Castell Rhaglan

Y Porthdy Mawr, Rhaglan.
Y Porthdy Mawr, Rhaglan. Codwyd y porthdy rhwng 1460 a 1469 ac fe'i cynlluniwyd i wneud argraff ar ymwelwyr ac i'w dychryn drwy gynnwys rhesi o gloerdyllau, tyllau arllwys, porthcwlisau a drysau. Llun: Cadw (Hawlfraint y Goron).
Y Tŵr Mawr.
Y Tŵr Mawr. Adeilad trawiadol hunangynhaliol, oedd yn dŷ ac yn gaer yn un, yn gorwedd y tu allan i lenfuriau amgylchynol y castell. Llun: Cadw (Hawlfraint y Goron).
Gastell Rhaglan, tua 1620
Adluniad o Gastell Rhaglan, tua 1620, yn dangos y gerddi ffurfiol yn ystod dyddiau gorau'r castell. Llun: Cadw (Hawlfraint y Goron).

Castell Rhaglan yw un o adeiladau canoloesol diweddar gorau Ynysoedd Prydain ac, er ei fod yn adfail bellach, erys yn nodwedd drawiadol yn nhirwedd de-ddwyrain Cymru.

Mae llawer o'r hyn sy'n weddill o'r castell yn dyddio o'r bymthegfed ganrif, cyfnod Rhyfel y Rhos ac esgyniad brenhinlin y Tuduriaid. Y Porthdy Mawr yw'r adeilad mwyaf trawiadol sy'n dyddio o'r cyfnod hwn ac mae'n bwrw ei gysgod dros ddau glos y castell.

Fe'i codwyd naill ai gan William Herbert neu ei dad, William ap Thomas, a brynodd Raglan ym 1432. Mae'r adeilad, ac adeiladaethau eraill o'r un oedran yn y castell, yn tystio'n groyw i ddylanwad teulu yr oedd ei gyfoeth a'i bwysigrwydd gwleidyddol ar gynnydd.

Roedd William Herbert yn ŵr allweddol yng ngwleidyddiaeth y bymthegfed ganrif ddiweddar. Yn ystod Rhyfel y Rhos rhoddodd ei gefnogaeth i'r Iorciaid, gan gefnogi Edward IV yn ei ymgais i hawlio'r goron. Roedd y wobr am ei deyrngarwch yn fawr, gan y dyfarnwyd iddo'r teitl Iarll Penfro a digon o adnoddau ariannol i droi Rhaglan yn gaer-blasty.

Byrhoedlog, fodd bynnag, oedd llwyddiant yr Iarll. Ym 1469 fe'i cipiwyd gan gefnogwyr y Lancastriaid ym Mrwydr Edgecote ac fe'i lladdwyd.

Rheolai'r Herbertiaid Raglan hyd 1492 pan gafodd ei drosglwyddo i deulu Somerset. William Somerset, trydydd Iarll Caerwrangon (1526-1589), oedd yr aelod cyntaf o'i deulu i newid adeiladau'r castell yn sylweddol.

Canolbwyntiodd yr Iarll William ei ymdrechion ar wella ansawdd y neuadd a'r ceginau er mwyn diwallu disgwyliadau cymdeithasol ei gyfnod. Yn ogystal, sefydlodd y gerddi, oedd yn nodwedd mor bwysig o Raglan yn ystod y cyfnod Elisabethaidd a Jacobeaidd, gan gynnwys cyfres o derasau muriog, llyn artiffisial, ffownten, gwelyau blodau a gerddi perlysiau.

Erbyn canol yr ail ganrif ar bymtheg, roedd Rhaglan ym mlodau ei ddyddiau. Cyrhaeddodd lefel o soffistigedigrwydd a golud y gellid gweld ei thebyg dim ond yn y plastai gorau. Fodd bynnag, daeth tro ar fyd yn sgil y Rhyfel Cartref.

Ym 1642, bu i bumed Iarll Caerwrangon ddatgan ei gefnogaeth i achos y Brenhinwyr, gan gynnig cymorth ariannol sylweddol i'r Brenin Siarl I. O ganlyniad, roedd Rhaglan yn darged i luoedd y Seneddwyr, a roddodd y castell dan warchae ym Mehefin 1646. Llwyddodd ei amddiffynwyr i ddal eu gafael arno yn ystod yr haf ond erbyn canol Awst roedd y Seneddwyr wedi symud eu gwarchaefuriau i fan oedd yn llai na thrigain llath o'r castell. Ildiodd ei amddiffynwyr ar 19 Awst.

Yn ystod y blynyddoedd dilynol, gadawyd y castell yn wag a dirywiodd; yna, daeth yn ffynhonnell gyfleus ar gyfer cerrig adeiladu ac yn atyniad pictiwrésg i dwristiaid. Bellach, diolch i waith Cadw a rhagflaenwyr yr asiantaeth, gwarchodwyr y castell ers 1938, ataliwyd y dirywiad a gwarchodir yr adeilad.

Darllen Cefndir

Raglan Castle gan J. R. Kenyon. Cyhoeddwyd gan Cadw: Cofadeiliau Hanesyddol Cymru (2003).

Dyddiad yr erthygl: 9 Mehefin 2007

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:
starstarstarstarstar

Delweddau:
starstarstarstarstar

Arddull a darllenadwyedd:
starstarstarstarstar