Rydych chi yn: Archwilio'r Casgliadau > Bord Gron y Brenin Arthur

Bord Gron y Brenin Arthur

Amffitheatr Rufeining yng Nghaerllion

Amffitheatr Rufeinig Caerllion.
Amffitheatr Rufeinig Caerllion. [Image © Steve Burrow]

Byth oddi ar y 12fed ganrif mae'r amffitheatr Rufeining yng Nghaerllion wedi cael ei chydnabod fel safle llys y Brenin Arthur.

Yn OC1405, ar ôl glanio yn Aberdaugleddau i gefnogi gwrthryfel Owain Glyndŵr yn erbyn coron Lloegr, cyrhaeddodd byddin ymgyrchol Ffrengig Gaerllion. Yma, ymwelodd y milwyr â 'Bord Gron y Brenin Arthur'. Yn ôl un ffynhonnell Ffrangeg (Chronique Religieux de St Denys), ymlwybrodd y Ffrancwyr heibio i'r 'Ford Gron', yn ogystal ag 'Abaty Urddasol' (Llantarnam yn ôl pob tebyg) y chwedl Arthuraidd. Mewn gwirionedd, amffitheatr Rufeinig lleng-gaer Isca oedd y Ford Gron.

Mae'r camadnabyddiad hwn yn dyddio'n ôl i'r 12fed ganrif. Yn ôl Gerallt Gymro, awdur Itinerarium Kambriae ('Hanes y daith drwy Gymru') a ysgrifennwyd yn OC1190: 'I'r fan yma y deuai dirprwy lywodraethwyr Rhufain i geisio gwrandawiad yn llys enwog Arthur fawr'. Dylanwadwyd yn fawr ar Gerallt ac awduron diweddarach gan Sieffre o Fynwy, a oedd wedi cyfeirio at Gaerllion, 'Dinas y Llengoedd', fel llys y Brenin Arthur yn ei epic ffuglennol, 'Hanes Brenhinoedd Prydain' (Historia Regum Britanniae, y credir iddo gael ei gwblhau tua OC1136). Cafodd y cofnod hwn, a gyfeiriai at fan a oedd yn agos i fro ei febyd, ei ddisgrifio fel 'ffrwyth dychymyg hanesyddol byw yn seiliedig ar weddillion gweledol dinas Rufeinig drawiadol'. Roedd rhywfaint o Isca'r Rhufeiniad yn dal i sefyll yn ystod y 13eg ganrif.

Yn ôl Triawd 85 yn Trioedd Ynys Prydein, y ceir y casgliad sylfaenol mewn llawysgrifau o'r 13eg a'r 14eg ganrif, roedd Tri Phrif Lys Arthur yn:

'... Caerllion ar Wysg yng Nghymru,
A Chelliwig yng Nghernyw,
A Phenrhyn Rhionydd yn y Gogledd.'

Ymhen dim o dro, clensiwyd y datganiad hwn gan gyfeiriadau at Gaerllion fel lleoliad Llys Arthur mewn rhamantau Cymreig a Ffrengig poblogaidd gan Dafydd ap Gwilym, Chrétien de Troyes ac eraill.

Ford Gron Arthur

Noddwyd cloddiadau Wheeler yn ystod y 1920au gan y Daily Mail.
Noddwyd cloddiadau Wheeler yn ystod y 1920au gan y Daily Mail.

'Symudodd y Brenin Arthur - y marchog di-ofn a'r arglwydd boneddigaidd hwnnw - i Gymru, gan ymgartrefu yng Nghaerllion ar Wysg, gan fod y Pictiaid a'r Albanwyr wedi gwneud llawer o ddrygioni yn y wlad.'
(The Lay of Sir Launfal, Marie de France, barddes o ddiwedd y 12fed ganrif)

Mewn gwirionedd, ni chrybwyllwyd Bord Gron Arthur gan Sieffre o Fynwy, ac mae'r cyfeiriad cyntaf ati yn ymddangos yng nghyfieithiad Ffrangeg o Historia Sieffre gan groniclwr clerigol arall, sef Wace o Jersey (fe'i ceir yn ei Roman de Brut, c.1155). Mae'n ymddangos bod Bord Gron Wace yn deillio o chwedlau Llydaweg, straeon a drosglwyddwyd ar lafar.

Yn ystod teyrnasiad Elizabeth I (1558-1603), dyma a ddywedodd y bardd Thomas Churchyard am Ford Gron Arthur yn The Worthiness of Wales (1587):

In Arthurs tyme, a table round, Was there whereat he sate: As yet a plot of goodly ground, Sets foorth that rare estate...

Mortimer Wheeler

Llun o'r gwaith o gloddio amffitheatr Rufeinig Caerllion, a dynnwyd yn 1927.
Llun o'r gwaith o gloddio amffitheatr Rufeinig Caerllion, a dynnwyd yn 1927.

Yn dilyn sefydlu Pwyllgor Cloddio Caerllion yn 1926, manteisiodd Mortimer Wheeler (1890-1976), Cyfarwyddwr Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ar y cysylltiad damweiniol rhwng yr amffitheatr a 'Bord Gron Arthur', oherwydd y byddai'n 'debygol o ddenu'r arian sylweddol sydd ei angen ar gyfer rhaglen hirdymor o waith'. Yn obeithiol, rhyddhaodd Wheeler fanylion ei brosiect i'r wasg, ac ymatebodd y Daily Mail yn ddiymdroi drwy anfon gohebydd i Gaerdydd. Erbyn oddeutu hanner nos, roedd y Daily Mail wedi llofnodi cytundeb i ddarparu £1,000 am hawliau neilltuedig ac adroddiadau dyddiol o'r gwaith o ddadorchuddio Bord Gron y Brenin Arthur; yn y diwedd, treblwyd eu cynnig a chyhoeddwyd adroddiadau 'cyffrous' rheolaidd yn y papur newydd. Cyhuddwyd Wheeler o ymelwad digywilydd, ond llwyddodd ei strategaeth i ddenu'r nawdd yr oedd gwir angen amdano.

Gweithgaredd canoloesol cynnar

Pin metal o dlws a luniwyd rhwng y 6ed a'r 7fed ganrif OC.
Pin metal o dlws a luniwyd rhwng y 6ed a'r 7fed ganrif OC.

Canolbwyntiodd cloddiadau Wheeler ar archaeoleg Rufeinig yr amffitheatr, ac ni chyfeiriwyd at unrhyw ddarganfyddiadau yn dyddio o'r cyfnod canoloesol cynnar. Fodd bynnag, darperir cip awgrymog o weithgaredd posibl o fewn yr arena yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar gan un darganfyddiad aloi-copr o'r cloddiadau, sef rhan uchaf pin tlws cylch bylchgrwn sy'n dyddio, yn ôl pob tebyg, o'r 6ed neu'r 7fed ganrif. Mae'n bosibl mai achos unigryw o wrthrych a gollwyd yw'r pin, ond dengys yr adeiladau pren o'r Oesoedd Canol cynnar y daethpwyd o hyd iddynt yn ddiweddar o fewn yr amffitheatr Rufeinig o dan y Guildhall yn Ninas Llundain y cafodd rhai safleoedd o'r fath eu hadfeddiannu yn ddiweddarach yn eu hanes. Ydy hi'n bosibl y cafodd amffitheatr Caerllion ei hailddefnyddio yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar? Ni chafodd unrhyw dystiolaeth argyhoeddiadol ei chyhoeddi, ac ni fedrwn ond damcaniaethu ynglŷn â chyd-destun gwreiddiol pin y tlws.

Darllen Cefndir

'Caerleon and the Archaeologists: Changing Ideas on the Roman Fortress' gan Richard J. Brewer. Yn The Monmouthshire Antiquary cyf. 17, tt.9-34 (2001).

'Geoffrey of Monmouth, Historia Regum Britanniae and Brut y Brenhinedd' gan Brynley F. Roberts. Yn The Arthur of the Welsh. The Arthurian Legend in Medieval Welsh Literature gan R. Bromwich, A. O. H.Jarman a Brynley F. Roberts, tt.97-116. Cyhoeddwyd gan Gwasg Prifysgol Caerdydd (1991).

Geoffrey of Monmouth. The History of the Kings of Britain cyfieithwyd gan Lewis Thorpe. Cyhoeddwyd gan Penguin (1966).

Mortimer Wheeler. Adventurer in Archaeology gan Jacquetta Hawkes. Cyhoeddwyd gan Weidenfield a Nicholson (1982).

Dyddiad yr erthygl: 30 Ebrill 2007

+ Dangos sylwadau

---

Gadael sylw


Geirfa

Amffitheatr
Adeilad cyhoeddus o'r cyfnod Clasurol (cysylltiedig â Rhufain hynafol yn arbennig) a ddefnyddiwyd ar gyfer gwylio chwaraeon, gêmau ac arddangosfeydd.

Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:
starstarstarstarstar

Delweddau:
starstarstarstarstar

Arddull a darllenadwyedd:
starstarstarstarstar