Rydych chi yn: Archwilio'r Casgliadau > Gwyliau mabsant

Gwyliau mabsant

Gŵyl mabsant

Gêm pumoedd
Yn aml, chwaraeid pumoedd — math o sboncen gyntefig — yn erbyn muriau'r eglwys. Delweddau o The Cambrian Popular Antiquities, Peter Roberts (1815).

Gwylmabsant oedd un o wyliau mwyaf poblogaidd calendr y Cymry. Ymgysegriad gweddïgar i goff'u sant y plwyf lleol oedd y dathliad blynyddol hwn yn wreiddiol, ond datblygodd i fod yn ŵyl â chanddi raglen o weithgareddau hamdden i bawb eu mwynhau.

Roedd gwyliau mabsant, a gofnodwyd am y tro cyntaf ym 1470, yn gyffredin ledled Cymru hyd ail hanner y 19g. Ym 1803, disgfrifiodd yr awdur Benjamin Malkin firi plwyfi Sir Faesyfed fel "rendered a kind of circus for every sport and exercise", a mynnai un o bersoniaid Dyffryn Clwyd, a ddyfynnwyd gan Elias Owen ym 1886, fod gwylmabsantau yn rhoi "an individuality to parochial life and fostered parish patriotism".

Ymhlith y gemau a chwaraeid yn gyson roedd gwahanol fathau o fabolgampau, gan gynnwys rhedeg rasys, cystadlaethau crechwenu ar gyfer hen wragedd, a gyrru berfâu â mwgwd am y llygaid. Yn y mabolgampau a gynhelid dros gyfnod o dri diwrnod yn Llangyfelach ger Abertawe ym 1780, roedd y cystadlaethau a'r gwobrau yn cynnwys ras i ferched a oedd yn ymgiprys am smoc a betgwn, bwyta pwdin poeth am lwy bwrdd arian, a baetio tarw, gornest y dyfarnwyd llo tarw i berchennog y ci gorau. Roedd chwaraeon yn ymwneud ag anifeiliaid yn dra chyffredin, yn enwedig ymladd ceiliogod lle byddai pobl yn betio arian mawr ar yr ymrysonau. Câi'r ceiliogod eu hyfforddi ar gyfer yr ymryson, ac roedd perchennog ceiliog talwrn buddugol yn cael parch mawr.

Câi math ar bêl-droed ei chwarae dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd ac adeg Gŵyl y Gyffes. Deuai torfeydd mawr ynghyd i wylio'r gemau, ac oherwydd nad oedd unrhyw reolau pendant yn perthyn iddynt, roedden nhw'n tueddu i droi'n ymrysonau ymladdgar lle câi chwaraewyr eu hanafu.

Bando oedd un o'r hoff gemau eraill ar gyfer timoedd ac roedd yn cael ei chwarae mewn rhai ardaloedd hyd ddiwedd y 19g. Yn boblogaidd iawn ym Morgannwg, roedd bando yn debyg i hoci heddiw a defnyddiai timoedd ffyn i daro'r bêl tua'r gôl. Roedd y gêm yn cynnwys elfennau oedd yn rhan hanfodol o chwaraeon ar hyd y canrifoedd ac a oedd yn rhagflas o gemau trefnedig. Roedd y rhain yn cynnwys nifer benodedig o chwaraewyr, maes chwarae penodedig, timau mewn gwisgoedd o liw gwahanol (megis y rhai coch a gwyn a ddewiswyd gan dîm Margam, gorllewin Morgannwg), gamblo ar ganlyniadau, a gemau a gâi eu noddi'n hael gan fragwyr.

Betio, gwledda a diota

Ymladd ceiliogod
Roedd ymladd ceiliogod yn nodwedd amlwg o'r calendr gwledig, ac roedd yn boblogaidd ymhlith y Cymry yn gyffredinol hyd flynyddoedd cynnar y 19g.

O ystyried y cyfuniad o fetio, gwledda a diota, nid oedd yn syndod fod gwyliau plwyfi yn ennill enw drwg am eu twrw. Chwaraeai tafarnwyr ran flaenllaw yn y gwaith o drefnu a hyrwyddo mabolgampau yn aml, a threfnwyd nifer o ymladdfeydd ceiliogod, rasys a chystadlaethau o'r fath dros ddiod. Yn amlach na pheidio, roedd y gemau a chwaraeid yn ddigwyddiadau eithaf brwd ac yn aml câi rheolau anysgrifenedig eu llunio cyn dechrau unrhyw gêm. Oherwydd fod nifer o chwaraeon yn ddigwyddiadau lleol, amrywiai'r rheolau o le i le, gan arwain at anghytundebau rhwng plwyfi.

O ddiwedd y 18g. ymlaen, mynegodd mwy a mwy o bobl, ac yn enwedig arweinwyr crefyddol, eu consyrn am y rhialtwch didrwydded a'r goryfed a ddigwyddai'n gyson adeg y gwyliau, yn ogystal â'u pryder am fendithion amheus y gemau eu hunain.

Ymosododd y Diwygiad Methodistaidd a diwygiadau eraill a ysgubodd ar draws Cymru rhwng canol y 18g. a blynyddoedd cynnar yr 20g., ar chwaraeon o bob math yn ddiwahân gan hawlio eu bod yn ddiwerth ac yn bechadurus. Mynnai rhai fod gweithgareddau hamdden yn fygythiad mawr i foesau'r boblogaeth, a cheisiai arweinwyr crefyddol adnabyddus fel Thomas Charles a Griffith Jones atal cynnal ffeiriau a gwyliau annuwiol. Ym 1799 honnai Griffith Jones fod Cymru yn "sunk in superstition and vice". O ganlyniad, troai plwyfolion fwyfwy tua'r eglwysi a'r capeli am ollyngdod a achubiaeth, a chan fod cyfarfodydd gweddi yn cael eu trefnu'n fwriadol weithiau i gyd-daro â mabolgampau, daeth crefydd yn rym yn nirywiad a thranc gweithgareddau o'r fath.

"Gŵyl Mabsant" gan T.Llew Jones. Yn Llafar Gwlad tt.10-11 (Gaeaf, 1997), tt.8-9 (Gwanwyn, 1998).

"Festivals and social structure in early modern Wales" gan Richard Suggett. Yn Past and Present, cyf. 152, tt. 79-112 (Awst, 1996).

Dyddiad yr erthygl: 7 Medi 2007

+ Dangos sylwadau

---

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:
starstarstarstarstar

Delweddau:
starstarstarstarstar

Arddull a darllenadwyedd:
starstarstarstarstar