Palas ym Mrycheiniog

Llyn Syfaddan
Llyn Syfaddan a'r crannog yn y cefndir. Llun: Cadw (Hawlfraint y Goron).
Crannog Llyn Syfaddan yn ystod gwaith cloddio.
Crannog Llyn Syfaddan yn ystod gwaith cloddio. Llun o gloddiadau 1991 yn dangos ystyllod o fur palisâd y crannog.
Ystyllen dderw o Lyn Syfaddan, 60 cm (2 droedfedd) o hyd.
Ystyllen dderw o Lyn Syfaddan, 60 cm (2 droedfedd) o hyd. Roedd ystyllod derw soddedig, megis hon, yn ffurfio rhan o'r palisâd o amgylch crannog Llyn Syfaddan.
Adluniad o grannog Llyn Syfaddan, yn seiliedig ar y gwaith cloddio.
Adluniad o grannog Llyn Syfaddan, yn seiliedig ar y gwaith cloddio.

Mae cloddiadau ar safle ynys artiffisial neu grannog yn Llyn Syfaddan, ger Aberhonddu, wedi cynnig cip unigryw ar lys brenhinol Cymreig.

Datgelodd cloddiadau rhwng 1989 a 1993, gan dîm o Amgueddfa Cymru a Phrifysgol Caerdydd, fod y crannog, yr unig un y gwyddys amdano yng Nghymru, yn safle brenhinol rheolwr teyrnas fewndirol Brycheiniog.

Roedd teyrnas gynnar, fach Brycheiniog (Brecheiniauc) yn cyfateb yn fras i sir hanesyddol Brycheiniog yn ne Cymru. Mae enw'r diriogaeth yn dwyn i gof Brychan, sylfaenydd y llinach frenhinol, yn ôl y chwedl.

Cafodd y crannog ei adeiladu'n ofalus o brysgwydd a meini tywodfaen, a atgyfnerthwyd ac a amgylchynwyd gan sawl rhes o balisadau a wnaed o ystyllod derw. Mae'r coed mewn cyflwr da ac mae dyddiadau cylch-coeden yn profi eu bod wedi cael eu torri rhwng OC889 a 893. Mae'n debyg fod y safle'n ymgorffori technegau adeiladu Gwyddelig ac mae'n bosibl y cafodd ei godi gyda chymorth crefftwyr o Iwerddon.

Mewn testunau achyddol diweddarach, hawliai brenhinoedd Brycheiniog eu bod yn hanu o frenhinlin a oedd yn rhannol Wyddelig, a drwy ddefnyddio'r fath ddulliau adeiladu anarferol a thrawiadol mae'n bosibl y cryfhawyd eu statws gwleidyddol ac atgyfnerthu eu honiad eu bod o dras Wyddelig.

Fel safle brenhinol, roedd crannog Llyn Syfaddan yn ganolfan weinyddol a lletygarwch, lle y byddai'r rheolwr wedi derbyn trethi ac ymbleseru mewn hela a physgota. Mae ansawdd da iawn y gwrthrychau y cafwyd hyd iddynt yn dynodi statws aristocrataidd y trigolion.

Yn ôl Cronicl yr Eingl-Seisnig, anfonodd Æthelflaed, 'Boneddiges y Mersiaid', fyddin i Gymru yn y flwyddyn OC916, dridiau wedi llofruddiaeth Abad Ecgberht a'i gymdeithion. Dinistriodd y fyddin Brecenanmere (yr enw Sacsonaidd ar Lyn Syfaddan) a chipio 'gwraig y brenin a thair ar ddeg ar hugain o bobl eraill'. Yn ôl pob tebyg, mae'r cofnod sy'n crybwyll y mere (llyn) yn cyfeirio at yr ymosodiad ar y crannog, ac at gipio gwraig y brenin Eliseg ap Tewdwr. Mae'n bosibl fod haenlin ruddedig a gofnodwyd yn ystod y cloddiadau yn cynrychioli'r digwyddiad hwn.

Capsiwl amser prin iawn o fywyd ar safle brenhinol ar ddiwedd y nawfed ganrif ac yn gynnar yn y ddegfed ganrif yw'r safle hwn, ac mae'r arteffactau, sy'n cynnwys gweolyn brodiog a rhannau o gysegrfa symudol, yn cadarnhau ei statws arbennig.

Llinell Amser

  • 880au: Eliseg ap Tewdwr, rheolwr Brycheiniog, dan orfod gweithrediadau ymosodol Gwynedd, yn ceisio tra-arglwyddiaethu ar Alffred.
  • 889-93: Crannog Llyn Syfaddan yn cael ei godi gan reolwr Brycheiniog.
  • 894: Y Llychlynwyr yn anrheithio Brycheiniog.
  • 916: Brecenanmere (crannog Llyn Syfaddan, yn ôl pob tebyg) yn cael ei ddinistrio gan fyddin Mersiaidd (Sacsonaidd).

Darllen Cefndir

'On a crannoge, or stockaded island, in Llangorse Lake, near Brecon' gan E. N. Dumbleton. Yn Archaeologia Cambrensis, 4edd gyfres, cyf. 1, tt2-98 (1870).

'The early medieval crannog at Llanorgse, Powys: an interim statement on the 1989-1993 seasons'. Yn The International Journal of Nautical Archaeology, cyf. 23, tt189-205 (1994).

Dyddiad yr erthygl: 13 Medi 2007

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:
starstarstarstarstar

Delweddau:
starstarstarstarstar

Arddull a darllenadwyedd:
starstarstarstarstar