Rhagor - darganfod byd o gasgliadau

Cymru – y wlad ddiwydiannol gyntaf

Diwydiant yng Nghymru

[delwedd: Glofa Lewis Merthyr yng Nghwm Rhondda]

Y ddelwedd nodweddiadol o'r Gymru ddiwydiannol – glofa Lewis Merthyr yng Nghwm Rhondda, tua 1910.

Erbyn 1850, roedd diwydiant yng Nghymru'n cyflogi mwy o bobl nag amaethyddiaeth ac o ganlyniad, Cymru oedd gwlad ddiwydiannol gyntaf y byd. Cafodd economi a chymdeithas y wlad eu trawsnewid yn llwyr.

Roedd llawer o fwynau gwerthfawr yn y creigiau yng Nghymru, a hebddynt ni fyddai'r cilcyn hwn o ddaear wedi dod yn wlad ddiwydiannol. Wrth gwrs, glo oedd y pwysicaf ohonynt i gyd. Pan oedd y diwydiant ar ei anterth ym 1913, byddai meysydd glo'r wlad yn cynhyrchu rhyw 61 miliwn o dunelli metrig, ac roedd gan lo Cymru ddylanwad economaidd byd-eang tebyg i ddylanwad olew heddiw. Roedd llechi Cymru yn diddosi toeau tai a ffatrïoedd cymunedau diwydiannol ledled Prydain a dros y môr.

Haearn Cymru

[delwedd: Chwarelwyr yn hollti darn mawr o lechfaen yn chwarel Dinorwig, tua 1920.]

Chwarelwyr yn hollti darn mawr o lechfaen yn chwarel Dinorwig, tua 1920.

Diolch i gyfuniad o ddeunyddiau crai a'r datblygiadau technolegol pwysig a arloeswyd yng Nghymru cafodd cynnyrch a nwyddau o bwys rhyngwladol eu cynhyrchu. Yn ystod y 18fed ganrif câi llongau pren y Llynges Frenhinol eu gorchuddio â chopr o Gymru a byddai canonau o haearn Cymru ar eu byrddau. Yn y 19eg ganrif, cledrau o Gymru oedd y ddolen gyswllt rhwng UDA a Rwsia'r Tsariaid, ac yn ystod y 1870au arloeswyd y 'broses fasig' o gynhyrchu dur ym Mlaenafon. Dyma broses a ddefnyddir hyd heddiw.

Arweiniodd y galw am y deunyddiau hyn mewn mannau eraill at ddatblygiadau pwysig mewn cludiant a arloeswyd yng Nghymru. Mae seilwaith cludiant Cymru'n cynnwys campweithiau peirianneg sifil enwog fel traphont ddŵr Pontcysyllte, pontydd Menai a Chonwy a rhai o ddociau mwyaf y byd yn ystod y cyfnod. Cwblhaodd y locomotif ager llwyddiannus cyntaf yn y byd ei siwrnai drwy Ferthyr Tudful ym 1804, ac agorwyd rheilffordd cludo teithwyr gyntaf y byd gludo teithwyr yn y Mwmbwls ym 1807. Trafodwyd llwythi enfawr o gynnyrch – ym 1913, cludwyd tua 40 miliwn o dunelli metrig o lo i borthladdoedd de Cymru ar hyd y rheilffyrdd, i'w hallforio yn howldiau llongau cargo oedd yn eiddo i Gymry ac yng ngofal criwiau o Gymry.

Radicaliaeth ddosbarth gweithiol

[delwedd: Anghydfod diwydiannol chwerw arall oedd streic glofa'r Cambrian yng Nghwm Rhondda Fawr ym 1912.]

Anghydfod diwydiannol chwerw arall oedd streic glofa'r Cambrian yng Nghwm Rhondda Fawr ym 1912.

Arweiniodd y galw am weithwyr yn y cymunedau diwydiannol at ymfudiad yng Nghymru yn hytrach nag allfudiad torfol. Rhwng 1760 a 1914, symudodd rhyw ddwy ran o dair o'r boblogaeth i fyw ac i weithio yn ne-ddwyrain diwydiannol y wlad. Arweiniodd gwaith caled mewn diwydiannau peryglus ar draddodiad balch o radicaliaeth ddosbarth gweithiol – codwyd y Faner Goch am y tro cyntaf yn ystod Terfysgoedd Merthyr ym 1831, a streic Chwarel y Penrhyn rhwng 1900 a 1903 oedd yn un o'r anghydfodau hiraf yn hanes diwydiannol y DU. Cymry fu'n gyfrifol am rai o welliannau cymdeithasol pwysicaf yr ugeinfed ganrif; cyflwynodd Lloyd George bensiwn yr henoed ym 1909, a rhoddodd Aneurin Bevan y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol i Brydain ym 1948.

Mae gweithgarwch diwydiannol yng Nghymru wedi newid yn llwyr yn ystod y trigain mlynedd diwethaf. Mae nifer o ddiwydiannau trwm wedi diflannu bron; a mentrau uwch-dechnoleg, ysgafn wedi cymryd eu lle. Mae menywod yn chwarae rhan bwysicach o lawer yn y byd gwaith. Erbyn hyn, mae 60% o'r gweithlu'n cael eu cyflogi yn y sector gwasanaethau. Ond, mae Cymru yn dal i gynhyrchu 20% o lo'r DU a bron i 100% o ddur dalennog y DU. Nid yw'r hen ddiwydiannau wedi llwyr ddiflannu eto!

darllen Cefndir

[delwedd: Un o weithfeydd haearn mawr de Cymru: gwaith haearn Dowlais fel y'i portreadwyd gan George Childs ym 1840.]

Un o weithfeydd haearn mawr de Cymru: gwaith haearn Dowlais fel y'i portreadwyd gan George Childs ym 1840.

Hanes Cymru, penodau 7-10, gan John Davies. Cyhoeddwyd gan Penguin Books (1993).

Industrial Archaeology of Wales gan Morgan D. Rees. Cyhoeddwyd gan David & Charles (1975).

When was Wales?, penodau 9-13, gan Gwyn A. Williams. Cyhoeddwyd gan Penguin Books (1985).

Dyddiad yr erthygl: 5 Hydref 2008

2 sylw

harriet crisp ar 9 Rhagfyr 2011, 15:50

Today i went to st. fagans. IT WAS AMAZING!!!! I came with school

Siara ar 2 Medi 2010, 09:25

very good !

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:     

Delweddau:     

Arddull a darllenadwyedd: