Rydych chi yn: Archwilio'r Casgliadau > Pentan haearn Capel Garmon

Pentan haearn Capel Garmon

Pentan haearn Capel Garmon
Pentan haearn Capel Garmon (Conwy). Offeryn addurniadol yw pentan haearn a ddefnyddid i gadw coed yn eu lle ar dân agored. Prif nodwedd yr enghraifft wych hon yw'r pennau a'r myngau a luniwyd fel eu bod yn ymdebygu, ar ryw olwg, i geffyl a tharw.
Un o'r pennau ar y pentan haearn
Manylyn yn dangos un o'r pennau ar y pentan haearn. Efallai bod y pen yn cynrychioli creadur chwedlonol y ceid sôn amdano yn hanesion y rhyfelwyr, neu mae'n bosibl mai arwyddlun ydoedd o lwyth neu gymuned ei berchnogion.
Llun pelydr-X o un o bennau pentan haearn Capel Garmon
Llun pelydr-X o un o bennau pentan haearn Capel Garmon. Dengys y llun pelydr-X natur gymhleth gwneuthuriad y pentan haearn. (Cafodd yr ategion llorweddol a fertigol modern eu hychwanegu i sefydlogi'r pen.)
Mwyndoddi haearn arbrofol
Mae gwaith arbrofol wedi dangos faint o amser a'r medr yr oedd ei angen ar grefftwr i gynhyrchu pentan haearn Capel Garmon.

Gwaith pen-grefftwr o'r Oes Haearn Geltaidd yw'r pentan haearn hwn o Gapel Garmon sydd wedi'i addurno â phen dau anifail corniog sy'n edrych yn groes i'w gilydd.

Darganfuwyd y pentan haearn yn 1852, gan ŵr oedd yn cloddio ffos drwy fawn ar dir fferm Carreg Goedog, Capel Garmon (Conwy). Gorweddai'r pentan ar ei ochr yn ddwfn yn y mawn, rhwng dwy garreg fawr a osodwyd y naill ben iddo. Mae ei gyflwr da a'r ffaith y cafodd ei osod yn ofalus yn y ddaear yn awgrymu mai offrwm oedd i un o dduwiau'r byd Celtaidd paganaidd. Mae hyn yn gydnaws â'r arfer hirsefydlog o osod gwaith metel mewn llynnoedd, afonydd a chorsydd yng Nghymru yn ystod yr Oes Efydd a'r Oes Haearn.

Yn un o bâr yn wreiddiol, byddai'r pentan haearn wedi cael ei osod ar bwys aelwyd yng nghanol tŷ crwn o goed neu gerrig. Byddai'r aelwyd yn ganolbwynt naturiol ar gyfer bwyta, gwledda a thrafod a byddai'r pentan wedi bod yn amlwg i bawb ac yn destun eu hedmygedd.

Mae lluniau pelydr-X diweddar o'r pentan haearn hwn, ynghyd ag ymdrech gof i greu copi ohono, wedi dangos bod ei wneuthurwr yn grefftwr o fri, a feddai ar y gallu i drin a llunio haearn.

Yn ôl un amcangyfrif, mae'n bosibl y byddai wedi cymryd o leiaf dair blynedd a hanner i un person wneud pentan haearn Capel Garmon, gwaith a olygai gasglu'r deunydd crai, mwyndoddi'r mwyn haearn a llunio'r gwrthrych ei hun. Yn ôl pob tebyg, câi'r gwaith o droi mwyn haearn yn fetel ei ystyried yn broses ddewinol gan y Celtiaid, a byddai gofaint wedi ennyn parch mawr am eu galluoedd goruwchnaturiol.

Mae dyddio pentan haearn Capel Garmon yn anodd oherwydd ni chafodd y darganfyddiad na manylion y cloddiad eu cofnodi gan archaeolegwyr. Fodd bynnag, ers i bentan haearn Capel Garmon ddod i'r golwg, darganfuwyd enghreifftiau tebyg yn ne-ddwyrain Lloegr, ym meddrodau penaethiaid yr Oes Haearn.

Yn ogystal â'r pentanau haearn, yn y claddfeydd hyn cafwyd nwyddau claddu eraill megis amfforâu a fewnforiwyd o ardal Môr y Canoldir, crochenwaith a gynhyrchwyd ar droell crochenydd, a nwyddau personol eraill, ac mae pob un o'r gwrthrychau hyn yn dyddio o'r cyfnod rhwng 50CC ac OC75 - yr Oes Haearn diweddar. Felly, mae'n debyg y cafodd pentan haearn Capel Garmon ei gladdu yn ystod y cyfnod hwn hefyd.

Defnyddid haearn am y tro cyntaf yng Nghymru tua 750CC. O 300CC ymlaen daeth offer, arfau a thlysau haearn yn fwyfwy cyffredin ar safleodd bryngaerau ac aneddiadau, ac mewn celciau. Fodd bynnag, mae maint ac ansawdd pentan haearn Capel Garmon yn ei osod mewn dosbarth ar wahân i'r gwrthrychau hyn. Er gwaethaf holl ddarganfyddiadau'r 150 o flynyddoedd diwethaf, dyma un o'r enghreifftiau pwysicaf o waith haearn addurnol cynnar i ddod i'r golwg ym Mhrydain.

Darllen Cefndir

Celtic art, reading the messages gan M. Green. Cyhoeddwyd gan Weidenfeld & Nicholson (1996).

'Firedogs in Iron Age Britain and beyond' gan S. Piggott. Yn The European community in later prehistory: studies in honour of C. F. C. Hawkes gan J. Boardman, M. A. Brown a T. G. E. Powell, tt245-70. Cyhoeddwyd gan Routledge & Kegan Paul (1971).

'The Capel Garmon Firedog' gan C. Fox. Yn The Antiquaries Journal, cyf. 19, tt446-8 (1939).

Dyddiad yr erthygl: 4 Mai 2007

+ Dangos sylwadau

---

Gadael sylw


Ble mae...

Capel Garmon

Ewch i'r lleoliad hyn yn Google maps

Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:
starstarstarstarstar

Delweddau:
starstarstarstarstar

Arddull a darllenadwyedd:
starstarstarstarstar