Rhagor - darganfod byd o gasgliadau

Llychlynwyr ar Ynys Môn

Mae Llanbedrgoch ar Ynys Môn yn gartref i un o'r safleoedd archeolegol mwyaf diddorol o gyfnod mewnlifiad y Llychlynwyr i Gymru. Mae ymchwil Amgueddfa Cymru ar y safle wedi bod yn gymorth wrth ddatgelu natur bywyd yn Oes y Llychlynwyr, fu'n ddirgelwch i ysgolheigion ers degawdau.

[delwedd: Cloddfa ar ei hanner ar adeilad 1 ym 1997]

Cloddfa ar ei hanner ar adeilad 1 ym 1997

Darganfuwyd y safle ym 1994, wedi i nifer o ddarganfyddiadau gael eu cludo i'r Amgueddfa i gael eu hadnabod. Roeddent yn cynnwys ceiniog Eingl-Sacsonaidd o gyfnod Gynethryth (787-792 AD), ceiniog gan Wulfred o Gaergaint (tua 810), a thri phwysyn plwm Llychlynnaidd.

O Neolithig i Rufeinig

Yn dilyn cloddfa ac ymchwil manwl, dechreuwyd datrys hanes cymhleth y safle. Ymddengys bod y safle wedi bod yn ganolfan llawn gweithgarwch mor gynnar â 3300 CC, sef cyfnod adeiladu'r mwyafrif o siambrau claddu ar Ynys Môn. Mae nifer o eitemau o grochenwaith, wedi'u dyddio drwy radio carbon i gyfnod rhwng 240 a 450 OC, yn dangos y bu gweithgarwch ar y safle yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid.

Y Safle

Gellir rhannu'r gweithgarwch ar y safle hwn yn sawl cyfnod. Daethpwyd o hyd i ffos, a fesurai 2m o led a 1m o ddyfnder. Wedi cloddio pellach, dadorchuddiwyd ceudyllau wedi'u torri i mewn i'r creigwely, a arferai fod yn blatfform tŷ, mae'n debyg. Mae'r gwrthrychau a ganfuwyd yn awgrymu bod y ffos o gyfnod cyn-Lychlynnaidd. Mae'n debyg mai o'r cyfnod hwn y daw'r neuadd fawr bren, a gynrychiolir gan dyllau pyst mawr.

Disodlwyd yr adeilad pren hwn ar ddiwedd y 9fed neu ddechrau'r 10fed ganrif gan ddwy neuadd o leiaf, a ddefnyddiwyd am y tro olaf rhwng tua 890 a 970. Safai neuadd fawr neu ysgubor i'r dwyrain, a fesurai tua 8m wrth 12m, yn dyddio o tua 855-1000 OC.

Tua'r gorllewin, mae'r fynedfa i drydydd adeilad, sydd ychydig yn llai, wedi'i marcio gan ddarn bach o balmant cerrig. Dinistriwyd unrhyw dystiolaeth glir o'r waliau gan y broses o aredig, ond canfuwyd bwcl efydd cain a llafn cyllell haearn â chefn onglog o'r 10fed ganrif.

Roedd rhai arteffactau mewn tomen sbwriel yng nghornel de-orllewin y safle, yn cynnwys styca (ceiniog), o Northumbria, o Archesgob Wigmund (tua 848 - 58), ac offer haearn socedog ar gyfer lledrwaith, mowntiau a rhwymiadau bwcedi.

Ymddengys bod yr ardal wedi dychwelyd at amaethyddiaeth wedi hyn, a diddymwyd holl olion yr anheddiad blaenorol dros amser. Fel safleoedd eraill, dewiswyd y lleoliad yn ofalus - man cysgodol, tua 1000m o'r môr.

Mae'r gwrthrychau a ddarganfuwyd ar y safle'n ffurfio un o'r casgliadau mwyaf o'i fath yng Nghymru, ac maent wedi goroesi mewn cyflwr arbennig o dda. Mae ceiniogau a thystiolaeth arall yn awgrymu bod diwedd yr 8fed ganrif yn gyfnod o gynnydd economaidd yn Llanbedrgoch. Mae'n ymddangos bod yr anheddiad yn ei hanterth yn y 10fed ganrif, a oedd yn gyfnod o gynhaeafu cnydau, o gadw anifeiliaid, ac o grefftwyr, gyda chysylltiadau â masnachwyr Llychlynnaidd a gyrhaeddai mewn llongau.

Y cae yn Llanbedrgoch yw'r allwedd i ddatgloi cyfrinachau pellach yr anheddiad Llychlynnaidd, sydd wedi bod yn ddirgelwch i ysgolheigion ers degawdau.

Dyddiad yr erthygl: 1 Mai 2007

0 sylw

Gadael sylw


Geirfa

Llychlynwyr
Diwylliant a darddodd yn Sgandinafia (bellach Norwy, Denmarc, Sweden a Gwlad yr Iâ) tua chanol yr 8fed ganrif OC. Roedd y Llychlynwyr yn goncwerwyr ffyrnig, yn archwilwyr dewr, ac yn grefftwyr dawnus, a oresgynnodd ac a wladychodd nifer o wledydd ar draws Gorllewin Ewrop.

Ble mae...

Llanbedrgoch

Ewch i'r lleoliad hyn yn Google maps

Erthygl gwreiddiol

Cliciwch i lawrlwytho'r erthygl gwreiddiol.

vikings in north wales.pdf
1371 KB

Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:     

Delweddau:     

Arddull a darllenadwyedd: