Rhagor - darganfod byd o gasgliadau

Caer Rhufeinig Gelligaer

Rhwydwaith milwrol Rhufeinig

[delwedd: John Ward, Curadur Amgueddfa ac Oriel Gelf Caerdydd (1893-1912) a Cheidwad Archaeoleg cyntaf Amgueddfa Genedlaethol Cymru (1912-14).]

John Ward, Curadur Amgueddfa ac Oriel Gelf Caerdydd (1893-1912) a Cheidwad Archaeoleg cyntaf Amgueddfa Genedlaethol Cymru (1912-14).

Am dros 40 mlynedd, Gelligaer oedd y maen clo'r rhwydwaith milwrol Rhufeinig oedd yn rheoli de-ddwyrain Cymru.

Lleolir caer Gelligaer ar gefnen rhwng cymoedd Taf a Rhymni. Mae'n cynnig golygfa wych o'r ardal tir uchel hon, oedd yn goediog iawn yng nghyfnod y Rhufeiniaid.

Mae'r gaer, a adeiladwyd o gerrig, bron a bod yn sgwâr o ran siâp ac mae ganddi arwynebedd i 1.4ha (3.5 erw), sy'n ei gosod ymhlith y lleiaf yng Nghymru.

Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd

[delwedd: Arysgrif o'r porth de-ddwyreiniol.]

Arysgrif o'r porth de-ddwyreiniol.

Archwiliodd Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd y safle'n fras ym 1899-1901 ac wedyn gwbaeth John Ward, Curadur Amgueddfa ac Oriel Gelf Caerdydd, waith cloddio pellach y tu allan i'r gaer rhwng 1908 a 1913. Mae'r canlyniadau wedi datgelu enghraifft glasurol o gaer Rhufeinig wedi ei garsiynu gan cohors quingenaria (uned gynorthwyol o 500 o filwyr traed - byddai milwr traed cynorthwyol yng ngarsiwn Gelligaer wedi gwisgo crys llurig syml dros ben tiwnig, efallai gyda throwsus gwlân neu ledr, a helmed. Byddai'n cario tarian hirgrwn wastad ynghyd â chleddyf, dagr a gwaywffon trywanu.)

Roedd y gaer gan ffos allanol lydan a rhagfur pridd â wyneb cerrig y naill ochr a'r llall iddi yn amddiffyn y gaer. Roedd yna dyrau cornel a mewnol a phedwar porth â dau fwa. Roedd y pencadlys trawiadol yn sefyll wrth ganol y gaer a nesaf ato roedd cartref swyddogol comander yr uned. I gwblhau'r adeiladau canolog roedd gweithdy, iard a dwy ysgubor - i storio grawn a nwyddau darfodus eraill (fel llysiau a chig). Roedd y dynion yn byw mewn chwe bloc barics, un am bob cannwr o 80 dyn a'u canwriad. Mae'n debyg y byddai adeiladau eraill yn y gaer yn cael eu defnyddio fel storfeydd a stablau ar gyfer anifeiliaid pac yr uned.

Baddonau

[delwedd: Model o'r gaer garreg yng Ngelligaer ddechrau'r 2il ganrif OC.]

Model o'r gaer garreg yng Ngelligaer ddechrau'r 2il ganrif OC.

Y tu allan i'r gaer ar yr ochr dde-ddwyreiniol roedd adeilad ychwanegol oedd yn cynnwys baddonau lle gallai'r milwyr fynd i ymlacio pan nad oeddent ar ddyletswydd. Yn rhan ogledd-ddwyreiniol y gaer roedd y maes ymarfer, oedd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer driliau, ymarferion arfau a gwyliau crefyddol.

Nid y gaer garreg oedd y ganolfan filwrol gyntaf yng Ngelligaer. Profwyd bod gwrthglawdd mawr i'r gogledd orllewin wedi bod yn gaer bridd a choed ar un adeg, ac fe'i hadeiladwyd yn fwy na thebyg adeg y goncwest Rufeinig yn OC 103-111.

Ymerawdwr Hadrian

[delwedd: Gwaith cloddio ar yr odyn teils yng Ngelligaer ym 1913. Byddai angen llawer iawn o frics a theils i adeiladu'r gaer.]

Gwaith cloddio ar yr odyn teils yng Ngelligaer ym 1913. Byddai angen llawer iawn o frics a theils i adeiladu'r gaer.

Roedd Gelligaer yn perthyn i rwydwaith o gaerau ar draws Cymru i rwysto'r brodorion rhag codi gwrthryfel yn erbyn y Rhufeiniaid. Cymdogion agosaf Gelligaer oedd y caerau ym Mhen-y-darren i'r gogledd a Chaerffili i'r de. Mae gwaith ymchwil diweddar wedi dangos bod y garsiwn wedi cael ei dynnu nôl yn fwy na thebyg yng nghyfnod yr Ymerawdwr Hadrian (OC 117-38), ac erbyn hynny roedd y Silwriaid wedi cael eu gwastrodi. Mae yna dystiolaeth o weithgarwch diweddarach ar y safle, ond nid yw natur y gweithgarwch hwnnw'n glir.

Mae'r darganfyddiadau i'w gweld yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd.

Darllen Cefndir

[delwedd: The Ermine Street Guard wedi gwisgo fel milwyr traed cynorthwyol. Byddai milwr traed cynorthwyol yng ngarsiwn Gelligaer wedi gwisgo crys llurig syml dros ben tiwnig, efallai gyda throwsus gwlân neu ledr, a helmed.]

The Ermine Street Guard wedi gwisgo fel milwyr traed cynorthwyol.

The Roman fort of Gellygaer in the county of Glamorgan gan John Ward. Cyhoeddwyd gan Bemrose & Sons (1903).

Gelligaer Roman fort gan Richard Brewer. Cyhoeddwyd gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (1980).

Dyddiad yr erthygl: 1 Mai 2007

5 sylw

Andrew Dexter ar 1 Rhagfyr 2011, 11:47

I have had a guided tour of the roman fort and found it very interesting indeed. As i live quite locally i have to say that i'm quite proud that the area has a history to be proud of!

Amgueddfa Cymru ar 11 Chwefror 2011, 10:13

Dear Laura, Gelligaer Roman Fort is situated in the village of Gelligaer, east Glamorgan. The exact spot can be located with the following grid reference: ST1397. The fort was build on a Roman roadway that went from Cardiff to Brecon - traces of that road can still be found in Heol Adam that leads out of the village.
Thank you for your interest in Amgueddfa Cymru,
Graham Davies, Curator. Rhagor.

Laura Mullins ar 11 Chwefror 2011, 10:06

I'm studying Ancient History as a choice for my A levels, and I find the Roman period very interesting. Where is the location of the fort?

Joan Warburton ar 18 Mai 2009, 09:09

informative

Martin Locock ar 23 Ebrill 2009, 09:51

It would be helpful if the location of the excavation archive and finds was mentioned.

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:     

Delweddau:     

Arddull a darllenadwyedd: