Rhagor - darganfod byd o gasgliadau

Celc Cwm Nantcol

[delwedd: Rhan o gelc Cwm Nantcol, gan gynnwys y prif ddarnau copor-aloi.]

Rhan o gelc Cwm Nantcol, gan gynnwys y prif ddarnau copor-aloi.

[delwedd: Acwamanil ar lun carw o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg neu ddechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg. 26cm (10.2 modfedd) o uchder.]

Acwamanil ar lun carw o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg neu ddechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg. 26cm (10.2 modfedd) o uchder.

[delwedd: Stên gopor-aloi o'r bymthegfed ganrif. 17.5cm (6.9 modfedd) o uchder.]

Stên gopor-aloi o'r bymthegfed ganrif. 17.5cm (6.9 modfedd) o uchder.

[delwedd: Hambwrdd neu ddysgl gopor-aloi. 39.5cm (15.5 modfedd) ar draws.]

Hambwrdd neu ddysgl gopor-aloi. 39.5cm (15.5 modfedd) ar draws.

[delwedd: Bwyell haearn coediwr ac arni nod y gwneuthurwr ar ffurf croes. 27cm (10.6 modfedd) o hyd.]

Bwyell haearn coediwr ac arni nod y gwneuthurwr ar ffurf croes. 27cm (10.6 modfedd) o hyd.

Ym 1918, ffeindiodd gweithiwr oedd yn cloddio am fanganŷs ger Llanbedr (Gwynedd) un o'r celciau mwyaf rhyfeddol i'w ddarganfod yng Nghymru.

Cuddiwyd y celc mewn gwagle o dan garreg fawr ar dir garw ar ochr ddeheuol Cwm Nantcol.

Yr hyn a wna'r celc hwn mor ddiddorol yw nid yn unig yr amrywiaeth mawr o wrthrychau - o lestr cain (a elwir yn acwamanil) ar lun carw, i sgiledi efydd, a jwg dŵr cymharol fach (a elwir yn stên) - ond hefyd eu dyddiad. Mae'r rhan fwyaf o gelciau gwaith metel a ddarganfuwyd yng Nghymru yn tueddu i fod yn gynhanesyddol, ond roedd hwn yn dyddio o ddiwedd y cyfnod canoloesol.

Un o'r gwrthrychau cynharaf yn y celc yw'r acwamanil, sy'n dyddio o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg i ddechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg. Wedi ei lunio o gopor-aloi, mae ganddo gaead colfachog ar ben pen y carw - sy'n golygu y gellir llenwi'r llestr - a phig byr sy'n ymestyn o'i geg. Fe'i castiwyd mewn un darn, sy'n dangos bod gan ei wneuthurwr ar fedr anghyffredin, ac fe'i defnyddid wrth olchi dwylo'n seremonïol mewn eglwys, mynachlog, neu wrth fwrdd gwledda. Er bod y carw wedi colli ei gyrn, erys yn enghraifft wych o'r math yma o lestr.

Mae'r stên copor-aloi yr un ffunud ag un y daethpwyd o hyd iddi ar safle Abaty Ystrad-fflur. Awgryma ffurf a chyfansoddiad aloi y naill lestr a'r llall eu bod yn debyg i enghreifftiau piwter o'r bymthegfed ganrif.

Roedd pwrpas mwy cyffredin i un pair copor-aloi, dau sgiled a hambwrdd oedd yn rhan o'r celc, gan eu bod yn wrthrychau nodweddiadol o gegin o'r bymthegfed ganrif - ond cegin led gyfoethog serch hynny. O haearn y gwnaed y gwrthrychau eraill yn y celc, ac yn eu plith roedd bwyell a darnau o bentanau haearn.

Er ein bod ni wedi dysgu llawer drwy astudio pryd a gwedd y gwrthrychau hyn, gwyddom lawer mwy amdanynt o ganlyniad i ddadansoddiad metelegol a gyflawnwyd ym Mhrifysgol Coventry.

Mae metel yr acwamanil, sy'n cynnwys mwy o blwm na sinc ac alcam, yn awgrymu y cafodd ei gynhyrchu yng ngogledd-orllewin yr Almaen. Dengys cyfansoddiad metel y stên y cafodd y llestr ei gynhyrchu yn Ffrainc o bosibl, neu Loegr.

Cynhyrchwyd y pair a'r sgiledi o efydd plwm, ac awgryma'r cyfrannau o alcam, sinc ac antimoni yn y metel y cafodd un o'r sgiledi ei lunio yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, tra bod y darnau eraill yn dyddio o'r bymthegfed ganrif.

Mae'r amrywiaeth eang o wrthrychau a gafwyd yn y celc, a'u cyflwr treuliedig, yn awgrymu y cawsant eu casglu fel metel sgrap gan drafaeliwr o dincer, yn gynnar yn yr unfed ganrif ar bymtheg, yn ôl pob tebyg. Ond pam claddodd ei nwyddau ar lechwedd anghysbell?

Efallai fod a wnelo'r ateb â phrinder y copor a gyrhaeddai Brydain yn ystod ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg, a'r cyfreithiau oedd yn rheoli'r fasnach mewn efydd a phres. Bwriad y cyfreithiau hyn oedd atal allforio metel sgrap y gellid ei ddefnyddio i gynhyrchu canon.

Mae'n bosibl felly, fod y tincer yn cuddio celc a gasglodd yn anghyfreithlon ac a allai gael ei atafaelu. Neu, os oedd wedi prynu'r celc yn gyfreithlon mewn marchnad, efallai iddo ei gladdu dros dro wrth chwilio am eitemau eraill i'w hychwanegu ato.

Gyda golwg ar ble y gobeithiai werthu ei sgrap, mae'n bosibl ei fod ar ei ffordd i Gaer, neu i'r Trallwng ac yna ymlaen i orllewin canolbarth Lloegr, un o brif ganolfannau'r diwydiant metel yn ystod y cyfnod hwn.

Darllen Cefndir

'The Nant Col Hoard of medieval metalware' gan J. M. Lewis, R. Brownsword, E. E. H. Pitt a T. Ciuffini. Yn Archaeologia Cambrensis, cyf. 136, tt156-70 (1987).

Dyddiad yr erthygl: 4 Mai 2007

0 sylw

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:     

Delweddau:     

Arddull a darllenadwyedd: