Rhagor - darganfod byd o gasgliadau

Bwydydd traddodiadol Cymru

[delwedd: Mrs Margaret Maddocks, Corneli Uchaf, Morgannwg, yn crasu pice ar y mân mewn ffwrn dun.]

Mrs Margaret Maddocks, Corneli Uchaf, Morgannwg, yn crasu pice ar y mân mewn ffwrn dun. Math ar sgrin dunplat oedd y ffwrn dun, a ddefnyddid yng nhymunedau diwydiannol y de a'r gogledd. Crogwyd darnau bach o gig ar y bachau y tu mewn i'r caead adlewyrchol crwm a gosodwyd y ffwrn gyfan ar drybedd (math o fraced haearn) o flaen y tân. Roedd hi hefyd yn bosibl pobi ffefrynnau amser te, megis teisen lap, yn y badell doddion fas.

[delwedd: Tân ar y llawr yng nghegin Pont-faen, Ciliau Aeron, Ceredigion.]

Tân ar y llawr yng nghegin Pont-faen, Ciliau Aeron, Ceredigion. Crogwyd crochan o haearn bwrw ar graen dau-symudiad uwchlaw y tân, gellid symud y grochan yn agosach neu ymhellach i ffwrdd o'r gwres.

Beth yw bwydydd traddodiadol Cymru?

Tra bod amryw o arferion coginio Lloegr wedi treiddio lawr o'r bonedd, tyfu'n llythrennol o'r tir wnaeth bwydydd traddodiadol Cymru. Wrth deithio trwy Gymru yn 1188, sylwodd Gerallt Gymro fod y rhan fwyaf o'r boblogaeth yn ddibynnol ar anifeiliaid, llaeth, caws, menyn a cheirch am eu bwyd. Yn gyffredinol, dyma oedd cynhaliaeth y Cymry ymhell i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ceir cadarnhad yn Adroddiad y Comisiwn Brenhinol ar Dir yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn 1896, fod tyddynwyr a thenantiaid yn llwyr ddibynnol ar gig wedi ei halltu a'i sychu, llysiau cartref, cynnyrch llaeth a bwydydd llwy yn seiliedig ar geirch. Byddai ffermwyr a thyddynwyr yn pesgi ac yn lladd o leiaf un mochyn a halltu'r cig i'w cynnal am y flwyddyn. Ar y ffermydd mwyaf, arferid lladd bustach neu fuwch hesb a rhennid y cig rhwng ffermydd cyfagos.

Wrth gadw gwartheg, doedd dim prinder o laeth ar gyfer cynhyrchu menyn a chaws.Tyfid llysiau yn y caeau neu'r ardd - cennin, moron, bresych, perlysiau yn bennaf, a thatws o'r ddeunawfed ganrif ymlaen. Câi ffrwythau, planhigion ac aeron a dyfai'n wyllt ac anifeiliaid ac adar gwyllt eu hela yn eu tymor, a gallai cymunedau a drigai'n agos i'r arfordir amrywio eu hymborth drwy gasglu pysgod cregyn megis cocos, cregyn gleision, gwichiaid a llygaid meheryn, a gwymon i wneud bara lawr.

Gan mai gwlad fynyddig yw Cymru, ceirch a haidd oedd y cnydau a dyfai orau, gyda gwenith wedi ei gyfyngu i'r dyffrynnoedd ffrwythlon. Blawd ceirch yn ei amrywiol ffurf oedd sylfaen amryw o'r bwydydd. Roedd llymru a sucan, sef blawd ceirch wedi ei fwydo mewn dŵr oer a llaeth enwyn, ei ferwi hyd nes iddo gyrraedd yr ansawdd priodol, a'i weini'n lled oer â llaeth neu driog, ynghyd â bwdram, uwd a griwel blawd ceirch, ymhlith y prydau bob dydd a gâi eu paratoi yn yr ardaloedd gwledig hyd flynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif.

Y bara a fwyteid gan amlaf, ar hyd a lled Cymru hyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, oedd bara ceirch a luniwyd ar ffurf torthau tenau crwn a'u crasu ar y maen neu radell dros dân agored. Yn siroedd y gogledd fe'i defnyddid fel sylfaen i rai o'r bwydydd llwy, megis picws mali neu siot; pryd ysgafn boblogaidd a baratoid drwy falu tafell o fara ceirch yn fân a'i fwydo mewn llaeth enwyn. Pryd arall oedd yn boblogaidd yn ardaloedd amaethyddol y gogledd oedd brŵes ac fe'i paratoid yn rheolaidd ar gyfer brecwast gweision ffermydd. Fe'i gwneid drwy falu bara ceirch a'i fwydo mewn cawl cig, yna ychwanegu haen drwchus o fara ceirch wedi'i malu ar yr wyneb yn union cyn ei fwyta.

I raddau helaeth, roedd y gymdeithas wledig yng Nghymru yn hunangynhaliol. Yr unig nwyddau oedd rhaid i wraig y tŷ eu prynu oedd siwgr, halen, te, reis a chwrens. Ar y Sul ac ar achlysuron arbennig, arferid prynu darn o gig gan y cigydd lleol ar gyfer cinio rhost, a pharatoi phwdin reis cartref i ddilyn. Ychydig iawn o ffrwythau ffres a brynid a dim ond ar rai achlysuron arbennig iawn y bwyteid wyau. O ystyried y deunydd crai, roedd angen cryn ddyfeisgarwch er mwyn darparu bwydlen amrywiol o ddydd i ddydd. Roedd paratoi amrywiaeth o fwydydd llwy o un cynhwysyn sylfaenol, sef bara ceirch, yn gofyn am ddawn arbennig. Roedd angen medrusrwydd tebyg wrth baratoi cawl a lobsgows, gan ddefnyddio cig cartref.

Y tân agored a'i offer amrywiol oedd canolbwynt y coginio drwy gydol y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac ymhell i'r ugeinfed ganrif mewn nifer o gartrefi gwledig. Roedd yr adnoddau coginio cyfyngedig hefyd yn rheoli'r hyn y gellid ei baratoi. Câi stiwiau, darnau o gig a phwdinau eu berwi mewn crochan. Defnyddid ffyrnau crochan ar gyfer rhostio cig a phobi teisennau a thartennau ffrwythau a gwneid defnydd helaeth o'r radell i bobi torthau ceirch, leicecs, bara soda, crempog a theisennau gradell (fel pice ar y mân). Yn ogystal, defnyddid berau, ffyrnau tun a berau potel ar gyfer rhostio cig.

Er i'r traddodiad o fyw ar gynnyrch y tir barhau hyd gyfnod mwy diweddar yn yr ardaloedd gwledig, daeth newid yn sgil gwell ffyrdd a chyfleusterau siopa modern, heb sôn am ddyfodiad oergelloedd a rhewgelloedd i'r cartref. Heddiw, caiff y rhan fwyaf o'r bwydydd a grybwyllwyd uchod eu bwyta fel 'bwyd traddodiadol' ar achlysuron arbennig.

Darllen Cefndir

Amser Bwyd
Baking in Wales
Domestic Life in Wales gan Minwel S. Tibbott. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru ac Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (2002).
First Catch your Peacock: A Book of Welsh Food gan Bobby Freeman. Cyhoeddwyd gan Image Imprint (1980).
Dysgl Bren a Dysgl Arian gan R. Elwyn Hughes. Cyhoeddwyd gan Y Lolfa (2003).
Gwraig Orau o'r Gwragedd gan Enid Pierce Roberts. Cyhoeddwyd gan Gwasg Pantycelyn (2003).

Dyddiad yr erthygl: 23 Ebrill 2007

5 sylw

Nick Sombobma ar 29 Ebrill 2013, 17:08

Great site

Dom ar 25 Chwefror 2010, 09:05

We compiled a list at http://www.welshicons.org.uk/html/food___drink.php

ya maa :') ar 29 Ebrill 2009, 10:24

yumyum

616 ar 20 Ebrill 2009, 09:28

Good I suppose

Jeff Houseman ar 3 Tachwedd 2008, 12:14

This is great...

Gadael sylw


Geirfa

Ffwrn Iseldireg
Sgrin fach o dunplat, a welwyd yn aml yng nghymunedau diwydiannol gogledd a de Cymru. Byddai darnau bach o gig yn cael eu hongian o'r bachau y tu mewn i'r lwfer crwn adlewyrchol, a safai'r ffwrn gyfan ar drybedd (braced haearn) o flaen y tân. Roedd modd pobi ffefrynnau amser te fel cacennau crwn, neu deisen lap yn yr hambwrdd diferion bas.

Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:     

Delweddau:     

Arddull a darllenadwyedd: