Rhagor - darganfod byd o gasgliadau

Aur 3,000 o flynyddoedd oed o Wrecsam

[delwedd: Y celc o arteffactau'r Oes Efydd a ddarganfuwyd gan ddatguddwyr metel ger Wrecsam.]

Y celc o arteffactau'r Oes Efydd a ddarganfuwyd gan ddatguddwyr metel ger Wrecsam.

[delwedd: Y gyllell efydd, a ddarganfuwyd mewn dau ddarn.]

Y gyllell efydd, a ddarganfuwyd mewn dau ddarn. Roedd rhiciau niferus ar hyd y llafn sy'n awgrymu, efallai, y cawsai ei defnyddio am beth amser cyn cael ei chladdu.

[delwedd: Y fwyell efydd yr oedd ei soced yn cynnwys darnau o ddwy neu ragor o freichledau aur.]

Y fwyell efydd yr oedd ei soced yn cynnwys darnau o ddwy neu ragor o freichledau aur.

[delwedd: Darnau o'r breichledau a wnaed, yn ôl pob tebyg, o aur Iwerddon.]

Darnau o'r breichledau a wnaed, yn ôl pob tebyg, o aur Iwerddon.

Yn Ionawr 2002, darganfuodd y datguddwyr metel Pete Williams a Mike Sheen gelc bach o waith metel o'r Oes Efydd ger Wrecsam. Mewn dim o dro, cafodd y celc hwn ei ddwyn i sylw archaeolegwyr, a aeth ati i archwilio'r safle lle y cafwyd hyd iddo.

Yn Ionawr 2002, darganfuodd y datguddwyr metel Pete Williams a Mike Sheen gelc bach o waith metel o'r Oes Efydd ger Wrecsam. Mewn dim o dro, cafodd y celc hwn ei ddwyn i sylw archaeolegwyr, a aeth ati i archwilio'r safle lle y cafwyd hyd iddo.

Mae'r arteffactau a ddarganfuwyd yn cynnwys cyllell efydd doredig, pen bwyell, a phedwar darn o freichledau aur. Cafodd y gwrthrychau i gyd eu llunio rhwng 1000 a 800CC.

Mae'r gyllell o'r math a ddefnyddiwyd ledled de Lloegr ac Iwerddon, ac mae ei ffurf yn efelychu cleddyfau mwy o lawer a gâi eu defnyddio bryd hynny. Fodd bynnag, dyma'r gyllell gyntaf o'i math i gael ei darganfod yng Nghymru.

Mae gan y pen bwyell efydd soced ar un pen iddo ac ynddo y gosodwyd coes bren, a thrwy'r ddolen sy'n rhan annatod o'r pen y gwthiwyd lledr neu gordyn er mwyn clymu'r pen yn dynn wrth y goes. Fodd bynnag, mae'n debyg y cafodd y pen bwyell ei gladdu heb y goes am y cafwyd hyd i bedwar darn o freichledau aur yn y soced. Mae'r darganfyddiadau gwerthfawr hyn yn cynnwys dwy derfynell (darnau pen) o fath a gâi ei ddefnyddio'n gyffredin yn Iwerddon, ac fe'u gwnaed, yn ôl pob tebyg, o aur Iwerddon.

Mae'n debyg bod yr arteffactau hyn yn eiddo i rywun uchel iawn ei barch oherwydd ychydig iawn o bobl yr adeg hon a fyddai wedi gallu cael gafael ar aur Iwerddon ac arfau mor gywrain. Ni chawn wybod i sicrwydd pam y penderfynodd eu perchennog gael gwared arnynt, ond mae'n debyg y cawsant eu claddu fel offrwm i'r duwiau.

Mae'r celc yn ychwanegu manylion gwerthfawr at ein gwybodaeth am fywyd yng Nghymru 3,000 o flynyddoedd yn ôl. Ar yr adeg hon, roedd arweinwyr yn gwisgo i greu argraff, drwy wisgo breichledau aur ac addurniadau gwallt ac roedd eu hoffer a'u arfau, pryd a gwedd eu ceffyl, a safon unrhyw wleddoedd yr oeddent yn eu trefnu'n adlewyrchu eu statws yn y gymuned.

Er bod y rhan fwyaf o drigolion Cymru'n ffermwyr sefydlog neu'n fugeiliaid yn ystod y cyfnod hwn, mae darganfyddiadau fel y celc o Wrecsam yn dangos bod y cymunedau bychain hyn yn rhan o'r rhwydweithiau masnachoedd yn cysylltu Cymru ag Iwerddon, ac yn dynodi bod ein cyndeidiau'n hel meddyliau am fwy na dim ond bwyd, ffermio a byw.

Mae'r eitemau hyn yn ffurfio rhan o gasgliadau Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Dyddiad yr erthygl: 26 Ebrill 2007

0 sylw

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:     

Delweddau:     

Arddull a darllenadwyedd: