Rhagor - darganfod byd o gasgliadau

Llongddrylliad yr Ann Francis

[delwedd: Manylyn o Fap Christopher Saxton o Forgannwg, 1578]

Manylyn o Fap Christopher Saxton o Forgannwg, 1578, yn dangos yr arfordir o Oxwich yng Ngŵyr (chwith) i Fargam (dde uchod).

[delwedd: Aur Sbaen a darnau arian Ferdinand ac Isabella (1479-1504).]

Aur Sbaen a darnau arian Ferdinand ac Isabella (1479-1504). Câi darnau arian yn dwyn eu henwau eu bathu hyd y 1550au, hynny yw, am flynyddoedd lawer wedi iddynt farw.

[delwedd: Talers: darnau arian mawr, a wnaed o arian, o'r Almaen.]

Talers: darnau arian mawr, a wnaed o arian, o'r Almaen. Mae'r grŵp hwn yn cynnwys rhai a ryddhawyd gan Etholwyr Sacsoni, Ieirll Stolberg, Langraves o Leuchtenberg a dinasoedd Koln a Herford.

[delwedd: San Vicente aur o gyfnod Ioan III o Bortiwgal (1527-57)]

San Vicente aur o gyfnod Ioan III o Bortiwgal (1527-57); ar y cefn (ochr dde'r llun) ceir portread o'r sant yn cydio mewn palmwydden merthyr a model o long.

[delwedd: Rhanwyr morlywiwr o weddillion yr Ann Francis.]

Rhanwyr morlywiwr o weddillion yr Ann Francis.

Darnau arian Sbaen, chwiban bosn ac offer morwriaeth - ai gweddillion yw'r rhain o'r Ann Francis, llong yn dyddio o'r 16eg ganrif?

Dros nifer o flynyddoedd, cafwyd hyd i ddarnau arian a gwrthrychau eraill ar draeth Margam ym Morgannwg. Mae nifer ohonynt yn dyddio o gyfnodau cymharol ddiweddar, ond mae llawer iawn o'r darnau arian yn dyddio o ganol yr unfed ganrif ar bymtheg.

Gwnaed y rhan fwyaf o'r darnau hyn o arian: darnau arian Ferdinand ac Isabella o Sbaen, a darnau o nifer o daleithiau'r Ymerodraeth Lân Rufeinig Almaenig. Ceir ambell ddarn arian copor o gyfnod Ioan III o Bortiwgal (1521-57) a hyd yn oed ddau ddarn aur trawiadol - y naill o Sbaen a'r llall o Bortiwgal. Ychwanegwch setiau o ranwyr morlywiwr, pwysau plwm i blymio'r dyfroedd a chwiban bosn a beth sydd gennych chi? Llongddrylliad.

Mae'r rhan fwyaf o'r darnau arian yn dyddio o'r 1530au-1550au: nid oes yr un yn fwy diweddar na 1557 ac, felly, y gred i ddechrau oedd bod y llongddrylliad yn dyddio o'r cyfnod hwn. Gwyddys y cafodd llong Ffrengig ei dryllio yn Rhagfyr 1557, ger Oxwich yng Ngŵyr, 21km (14 milltir) i'r gorllewin o Fargam - ond onid oes llong ddrylliedig addas yn agosach at Fargam?

Wel, gwyddys fod llong ddrylliedig o'r 16eg ganrif ger Margam ond nid un a ddrylliwyd yn 1557. Ar 28 Rhagfyr 1583, aeth yr Ann Francis, y llong ddiweddaraf a'r fwyaf a oedd yn eiddo i'r masnachwr Francis Shaxton o King's Lynn, ar lawr ar draeth Margam.

Ymhen dim o dro ysbeiliwyd y llong gan y trigolion lleol, hyd nes i gynrychiolwyr tirfeddianwyr lleol adfer y drefn a hawlio'r nwyddau iddynt hwy eu hunain. Ymhen amser, daeth Shaxton i wybod am dynged ei long ac wedi achosion cyfreithiol hir llwyddodd i adfeddiannu rhywfaint o'i nwyddau - angorau, canonau, ceblau ac arian.

Fel rheol, mae darnau arian yn dynodi dyddiad llongddrylliad. Felly, pam maent yn awgrymu dyddiad cynharach o lawer yn yr achos hwn? Mae'n bosibl, wrth gwrs, y cafodd rhyw long arall ei dryllio ym Margam yn 1557, er nad oes unrhyw dystiolaeth o'r fath beth ar gael. Ond gwyddys fod yr Ann Francis yn cludo llawer o arian, yr arian a gafwyd, yn ôl pob tebyg, yn dilyn gwerthu llwyth o rawn yn Sbaen a/neu Bortiwgal.

Mewn gwirionedd, bwliwn arian oedd y darnau arian, o fathau oedd wedi'u disodli erbyn hynny, ac o dan amgylchiadau arferol byddant wedi cael eu cludo i'r Bathdy yn Llundain er mwyn eu troi yn arian Prydeinig. Ond aeth y llong ar goll wrth iddi ddychwelyd o'i mordaith ac ni chyrhaeddodd yr arian Fathdy Llundain.

Darllen Cefndir

'Wreck de Mer and dispersed wreck site: the case of the Ann Francis (1583)' gan M. Redknap a E. Besly. Yn Artefacts from Wrecks gan M. Redknap, tt191-208. Cyhoeddwyd gan Oxbow Books (1997).

Dyddiad yr erthygl: 8 Mai 2007

0 sylw

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:     

Delweddau:     

Arddull a darllenadwyedd: