Rhagor - darganfod byd o gasgliadau

Oesoedd Iâ a Phreswylwyr Ogofâu

Oes yr Iâ

[delwedd: Ogof Pontnewydd (Sir Ddinbych). Yn yr ogof hon y ffeindiwyd yr olion dynol hynaf yng Nghymru, yn dyddio o oddeutu 230,000 o flynyddoedd yn ôl.]

Ogof Pontnewydd (Sir Ddinbych). Yn yr ogof hon y ffeindiwyd yr olion dynol hynaf yng Nghymru, yn dyddio o oddeutu 230,000 o flynyddoedd yn ôl.

Mae'r cyfnod Palaeolithig yn cyfateb i'r cyfnod a elwir yn aml yn 'Oes yr Iâ'. Dyma pryd yr oedd yr hinsawdd yn pendilio rhwng cyfnodau oer iawn (a elwir yn gyfnodau rhewlifol), adegau pan oedd Cymru gyfan dan orchudd o iâ, a chyfnodau cynnes (cyfnodau rhyngrewlifol), fel y cyfnod presennol. Yn ystod hinsoddau cyfnewidiol y cyfnod Palaeolithig yr esblygodd ein hynafiaid cynnar o'u gwreiddiau yn Affrica, ymfudo ar draws Ewrop ac Asia, a datblygu'n fodau dynol modern.

Yng Nghymru, daw'r rhan fwyaf o'r dystiolaeth sydd gennym am fodolaeth cymunedau Palaeolithig o ogofâu. Mae'r rhain i'w canfod lle ceir calchfaen; er enghraifft, mewn rhannau o Sir Ddinbych, Bro Gŵyr a de Sir Benfro.

Daw'r dystioaeth sydd gennym am fodau dynol yng Nghymru o safle Ogof Pontnewydd (Sir Ddinbych). Yma, mae cloddiadau wedi dwyn i'r amlwg weddillion ffurfiau cynnar pobl Neanderthalaidd, a oedd yn byw tua 230,000 o flynyddoedd yn ôl.

Neanderthalaidd

[delwedd: Ogof Coygan (Sir Gaerfyrddin). Ni chafwyd hyd i weddillion dynol yma, dim ond llond dwrn o offer sy'n dangos y câi'r ogof ei defnyddio dros gyfnod byr gan bobl Neanderthalaidd.]

Ogof Coygan (Sir Gaerfyrddin). Ni chafwyd hyd i weddillion dynol yma, dim ond llond dwrn o offer sy'n dangos y câi'r ogof ei defnyddio dros gyfnod byr gan bobl Neanderthalaidd.

Roedd pobl Neanderthalaidd yn helwyr ac mae eu hoffer yn dangos y bu'n rhaid iddynt fod yn agos i'w prae er mwyn ei ladd. Nodweddir sgerbydau Neanderthalaidd, a gloddiwyd ar hyd a lled Ewrop, gan nifer fawr o esgyrn toredig, sy'n awgrymu mai'r helwyr eu hunain a gâi eu hanafu'n wael yn aml wrth iddynt hela eu prae.

Gwnâi pobl Neanderthalaidd Ogof Pontnewydd offer drwy ddefnyddio cerrig lleol a gesglid yng nghyffiniau'r ogof; mae'r rhain yn cynnwys offeryn nodweddiadol a elwir yn naddyn Levallois. I greu'r rhain, paratoir darn mawr o garreg (a elwir yn graidd) drwy guro darnau oddi ar ei hymylon. Yna, caiff un naddyn Levallois ei fwrw oddi ar y craidd parod. Gellid defnyddio hwn naill ai fel offeryn torri neu, o'i gymhwyso ryw ychydig, fel crafell.

Offeryn carreg nodweddiadol arall a ddefnyddid gan bobl Neanderthalaidd oedd llawfwyell 'bout coupé' — llawfwyell o wneuthuriad da ac iddi ben gwastad yn hytrach nag un pigfain.

Lawfwyeill

[delwedd: Llawfwyeill 'bout coupé' (Ogof Coygan). Mae'r offer hyn yn nodweddiadol o dechnoleg Neanderthalaidd.]

Llawfwyeill 'bout coupé' (Ogof Coygan). Mae'r offer hyn yn nodweddiadol o dechnoleg Neanderthalaidd.

Cafwyd hyd i lawfwyeill 'bout coupé' yn Ogof Coygan, Sir Gaerfyrddin, safle sydd bellach wedi'i ddinistrio gan waith cloddio mewn chwarel. Cafodd Ogof Coygan ei defnyddio fel gwylfan dros gyfnod byr gan bobl Neanderthalaidd rywbryd rhwng 60,000 a 40,000 o flynyddoedd yn ôl. Yna, bu'n ffau a ddefnyddid gan udfilod ar drothwy'r rhewlifiant diwethaf.

Mae'n bosibl mai'r dirywiad hwn yn yr hinsawdd yw'r rheswm am dranc y bobl Neanderthalaidd, a ddiflannodd oddi ar wyneb y Ddaear tua 35,000 o flynyddoedd yn ôl.

Dynol modern

[delwedd: Yn 1823, darganfu William Buckland o Brifysgol Rhydychen sgerbwd yn yr ogof hon...]

Yn 1823, darganfu William Buckland o Brifysgol Rhydychen sgerbwd yn yr ogof hon. Roedd yr esgyrn wedi'u staenio'n goch a gerllaw iddynt darganfuwyd breichledau a gleiniau cragen. Credai Buckland fod yr esgyrn yn weddillion gwraig, a oedd yn byw yn ystod y cyfnod Rhufeinig. Bellach, mae gwyddoniaeth fodern wedi profi bod y ddamcaniaeth ddengar hon yn anghywir. Mewn gwirionedd, sgerbwd gŵr tua 25 oed ydoedd, a gladdwyd tua 26,000 o flynyddoedd yn ôl.

Ymddangosodd bodau dynol modern, fel ninnau, am y tro cyntaf tua 60,000 o flynyddoedd yn ôl. Nodir ein hymddangosiad gan y defnydd o fath newydd o offer cerrig a wnaed o lafnau tenau, hir a dorrwyd oddi ar flocyn o gallestr. Y llafnau hyn a ddaeth yn sylfaen offer a oedd yn llawer mwy amlddefnydd ar gyfer hela, torri cig ac amrediad ehangach o weithgareddau eraill na'r rheini a ddefnyddid gan y bobl Neanderthalaidd.

Datblygodd bodau dynol modern cynnar y gelfyddyd gyntaf hefyd. Mae paentiadau ogofâu o'r cyfnod hwn wedi goroesi yn Ffrainc a gogledd Sbaen — ardaloedd oedd y tu hwnt i derfynau'r rhewlifau. Ym Mhrydain, mae celfyddyd yr ogofâu yn brinnach o lawer, a'r unig enghraifft y gwyddys amdani hyd yma yw'r engrafiad o alpafr, o bosibl, yn un o ogofâu Creswell Crags (Swydd Nottingham).

Twll yr Afr — Gladdfa ddynol gynharaf ym Mhrydain

[delwedd: Mae gwaith cloddio a drefnwyd gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru wedi dangos bod pobl yn byw yn yr ogof hon tua 30,000 o flynyddoedd yn ôl ac eto tua 12,500 o flynyddoedd yn ôl.]

Mae gwaith cloddio a drefnwyd gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru wedi dangos bod pobl yn byw yn yr ogof hon tua 30,000 o flynyddoedd yn ôl ac eto tua 12,500 o flynyddoedd yn ôl.

Yng Nghymru, ni ddarganfuwyd hyd yn oed un enghraifft o gelfyddyd yr ogofâu, hyd yma ond cafwyd hyd i esgyrn ysgythredig a cherfiedig. Efallai mai Twll yr Afr (Gŵyr) yw'r safle mwyaf arwyddocaol i ildio'r math yma o ddeunydd. Yn yr ogof hon y darganfuwyd y gladdfa ddynol gynharaf ym Mhrydain, sy'n dyddio o oddeutu 26,000 o flynyddoedd yn ôl.

Ymhlith yr ogofâu eraill a feddiannwyd gan bobl yn ystod cyfnod cynnar y rhewlifiant diwethaf ceir Cae Gwyn a Ffynnon Beuno (y ddwy yn Sir Ddinbych), ac Ogof Hoyles Mouth (Sir Benfro) a ddefnyddiwyd tua 30,000 o flynyddoedd yn ôl. Wedi'r cyfnod cynnar hwn, ymestynnodd llenni iâ ar draws Cymru a rhwng 20,000 a 18,000 o flynyddoedd yn ôl, pan oedd y rhewlifiant yn ei anterth, gorchuddiai'r iâ bobman ac eithrio rhannau mwyaf deheuol y wlad.

Mae'n bosibl y gallai pobl fod wedi goroesi'r hinsawdd oer yn y mannau lle nad oedd iâ yn gorchuddio'r tir, drwy ddefnyddio crwyn anifeiliaid a thanau i'w cadw'n gynnes. Ond roedd eu prae wedi hen ymfudo tua'r de, gan eu gadael heb fwyd, ac felly cawsant eu gorfodi i'w dilyn.

Tua 18,000 o flynyddoedd yn ôl dechreuodd y llenni iâ araf encilio ac adfeddiannwyd Prydain gan bobl. Credir iddynt ddychwelyd tua 14,500 o flynyddoedd yn ôl, ond mae'r dystiolaeth gynharaf yng Nghymru, a ddaw o ogofâu fel Twll yr Afr a Hoyles Mouth, yn dyddio o oddeutu 12,500 o flynyddoedd yn ôl.

Ar ôl diwedd y cyfnod rhewlifol diwethaf, tua 11,500 o flynyddoedd yn ôl, mae swmp y dystiolaeth am bresenoldeb pobl yng Nghymru yn cynyddu'n sylweddol ac yn newid o ran ei chymeriad. Defnyddir y dyddiad hwn i ddynodi diwedd y cyfnod Palaeolithig a dechrau'r Mesolithig.

Darllen Cefndir

Ice Age hunters: neanderthals and early modern hunters in Wales gan Stephen Green ac Elizabeth A. Walker. Cyhoeddwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru (1991). 

Dyddiad yr erthygl: 11 Mai 2007

15 sylw

jana ar 15 Mawrth 2011, 16:06

wow i realy didnt know what it was like during prehisoric times but now i do! thank you

jay ar 15 Mawrth 2011, 15:55

I was a bit curious at the way this important skeleton was displayed at the museum. The display cabinet looked too small to house the bones if it was an intact skeleton. The figure outlined on the bottom of the cabinet simply didn't seem to be the right size, and the bones were placed in the wrong place on the outline. Better not to have the figure.

john tate ar 3 Tachwedd 2008, 12:14

this is good

Rabiah ar 3 Tachwedd 2008, 12:14

Wow

John David Tate ar 3 Tachwedd 2008, 12:14

do you have a video about this book

1234 ar 3 Tachwedd 2008, 12:14

nice

chayan ar 3 Tachwedd 2008, 12:14

i love this history story

hilary ar 3 Tachwedd 2008, 12:14

those are nice pictures

Andrea ar 3 Tachwedd 2008, 12:14

I think this page is the best page I have ever read in Ancient Civilizations.

Jack Snyder ar 3 Tachwedd 2008, 12:14

good

Somebody ar 3 Tachwedd 2008, 12:14

This is one of the most interesting atricle I've ever read. It is very unusual.

shadow ar 3 Tachwedd 2008, 12:14

this is so COOL

Agent Katzanjammer ar 3 Tachwedd 2008, 12:14

This website is very good for kids!

jorden ar 3 Tachwedd 2008, 12:14

wow this is tottaly awsome!! did you see that pictures of those caves?? there totally amazing!!!!

emily eckhoff ar 3 Tachwedd 2008, 12:14

hi. my comment will be........
this page was interesing and gave a lot of detail. it is all very interesting. i am very fasinalted and a amying to learn more abut that. thanks.

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:     

Delweddau:     

Arddull a darllenadwyedd: