Rydych chi yn: Archwilio'r Casgliadau > Bardd Cymraeg yn cwympo yn Flanders

Bardd Cymraeg yn cwympo yn Flanders

Hedd Wynn

Y gofgolofn i Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd.
Y gofgolofn i Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd.

Chwech wythnos wedi iddo gael ei ladd yng nghyrch Passchendaele ym 1917, fe enillodd y bardd Hedd Wyn y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw.

Aeth dros chwarter miliwn o ŵyr o Gymru i ymladd yn rhyfel 1914-1918. Yn eu plith roedd y bardd Ellis Humphrey Evans o Drawsfynydd, neu a rhoi iddo ei enw barddol, Hedd Wyn. Galwyd ef i'r rhyfel ym 1917, a'i anfon i ymladd yn Fflandrys. Yno fe'i lladdwyd ym mis Awst 1917 ar Gefnen enbyd Pilckem, ar ddechrau'r cyrch ar Passchendaele.

Y Gadair Ddu

Y Gadair Ddu ym mharlwr Yr Ysgwrn, cartref Hedd Wyn (gyda chaniatâd caredig Mr Gerald Williams).
Y Gadair Ddu ym mharlwr Yr Ysgwrn, cartref Hedd Wyn (gyda chaniatâd caredig Mr Gerald Williams).

Chwech wythnos wedi ei farwolaeth dyfarnwyd iddo'r Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw am ei awdl Yr Arwr, cerdd a gwblhaodd byr amser yn unig cyn ei farw. Yn ystod defod y cadeirio taenwyd gorchudd du dros y Gadair ei hun, a byth ers hynny adwaenir hi fel Y Gadair Ddu.

Ymosodiad ar Gefnen Pilckem

Yr Ysgwrn, cartref Hedd Wyn.
Yr Ysgwrn, cartref Hedd Wyn.

Bu Mr Simon B. Jones, Aberangell (ganed 1893), yn gwasanaethu yn yr un gatrawd â Hedd Wyn, a honnai iddo ei weld yn disgyn ar faes y gad. Dyma ei dystiolaeth ef, fel y'i cofnodwyd gan Amgueddfa Werin Cymru ym 1975:

"Dydd ola o Orffenna', 'dech chi'n gweld, diwrnod cynta'r frwydyr fwya fuo yn y byd 'ma 'rioed ma'n debyg. Brwydyr Passchendaele. A oen ni'n mynd drosodd hanner awr wedi pedwar. Odden ni'n cychwyn dros Canal Bank yn Ypres ag - y mi lladdwyd o ar hanner Pilckem. Ac ma 'ne lawer iawn wedi clywed - 'dw i wedi clywed llawer yn sôn bod nhw hefo Hedd Wyn, a fel hyn ag fel arall. Wel, ôn i hefo fo fel bachgen o Llanuwchllyn a fynta o Drawsfynydd ag mi gweles o'n syrthio. A mi allaf ddeud mae nosecap shell yn 'i fol lladdodd o, wyddoch chi. Ôch chi'n medru gwbod hynny. O, allech chi ddim sefyll hefo fo mae'n wir. Odd rhaid ichi ddal i fynd, 'de.

Pryd welsoch chi o ola', hynny ydy, i siarad hefo fo?

O, mae'n anodd i mi ddeud. Falle 'mod i'n siarad efo fo'r bore hynny, yndê. Achos... trwy 'mod i'n weld o yn cael 'i ladd odd rhaid 'mod i'n agos iddo. A dwi'n cofio'r peth mor dda bod gennon ni officer yn lidio ni i fyny. Newman oedd 'i enw fo, Lieutenant Newman, ag odd hwnnw'n mynd o 'mlaen i. A mi weles o'n disgyn ar 'i linie ac yn cydio mewn dwy ddyrned o faw, yndê. Wel, doedd 'na ddim ond pridd yno, wyddoch chi. Oedd y lle wedi 'i falu ymhob man, yndê. Marw 'roedd o wrth reswm, yndê. Ia...

Beth wnaethoch chi? Och chi'n gallu gneud rywbeth wedi ichi weld Hedd Wyn yn... ?

O, dim o gwbwl. Nagoedd. Odd bear - stretcher bearers ma'n debyg yn dod fyny tu nôl i ni, 'dech chi'n gweld, 'te. Oedd 'ne ddim - wel, fysech yn torri'r rheole mewn ffor' tasech chi'n mynd i helpu un wedi 'i glwyfo pan ôch chi mewn attack. Busnes chi oedd dal i fynd, 'de.

Sut oddech chi'n teimlo pen welsoch chi'ch cyfaill yn disgyn?

Wel, wel, ddeuda'i 'chi'n union. Deud y gwir wrthoch chi, odd o ddim yn amser ichi gydymdeimlo dim ryw ffor' am y rheswm wyddech chi ddim na mewn dwylath fysech chithe 'run fath â fo, yndê."

Yr Arwr

Tudalen gyntaf cerdd Hedd Wyn 'Yr Arwr' yn ei lawysgrifen ei hun.
Tudalen gyntaf cerdd Hedd Wyn 'Yr Arwr' yn ei lawysgrifen ei hun.

Roedd Hedd Wyn yn un o blith 32,000 o filwyr a laddwyd yn ystod yr ymosodiad ar Gefnen Pilckem. Ni chipiwyd pentref drylliedig Passchendaele hyd Dachwedd 6ed, 98 diwrnod wedi i'r frwydr gychwyn.

Pris uchel

Cyfweld Gerald Williams, nai Hedd Wyn yn y cartref teuluol Yr Ysgwrn

Talwyd pris uchel am yr ymgripio araf hwn dros brin bum milltir o dir: bu farw 310,000 o luoedd y Cynghreiriaid a 260,000 o Almaenwyr. Erys y Gadair Ddu yn arwydd grymus o effaith ddychrynllyd y Rhyfel Byd Cyntaf ar gymunedau trwy Gymru benbaladr, ac addewid coll cenhedlaeth gyfan o ŵyr ifainc o Gymry.

Dyddiad yr erthygl: 25 Ebrill 2007

+ Dangos sylwadau

---

Gadael sylw


Geirfa

Eisteddfod
Gŵyl o lenyddiaeth, cerddoriaeth a chanu Cymreig.

Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:
starstarstarstarstar

Delweddau:
starstarstarstarstar

Arddull a darllenadwyedd:
starstarstarstarstar