Rhagor - darganfod byd o gasgliadau

200 Mlynedd o Flaengaredd Diwydiannol yng Nglynebwy

Cwmni Dur, Haearn a Glo Glynebwy

[delwedd: Gweithfeydd Haearn Abersychan, 1866, a redwyd gan Gwmni Glynebwy, 1852-83]

Gweithfeydd Haearn Abersychan, 1866, a redwyd gan Gwmni Glynebwy, 1852-83

Cwmni Dur, Haearn a Glo Glynebwy oedd un o brif gynhyrchwyr haearn y de yng nghanol y 19eg ganrif. Roedd o bwys rhyngwladol, nid yn unig am ei faint, ond hefyd am ei flaengaredd technolegol.

Can mlynedd yn ddiweddarach, y cwmni oedd y cyntaf ym Mhrydain i ddefnyddio technegau Americanaidd i gynhyrchu dur a thunplat. Heddiw, y cwmni yw prif gynhyrchwr tunplat Prydain.

1790, y Ffwrnais Chwyth cyntaf

[delwedd: Ffwrneisi chwyth Glynebwy, tua 1900]

Ffwrneisi chwyth Glynebwy, tua 1900

Mae gwreiddiau gweithfeydd Glynebwy yn ymestyn yn ôl i 1790, pan sefydlwyd ei ffwrnais chwyth cyntaf. Y teulu Halford oedd y perchnogion rhwng 1796 ac 1844, a bu'r gweithfeydd yn llwyddiant yn ystod y cyfnod hwn. Bu'n arloesol ym maes rholio cledrau, gan ddarparu cledrau ar gyfer rheilffordd Stockton a Darlington ym 1829.

Yn yr un cyfnod, arbrofodd y cwmni gyda locomotifau — un o'r gweithfeydd haearn cyntaf yn y de i wneud hynny. Ffurfiwyd Cwmni Glynebwy ym 1848, a ffynnodd y gweithfeydd. Ymgorfforwyd pedwar gwaith haearn arall yn Abersychan, Sirhywi a Phont-y-pŵl.

Y gwaith dur cyntaf ym Mhrydain

[delwedd: Melin arw mewn gwaith dur, 1907]

Melin arw mewn gwaith dur, 1907

Roedd y cwmni'n arloeswr yn y broses o droi haearn gyr yn ddur. Cynhaliodd ei arbrofion ei hun ym 1854, ac agorodd un o'r gweithfeydd dur cyntaf ym Mhrydain ym 1866.

Dirywiodd y gweithfeydd yn yr 1870au a'r 1880au oherwydd rheolaeth wael, ond bu ehangiad cyflym y diwydiant glo yn ddigon i arbed y gwaith rhag cau.

Adfywiad yr 20fed ganrif

Adfywiwyd y gweithfeydd haearn a dur ar ddechrau'r 20fed ganrif, a bu ffyniant marchnad glo stêm Cymru'n help i sefydlu'r cwmni fel prif gwmni haearn a glo integredig Cymru.

Cau a chaledi

Erbyn y 1920au cynnar roedd y cwmni'n cyflogi 34,000 o ddynion. Cynyddwyd ei ddyledion i ariannu ehangiad mewn cyfnod pan oedd y diwydiannau dur a glo yn dirywio'n sylweddol. Arweiniodd hyn at gau'r gweithfeydd a gwerthu'r glofeydd ym 1929.

Adfywiad ac ehangiad gyda thunplat

[delwedd: Melin arw mewn gwaith dur, 1907]

Melin arw mewn gwaith dur, 1907

O ganlyniad i'r caledi mawr a'r diweithdra yn y dref, penderfynodd y Llywodraeth y dylid gosod melin stribed dur cyntaf Prydain yng Nglynebwy. Ail-adeiladwyd y gweithfeydd ym 1936-38 o dan berchnogaeth Richard Thomas & Company, cynhyrchwyr tunplat mwyaf Prydain.

Cafodd y gweithfeydd newydd hwb pellach ym 1947, pan gosodwyd llinell tunplat electrolytig cyntaf Ewrop yno. Parhawyd i foderneiddio ac ehangu pob rhan o'r gweithfeydd, ac ym 1960 gosodwyd y Trawsnewidydd LD cyntaf Prydain yn y gwaith dur.

Y cynhyrchwr tunplat mwyaf ym Mhrydain

Bu rhesymoliad y diwydiant dur ar ôl ei wladoli ym 1967 yn gyfrifol am leihau cyfanswm y dur a gynhyrchwyd yng Nglynebwy, a chaewyd y gwaith dur ym 1978. Ers hynny canolbwyntiodd y gwaith ar gynhyrchu tunplat a galfaneiddio, gan ddatblygu i fod yn brif gynhyrchwr tunplat Prydain. Caewyd y gwaith yn 2002.

Dyddiad yr erthygl: 10 Ebrill 2007

3 sylw

Amgueddfa Cymru ar 21 Chwefror 2011, 11:18

Dear Geoff, thank you pointing this out, we have now corrected the captions.

Geoff Palfrey ar 21 Chwefror 2011, 10:16

You have the photos of the taphole and roughing stand transposed
Thanks
Geoff

alex ar 15 Mai 2009, 14:05

mae llyniau ac gwybodaeth yn da i plant eu daeall

Gadael sylw


Geirfa

Haearn Gyr
Haearn sydd wedi cael ei weithio ('gyrru') drwy ei forthwylio ar efail.

Erthygl gwreiddiol

Cliciwch i lawrlwytho'r erthygl gwreiddiol.

ebbw vale.pdf
306 KB

Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:     

Delweddau:     

Arddull a darllenadwyedd: