Rydych chi yn: Archwilio'r Casgliadau > Peiriau Llan-maes

Peiriau Llan-maes

Cloddiadau yn Llan-maes yn 2004.
Cloddiadau yn Llan-maes yn 2004.
Dolennau a strapiau peiriau a phowlenni a ffeindiwyd yn Llan-maes. Roedd peiriau yn llestri mawr efydd a ddefnyddid yn ystod gwleddoedd.
Dolennau a strapiau peiriau a phowlenni a ffeindiwyd yn Llan-maes. Roedd peiriau yn llestri mawr efydd a ddefnyddid yn ystod gwleddoedd.
Darganfyddiadau o Lan-maes, 2004: darnau o fwyeill a pheiriau, pinnau gwddf alarch, troellennau cogeiliau a phwysau gwydd.
Darganfyddiadau o Lan-maes, 2004: darnau o fwyeill a pheiriau, pinnau gwddf alarch, troellennau cogeiliau a phwysau gwydd.
Un o'r ddau bair cyflawn o gelc Llyn Fawr, Rhondda Cynon Taf.
Un o'r ddau bair cyflawn o gelc Llyn Fawr, Rhondda Cynon Taf.

Mae darganfyddiad anheddiad tair mil o flynyddoedd oed yn bwrw goleuni newydd ar fywyd y cyfnod cynhanesyddol ym Morgannwg.

Yn Chwefror 2003, derbyniodd y Cynllun Hynafiaethau Cludadwy yng Nghymru wybodaeth am gasgliad anghyffredin o waith metel cynhanesyddol gan y ddau ddatguddiwr metel, Steve McGrory ac Anton Jones. Ymhlith eu darganfyddiadau roedd nifer o wahanol bwyeill efydd, rhai mewn dull oedd yn nodweddiadol o ogledd-orllewin Ffrainc, a rhannau o harneisiau a darnau o bowlenni a pheiriau. Roedd rhai o'r powlenni o fath nad oedd yn hysbys o'r blaen.

Yn sgil y darganfyddiadau hyn penderfynodd archaeolegwyr Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru a'r Cynllun Henebion Cludadwy gloddio safle'r darganfyddiadau yn Llan-maes ym Mro Morgannwg.

Mae dau dymor o waith ar y safle lle cafodd Steve ac Anton hyd i'w darganfyddiadau wedi datgelu anheddiad cynhanesyddol nad oedd yn hysbys o'r blaen. Roedd yr anheddiad yn cynnwys tŷ crwn, a oroesodd ar ffurf cyfres o dyllau pyst lle safai ategbyst mur ar un adeg. Ar waelod un o'r tyllau hyn roedd darn o ddolen pair. Mae'r darganfyddiad hwn yn awgrymu y câi'r gwaith metel ei ddefnyddio gan breswylwyr yr anheddiad ac na chafodd ei gladdu yno rywbryd cyn neu wedi dyddiad yr anheddiad.

Bywyd y cyfnod cynhanesyddol

Darganfuwyd hefyd ddau bydew hirgrwn gerllaw'r tŷ crwn, ac yn un ohonynt gorweddai darnau mawr o bedwar neu bump o botiau toredig y gwyddom, ar sail eu dull, y cawsant eu defnyddio rhwng 1150 a 700CC. Roedd pwy bynnag fu'n gyfrifol am lenwi'r pydew wedi gosod corn carw coch ar ei ben - o bosibl yn ystod defod grefyddol, neu efallai i ddynodi safleoedd gwreiddiol y pydewau.

Tomen o sbwriel domestig

Uwchlaw'r tŷ crwn a'r pydewau roedd tomen o sbwriel domestig oedd wedi pydru gan ffurfio pridd tywyll. Ynddo roedd nifer o ddarnau o lestri metel dalennog, bwyeill wedi'u torri a chrochenwaith toredig yn debyg i'r hyn a ffeindiwyd yn y pydewau.

Awgryma hyn oll mai dim ond egwyl fer fu rhwng preswyliad yr anheddiad a chyfnod creu'r domen, ond roedd y domen hefyd yn cynnwys crochenwaith o'r cyfnod Rhufeinig a wawriodd gannoedd o flynyddoedd yn ddiweddarach. Mae'r cymysgedd hynod hwn o ddarganfyddiadau cynhanesyddol a Rhufeinig yn ei gwneud hi'n anodd deall yn iawn y berthynas rhwng yr anheddiad a'r domen ac mae'r broblem yn dal i gael sylw.

Heblaw am y gwaith metel a'r crochenwaith, roedd y domen hefyd yn cynnwys dros 10,000 o ddarnau o esgyrn anifeiliaid, mwy nag 80% ohonynt yn esgyrn gên ac aelodau moch. Mae hwn yn ddarganfyddiad anghyffredin iawn ym Mhrydain, lle roedd defaid a gwartheg yn dueddol o fod yn fwy cyffredin. Efallai mai safle gwledda oedd Llan-maes - roedd cig mochyn yn gig o statws uchel ar y pryd. Yn fwy rhyfeddol fyth, darganfuwyd esgyrn dynol yn y domen hefyd, er na chafwyd unrhyw sgerbydau cyflawn.

Hyd yn hyn, mae'r safle wedi ildio darnau o naw o wahanol bowlenni a pheiriau ac iddynt ddolennau cylch a 31 o ddarnau o fwyeill efydd. Cafwyd hyd hefyd i bump o binnau gwddf alarch, caewyr gwisgoedd syml ond cain, ynghyd â throellennau cogeiliau a phwysau gwŷdd a ddefnyddid i wneud dillad gwlân. Yn ogystal, casglwyd ynghyd dros 1,500 o ddarnau o grochenwaith cynhanesyddol, y casgliad mwyaf o'r oedran hwn yn ne Cymru.

Darganfyddiadau cyffrous

Awgryma hyn oll y cafodd y safle ei feddiannu, yn ôl pob tebyg, rhwng 800 a 500CC, gyda'r posibilrwydd y sefydlwyd yr anheddiad cyntaf mor gynnar â 1300CC. Yn ddiweddarach, mae'n bosibl y bu fferm a Rufeineiddiwyd gerllaw, er na chafwyd hyd i'w hunion leoliad eto.

Mae'r darganfyddiadau cyffrous hyn yn helpu archaeolegwyr i ddeall bywyd diwedd yr Oes Efydd pan oedd y grefft o drin haearn newydd gael ei chyflwyno i Brydain. Yn ogystal, maen nhw'n ein dysgu mwy am sut y câi peiriau - llestri gwledda efydd mawr - eu gwneud a'u defnyddio.

Dyddiad yr erthygl: 4 Mai 2007

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:
starstarstarstarstar

Delweddau:
starstarstarstarstar

Arddull a darllenadwyedd:
starstarstarstarstar