Rydych chi yn: Archwilio'r Casgliadau > Arch Rhufeinig Gwndy

Arch Rhufeinig Gwndy

Arch Gwndy wrth iddi gael ei datgloddio gan archaeolegwyr Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent ac Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru ym 1996. Rhoddodd David Mclean Homes Cyf. yr arch i Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru.
Arch Gwndy wrth iddi gael ei datgloddio gan archaeolegwyr Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent ac Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru ym 1996. Rhoddodd David Mclean Homes Cyf. yr arch i Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru.
Codi arch Gwndy cyn ei chludo i ffwrdd.
Codi arch Gwndy cyn ei chludo i ffwrdd.
Mae olion offer yn dangos y gwnaeth y saer maen Rhufeinig ddefnydd o forthwyl neddyf i drin ochr allanol yr arch. Llun © G. Lock.
Mae olion offer yn dangos y gwnaeth y saer maen Rhufeinig ddefnydd o forthwyl neddyf i drin ochr allanol yr arch. Llun © G. Lock.
Arch Gwndy.
Arch Gwndy.

Yn y drydedd neu'r bedwaredd ganrif OC cafodd gwraig ifanc ei chladdu mewn arch garreg yng Ngwndy, Sir Fynwy. 1600 o flynyddoedd yn ddiweddarach ffeindiodd gweithwyr ei bedd.

Cafodd arch ei datgladdu gan weithwyr oedd yn cloddio sylfeini tai newydd yng Ngwndy, Sir Fynwy ym 1996. Cafodd y safle ei archwilio gan archaeolegwyr yn dilyn y darganfyddiad, ond hyd heddiw ni wyddom ai bedd unigol oedd hwn neu a oedd yn rhan o fynwent fach.

Roedd yr arch yn cynnwys sgerbwd oedolyn ifanc, llaw dde, gwraig 25 a 34 mlwydd oed yn ôl pob tebyg rhwng. Ni wyddom beth oedd achos ei marwolaeth ond ar sail dyddiad radiocarbon fe wyddom iddi gael ei chladdu tua diwedd y drydedd neu'r bedwaredd ganrif OC, pan oedd Cymru dan reolaeth y Rhufeiniaid.

Yn ystod y cyfnod hwn, roedd claddedigaethau weithiau'n cynnwys nwyddau claddu, megis dysgl, jar neu botel bersawr. Yn llai aml, câi darnau arian, sef "ffi'r fferïwr" a fyddai'n talu i'r ymadawedig fynd i'r isfyd. Nid oedd y gladdedigaeth yng Ngwndy yn cynnwys unrhyw un o'r pethau hyn. Er hynny, mae'r gladdedigaeth yn awgrymu ei bod hi'n wraig gymharol gyfoethog a allai fforddio arch garreg a chladdedigaeth barchus.

Ni fu'r dull yma o gladdu'n arferol drwy gydol y cyfnod Rhufeinig. Hyd ddiwedd yr ail ganrif OC câi'r rhan fwyaf o bobl eu corfflosgi cyn rhoi eu llwch mewn llestr gwydr neu briddlestr. Fodd bynnag, o ddiwedd yr ail ganrif ymlaen dechreuodd arferion claddu newid. Roedd syniadau newydd am byd a ddaw'n golygu bod rhaid claddu'r corff cyfan. Priodolwyd y syniadau hyn yn rhannol i ddylanwadau o rannau dwyreiniol yr Ymerodraeth Rufeinig a lledaeniad Cristnogaeth a'r gred am atgyfodiad y corff.

Nodwedd ddewisol oedd yr arch. Câi'r tlodion eu claddu mewn bedd heb arch o bosibl. Câi'r eirch eu gwneud o sawl gwahanol fath o ddefnydd, gan gynnwys pren, plwm a charreg. Er mwyn diwallu'r galw, mae'n bosibl y câi rhai eu cynhyrchu ar raddfa ddiwydiannol.

Gwnaed arch Gwndy o Garreg Caerfaddon, calchfaen melyn golau sy'n gymharol feddal ac yn hawdd i'w drin yn syth o'r chwarel, ond mae'n caledu pan ddaw i gysylltiad â'r awyr. Daw'r garreg hon o gyffiniau tref ffynhonnau Caerfaddon yn Lloegr (tref a adwaenid fel Aquae Sulis, sef "Dyfroedd Sulis", gan y Rhufeiniaid). Mae'r ardal hon tua 35km (20 milltir) i'r de-ddwyrain o Wndy.

Defnyddiodd y seiri maen Rhufeinig a'i lluniodd offer tebyg i'r rhai a ddefnyddir gan seiri maen heddiw. Ar wynebau arch Gwndy gwelir olion yr offer hyn, gan gynnwys y rhai a wnaed gan forthwylion neddyf, cynion, ceibiau ac offer pigfain. Dengys cyfeiriadau'r olion fod y saer maen yn weithiwr llawchwith.

Darllen Cefndir

"Tools and Techniques of the Roman Stonemason in Britain" gan T. F. C. Blagg. Yn Brittania, cyf. 7, tt. 152-72 (1976).

"Stone Coffins of Gloucestershire" gan R. N. Willmore. Yn Transactions of the Bristol and Gloucester Archaeological Society, cyf. 61, tt. 135-77 (1939).

Dyddiad yr erthygl: 4 Mai 2007

+ Dangos sylwadau

---

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:
starstarstarstarstar

Delweddau:
starstarstarstarstar

Arddull a darllenadwyedd:
starstarstarstarstar