Rydych chi yn: Archwilio'r Casgliadau > Arthur a Chymru

Arthur a Chymru

Chwedl Brenin Arthur

Lyfr Aneirin
Tudalen o gopi o Lyfr Aneirin yn dyddio o'r drydedd ganrif ar ddeg. Mae Llyfr Aneirin yn cofnodi ymosodiad y Brythoniaid ar y Sacsoniaid yng Nghatraeth (Swydd Efrog). Er y cafodd y gerdd ei chyfansoddi yn y chweched ganrif, mae'n bosibl y cafodd y cyfeiriad at Arthur a geir ynddi ei ychwanegu'n ddiweddarach. [Image © Cardiff Library]

Bu enw'r Brenin Arthur yn gysylltiedig â Chymru ers amser maith, ond beth a wyddom am y dyn a'i amseroedd?

Mae'r enw Arthur yn dwyn i gof gysylltiadau lu. Fel gŵr gwychryw, daeth yn destun chwedlau. Yn llenyddiaeth ddychymyg Ewrop mae chwedlau a rhamantau yn dathlu'r brenin a'i lys, ac mae'r syniadau mwy diweddar hyn am Arthur yr un mor ddiddorol â'i gilydd. Dyma ambell gwestiwn cyffredin a ofynnir: Ai gŵr o gig a gwaed oedd Arthur? Sut un oedd ef? I ddarganfod yr atebion mae'n rhaid edrych yn feirniadol ar ddwy ffynhonnell bwysig o wybodaeth: testunau hanesyddol ac archaeoleg.

Mae'n debyg y ceir y cyfeiriad cyntaf at Arthur mewn llinell yng ngerdd Aneirin, 'Y Gododdin', y llenyddiaeth Gymraeg gynharaf y gwyddom amdani:

'Gochorai brain du ar fur caer / Cyn ni bai ef Arthur'
'Bwydai [Gwawrddur] frain du ar ragfur caer / Er nad oedd yn Arthur'.

Mae'r gerdd yn dyddio o'r chweched ganrif, pan oedd y rhan fwyaf o drigolion gorllewin Prydain (Cymru, gogledd Lloegr a de'r Alban) yn siarad Cymraeg; mae ffurf ysgrifenedig gynharaf y gerdd yn dyddio o'r drydedd ganrif ar ddeg. Mae'n bosibl nad yw'r cyfeiriad at Arthur yn y ffynhonnell hon yn gynharach na'r nawfed ganrif ond mae'n tystio i enwogrwydd Arthur ymhlith y Cymry yn ystod y cyfnod hwn.

Y pwysicaf o'r testunau hanesyddol yw Historia Brittonum, 'Hanes y Brytaniaid', sy'n cynnwys y cyfeiriad ysgrifenedig cynharaf at Arthur 'a frwydrodd yn eu herbyn [y Sacsoniaid] yn y dyddiau hynny gyda brenhinoedd y Brytaniaid ond ef ei hun oedd arweinydd y Brwydrau', gan ennill deuddeg buddugoliaeth. Lluniwyd fersiwn cynharaf yr hanes hwn tua OC829-830.

Yn Annales Cambriae, cronicl a ysgrifennwyd yng nghanol y ddegfed ganrif yn ôl pob tebyg, cofnodir dyddiad brwydr Baddon ar gyfer y flwyddyn OC518, a marwolaeth Arthur ym mrwydr Camlan yn OC537-9. Felly, os oedd Arthur yn ŵr hanesyddol o gig a gwaed, roedd ar dir y byw, yn ôl pob tebyg, yn ystod y chweched ganrif.

Llyfr Du Caerfyrddin

Mae'r Myrddin sy'n ymddangos yn Vita Merlini, y gerdd am fywyd Myrddin a ysgrifennwyd gan Sieffre o Fynwy yn y ddeuddegfed ganrif, fel pe bai'n gyfuniad o ddau draddodiad gwahanol, hwnnw am Ambrosius yn Historia Brittonum a oedd, yn ôl y sôn, yn arweinydd yn ystod y 460au and 470au, a hwnnw am y 'gŵr gwyllt a drigai yn y coed'. Erbyn y cyfnod pan oedd Sieffre o Fynwy yn ysgrifennu 'Hanes Brenhinoedd Prydain' roedd chwedlau a gysylltai Arthur â Chernyw eisoes yn datblygu.

Mae llenyddiaeth Gymraeg gynnar yn llawn chwedlau rhyfeddol sy'n ffurfio rhan bwysig o'r traddodiad Arthuraidd. Mewn llawysgrifau yn dyddio o'r drydedd a'r bedwaredd ganrif ar ddeg ceir portreadau gwahanol o Arthur mewn barddoniaeth Gymraeg gan feirdd anhysbys. Yn 'Englynion y Beddau', un o'r cerddi a geir yn Llyfr Du Caerfyrddin, disgrifir bedd Arthur fel rhyfeddod mawr, gan na ŵyr neb lle y mae'n gorwedd.

Yr wychaf o'r chwedlau rhyddiaith Arthuraidd yw 'Culhwch ac Olwen', y ceir fersiynau ohoni yn llawysgrifau Llyfr Gwyn Rhydderch (a ysgrifennwyd tua 1350) a Llyfr Coch Hergest (a ysgrifennwyd tua 1400). Paratowyd a chyhoeddwyd y cyfieithiad Saesneg cyntaf o'r chwedl hon, un o un chwedl ar ddeg y Mabinogion, gan y Foneddiges Charlotte Guest yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae pedair o chwedlau eraill y Mabinogion hefyd yn canolbwyntio ar Arthur, sef y tair rhamant, 'Iarlles y Ffynnon', 'Hanes Peredur Fab Efrog' a 'Geraint Fab Erbin', ynghyd â 'Breuddwyd Rhonabwy' sy'n cyflwyno golwg ddychanol o Arthur a'i fyd.

Archaeoleg

Darnau o wydr o Ddinas Powys (Bro Morgannwg)
Darnau o wydr o Ddinas Powys (Bro Morgannwg), caer y trigai pobl ynddi rhwng y bumed a'r wythfed ganrif. Daw'r darnau hyn o lestri a wnaed ar gyfandir Ewrop. Maent yn dangos maint y fasnach rhwng Cymru a phellafoedd byd y cyfnod hwn.

Yr ail ffynhonnell allweddol bwysig o wybodaeth am Arthur yw archaeoleg. Mae'r dystiolaeth archaeolegol am y cysylltiad rhwng Cymru, Cernyw a'r byd Sacsonaidd yn amrywiol ei natur - o waith metel gwneuthuredig mewn dull Eingl-Sacsonaidd a ddarganfuwyd yn ne-ddwyrain Cymru, i ddosbarthiad crochenwaith y cyfnod canoloesol cynnar a fewnforiwyd o'r cyfandir a glannau Môr y Canoldir.

Mae cloddiadau ar safle Dinas Powys, bryngaer dywysogaidd ger Caerdydd y trigai pobl o fewn ei muriau rhwng y bumed a'r saithfed ganrif, wedi dweud llawer wrthym ynglŷn â natur safle o statws uchel yn ne Cymru yn ystod y cyfnod hwn. Mae'r safle hwn o'r un oed ag eraill megis South Cadbury yng Ngwlad yr Haf a Tintagel yng Nghernyw (y naill a'r llall â'u traddodiadau Arthuraidd).

Llys Arthur yng Nghaerlleon

Cribau asgwrn o Ddinas Powys (Bro Morgannwg)
Cribau asgwrn o Ddinas Powys (Bro Morgannwg), caer y trigai pobl ynddi rhwng y bumed a'r wythfed ganrif.

Mae i nifer fawr o safleoedd yng Nghymru eu cysylltiadau Arthuraidd, er mai ychydig y gellir olrhain eu hanes yn ôl i'r Oesoedd Canol. Yn ystod y ddeuddegfed ganrif credai Sieffre o Fynwy mai Caerllion oedd lleoliad llys Arthur, tra bod bryngaer Dinas Emrys ger Beddgelert, yng Ngwynedd, yn cael ei chysylltu ag Ambrosius, Gwrtheyrn a Myrddin.

Carreg Arthur

Maen Ceti, ym Mro Gŵyr
Maen Ceti, ym Mro Gŵyr. Yn Saesneg, 'carreg Arthur' yw enw maen capan enfawr y siambr gladdu gynhanesyddol hon. Yn ôl y sôn, mae ysbryd y brenin yn ymddangos o'r siambr o dan y maen o bryd i'w gilydd.

Mae tua hanner dwsin o fegalithau Neolithig Cymru yn dwyn yr enw Arthur, megis Coetan Arthur a Charreg Coetan Arthur, ac mae ei enw hefyd ynghlwm wrth fryngaer o'r Oes Haearn ar Fryniau Clwyd, sef Moel Arthur ger Dinbych. Yn ôl un traddodiad, mae'r Brenin Arthur a'i farchogion yn gorwedd ynghwsg mewn ogof yng nghrombil Craig y Dinas, Pontneddfechan, ym mhen uchaf Cwm Nedd yn ne Cymru.

Darllen Cefndir

Arthur in Medieval Welsh Literature gan Oliver James Padel. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru (2001).

Arthur's Britain. History and Archaeology AD367-634 gan Leslie Alcock. Cyhoeddwyd gan Harmondsworth (1971).

The Arthur of the Welsh. The Arthurian Legend in Medieval Welsh Literature gan Rachel Bromwich, A. O. H. Jarman a Brynley F. Roberts. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru (1991).

The Gododdin, a olygwyd gan A. O. H. Jarman. Cyhoeddwyd gan Wasg Gomer (1995).

Y Mabinogion, diweddariad gan Dafydd a Rhiannon Ifans. Cyhoeddwyd gan Wasg Gomer (2001). 

Dyddiad yr erthygl: 26 Ebrill 2007

+ Dangos sylwadau

---

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:
starstarstarstarstar

Delweddau:
starstarstarstarstar

Arddull a darllenadwyedd:
starstarstarstarstar