Rydych chi yn: Archwilio'r Casgliadau > Ewyllys Rufeinig

Ewyllys Rufeinig

Rhufeinig Trawsfynydd

'Tudalen' gyntaf ewyllys Rufeinig a ddarganfuwyd ger Trawsfynydd yn y 19g. Mae nodyn o ganol y 19g. yn nodi bod y tabled eisoes wedi'i dorri yn ei hanner.
'Tudalen' gyntaf ewyllys Rufeinig a ddarganfuwyd ger Trawsfynydd yn y 19g. Mae nodyn o ganol y 19g. yn nodi bod y tabled eisoes wedi'i dorri yn ei hanner.

Darganfuwyd yr unig ewyllys Rufeinig i oroesi ym Mhrydain ger Trawsfynydd, Gwynedd, yn y 19eg ganrif. Mae dau lythyr a ysgrifennwyd ar y pryd yn cofnodi manylion y darganfyddiad a hanes yr ewyllys wedi hynny.

Darganfuwyd yr unig ewyllys Rufeinig i oroesi ym Mhrydain ger Trawsfynydd, Gwynedd, yn y 19eg ganrif. Mae dau lythyr a ysgrifennwyd ar y pryd yn cofnodi manylion y darganfyddiad a hanes yr ewyllys wedi hynny.

Yn ôl y llythyr cyntaf cafodd y 'llyfr pren', oedd yn cynnwys 10 neu 12 o dudalennau, ei ddarganfod gan weision fferm wrth iddynt ladd mawn i wneud tanwydd ar fferm Bodyfuddau, tua 5km i'r de-ddwyrain o gaer Rufeinig Tomen-y-mur. Nododd awdur y llythyr:

"Gwelais i'r llyfr ychydig ddiwrnodau wedi iddo ddod i'r fei - dim ond 2 neu 3 o'r tudalennau oedd yn cynnwys arysgrifen berffaith bryd hynny - roedd wedi'i dileu yn rhannol gan ddiofalwch y gweision fferm ar y lleill. Yn ôl pob tebyg, crair oedd yn eiddo i'r Derwyddon yw'r gwaith. Mae'n bosibl iddyn nhw ddefnyddio rhyw lun ar yr wyddor Rufeinig i ysgrifennu eu hiaith eu hunain."

Gwnaeth awdur y llythyr gamgymeriad wrth briodoli'r testun i'r Derwyddon, ond roedd i'w ganmol am adnabod yr elfen Rufeinig, oherwydd roedd ysgrifen redeg Rufeinig (â'r llythrennau wedi'u cysylltu wrth ei gilydd) yn anhysbys ar y pryd.

Raglen deledu am y tabledi

Pot inc crochenwaith, ysgrifbin haearn i ysgrifennu ar dabledi cwyrog, blwch sêl a marciwr eiddo plwm.
Pot inc crochenwaith, ysgrifbin haearn i ysgrifennu ar dabledi cwyrog, blwch sêl a marciwr eiddo plwm.

Mae'r ail lythyr yn cofnodi rhoi un dudalen i George Carr Pearson, gŵr a chanddo swyddfeydd yn agos i Chancery Lane, Llundain, tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ôl pob tebyg. Astudiodd Pearson y tabled, ond ni ddychwelodd y gwrthrych. Ymhen amser, darganfuwyd y tabled unwaith eto wrth glirio tŷ merch Pearson, Grace, yn West Kensington ym 1991. Daeth yn eiddo i Mr Stafford Ellerman, a welodd raglen deledu am y tabledi ysgrifennu a ddarganfuwyd yng nghaer Rufeinig Vindolanda ar Fur Hadrian yn 2003. Sylweddolodd Ellerman ei fod yntau'n berchen ar dabled ysgrifennu Rhufeinig ac aeth ag ef i'r Amgueddfa Brydeinig er mwyn ei adnabod. Yna, rhoddodd y tabled, yn garedig iawn, i Amgueddfeydd Cymru.

Ewyllys Rufeinig

Manylyn o'r tabled yn datgelu'r ysgrifen Rufeinig sydd wedi'i chadw ar ei wyneb.
Manylyn o'r tabled yn datgelu'r ysgrifen Rufeinig sydd wedi'i chadw ar ei wyneb.

Tafell hirsgwar denau o bren ffynidwydden arian yr dabled. Nid yw'r ffynidwydden arian yn un o goed brodorol Prydain. Bellach, mae'r gorchudd o gŵyr ar un ochr wedi dirywio. Byddai hyn wedi bod yn orchudd tywyll llyfn o gŵyr gwenyn a deunydd lliwio (huddygl yn ôl pob tebyg) yn wreiddiol. Byddai'r ysgrifennydd yn ysgrifennu ynddo gan ddefnyddio ei 'ysgrifbin' (offeryn metel pigfain) i ddatgelu'r pren golau oddi tano. Erbyn hyn, cafwyd hyd i ryw 300 o dabledi ysgrifbin ar safleoedd ym Mhrydain.

Gyda chymorth ffotograffiaeth ofalus ac astudiaeth fanwl o'r gwreiddiol, mae'n bosibl dirnad rhyw gysgod o ysgrifen mewn sawl man. Mae'r testun wedi'i ysgrifennu mewn llythrennau bach Rhufeinig rhedol. Tudalen gyntaf ewyllys Rufeinig wedi'i hysgrifennu mewn Lladin yw'r tabled.

Mae awdur yr ewyllys yn enwi etifedd i'w stad, ei wraig neu ei ferch o bosibl, ac yn rhoi'r cyfrifoldeb iddi dderbyn yr etifeddiaeth cyn pen 100 diwrnod ar ôl cael gwybod amdani. Mae'n debyg i enw'r awdur a maint y stad gael eu nodi ar y tabledi eraill sydd ar goll erbyn hyn.

Mae ffurf yr ysgrifen yn debyg i honno ar dabledi eraill o Brydain sy'n dyddio o'r cyfnod OC75-125. Mae presenoldeb ewyllys Rufeinig ffurfiol ynddo'i hun yn rhyfeddod yn yr ardal anghysbell hon o Gymru. Ni allwn ond dyfalu sut cyrhaeddodd yr ardal. Ni chafwyd hyd i'r ddogfen yn y gaer neu ei ficws (anheddiad sifil cysylltiedig) fel y byddem wedi disgwyl, o bosibl. Ond, efallai fod yr ewyllys yn gysylltiedig â'r anheddiad cyfagos ar Ffridd Bod y Fyddai. Mae'n bosibl mai fferm hen filwr cynorthwyol oedd y clwstwr hwn o gytiau, milwr a brynodd dir gyda'i gynilion, neu ag arian a gafodd gan ei wraig. Efallai y gallai gwaith cloddio fwrw goleuni ar y ddamcaniaeth.

O ystyried y byddai miliynau o ddinasyddion Rhufeinig yn ysgrifennu ewyllysiau ar dabledi cwyrog gyda'r bwriad o'u cadw'n ddiogel, mae'n syndod bod y tabledi mor brin; gwyddom am bedwar o'r Aifft ac yn awr yr enghraifft hon o Gymru.

Darllen Cefndir

'A Roman Will from North Wales' gan R. S. O. Tomlin. Yn Archaeologia Cambrensis, yn y wasg.

Life and Letters on the Roman Frontier gan A. K. Bowman. Cyhoeddwyd gan Wasg yr Amgueddfa Brydeinig (1994).

Dyddiad yr erthygl: 10 Mai 2007

+ Dangos sylwadau

---

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:
starstarstarstarstar

Delweddau:
starstarstarstarstar

Arddull a darllenadwyedd:
starstarstarstarstar