'Identification of hafting traces and residues by scanning electron microscopy and energy-dispersive analysis of x-rays' gan A. F. Pawlik. Yn Lithics in action gan E. A. Walker, F. Wenban-Smith a F. Healy. Cyhoeddwyd gan Oxbow books (2004).

'Burry Holms (SS40019247)' gan E. A. Walker. Yn Archaeology in Wales, cyf. 40, tt88-89 (2000).

'Burry Holms (SS40019247)' gan E. A. Walker. Yn Archaeology in Wales, cyf. 41, tt126 (2001).

Dyddiad yr erthygl: 14 Mai 2007

0 sylw

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:     

Delweddau:     

Arddull a darllenadwyedd: