Rydych chi yn: Archwilio'r Casgliadau > Celfyddyd Geltaidd yng Nghymru'r Oes Haearn

Celfyddyd Geltaidd yng Nghymru'r Oes Haearn

Celfyddyd Geltaidd

Plac cilgantaidd
Plac cilgantaidd o Lyn Cerrig Bach, Ynys Môn.

Mae celfyddyd Geltaidd yn adlewyrchu sut roedd pobl yr Oes Haearn yn dehongli eu byd. Mae'r dyluniadau roedden nhw'n eu defnyddio yn ein helpu ni i ddeall sut roedden nhw'n eu gweld eu hunain, eu hamgylchfyd a'u duwiau.

Arian Celtaidd
Darn arian Celtaidd, Sir Fynwy.

Mae'r gelfyddyd Geltaidd a gafwyd yng Nghymru yn rhan o draddodiad ehangach o lawer ym Mhrydain ac Ewrop. Datblygodd yn ystod yr Oes Haearn Haearn o tua 500CC ymlaen ac fe'i gelwir yn aml yn gelfyddyd La Tène.

Yr enghraifft gynharaf o Gymru yw bowlen Cerrig-y-Drudion a ddarganfuwyd ym 1924 mewn beddrod cerrig yn sir Conwy. Dyma un o'r ychydig arteffactau o'r 4ydd ganrif CC addurnedig a ddarganfuwyd ym Mhrydain ac mae'n debygol iddi gael ei gwneud gan grefftwyr Brythonaidd o dan ddylanwad traddodiadau Cyfandirol.

Gwyddom am lawer iawn mwy o wrthrychau addurnedig o tua 200CC, ac erbyn hynny roedd y Brythoniaid wedi datblygu eu harddull unigryw eu hunain. Roedd crefftwyr ym Mhrydain yn dal i gynhyrchu cleddyfau, dagrau, gwaywffyn, tlysau ac offer ar gyfer ceffylau, ond roeddent hefyd yn ychwanegu pethau fel tancardiau, drychau a llwyau at eu stoc.

Nodwedd o'r arddull yw cyflwyno motiffau a'u hailadrodd yn aml i bwysleisio eu hystyr. Mae archaeolegwyr yn dehongli'r rhain fel pethau symbolaidd a phwerus â chanddynt arwyddocâd crefyddol. Er enghraifft gallai cymeriad triphlyg y trisgel (patrwm â thri choes yn codi o darddiad canolog) gynrychioli'r berthynas rhwng y byw, y meirwon a'r duwiau neu gylch oesol geni, byw a marw.

Lyn Cerrig Bach

Plac o Dal-y-Llyn
Plac o Dal-y-Llyn, Gwynedd, sy'n dyddio o'r ganrif 1af OC yn ôl pob tebyg.

Gweler y plac cilgantaidd o Lyn Cerrig Bach (Ynys Môn). Addurnwyd y plac hwn â thrisgel cymhleth, ac ar ben pob coes mae utgorn a chylch sy'n awgrymu pen aderyn arddulliol.

Daw portreadau arddulliol o bobl ac anifeiliaid yn fwy cyffredin ar ôl 100CC gyda'r wynebau'n aml yn cael eu cuddio o fewn patrymau dyrys. Gellir gweld pennau dynol mewn dyluniadau llifeirol tebyg i blanhigion ar blaciau celc Tal-y-Llyn tra bod amrywiaeth o wartheg, ceffylau, baeddod ac adar yn addurno amrywiaeth eang o arteffactau eraill. Cafwyd hyd i fowntiau bwced siâp pen ych yng Nghymru (gweld y llun - roedd y celc Nant y Gamar (Conwy) hefyd yn cynnwys dau dlws utgorn Rhufeinig, gan ddangos bod yr arddull Geltaidd yn dal i gael ei defnyddio ar ôl y goncwest Rufeinig), sy'n dangos nodweddion arddulliol a'r llinellau llifeiriol oedd yn perthyn i arddulliau artistig Prydeinig. Ceir ambell i awgrym am fwystfilod chwedlonol hefyd, er enghraifft y pennau ceffyl-gwartheg sy'n addurno brigwn Capel Garmon.

Ni ddiflannodd dyluniadau Celtaidd gyda'r goncwest Rufeinig. Cafodd trulleus (sosban) o Wersyll Coygan yn sir Gaerfyrddin ei drwsio rhywbryd yn ystod y 3ydd ganrif OC. Ni chafodd ei addurno â dyluniad Rhufeinig nodweddiadol, ond â motiff trisgel, sy'n dangos bod celfyddyd Geltaidd yn dal i gael ei gwerthfawrogi.

Darllen Cefndir

Mownt bwced Pen Ych
Mownt bwced Pen Ych a gafwyd yn Nant y Gamar, Conwy.

Early Celtic art in Britain and Ireland gan Ruth a Vincent Megaw. Cyhoeddwyd gan Shire Archaeology (1986)

Christian Celts

Dyddiad yr erthygl: 3 Mai 2007

+ Dangos sylwadau

---

Gadael sylw


Erthygl gwreiddiol

Cliciwch i lawrlwytho'r erthygl gwreiddiol.

Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:
starstarstarstarstar

Delweddau:
starstarstarstarstar

Arddull a darllenadwyedd:
starstarstarstarstar