Rydych chi yn: Archwilio'r Casgliadau > Celfyddyd Geltaidd - Gwreiddiau a Chwedlau

Celfyddyd Geltaidd - Gwreiddiau a Chwedlau

Y Celtiaid

Y darn harnais o'r Oes Haearn Hwyr o Alltwen
Y darn harnais o'r Oes Haearn Hwyr o Alltwen

Mae astudio gwahanol arddulliau celf 'Geltaidd' ar waith metel yn gymorth i ddeall pobloedd Ewrop yn Oes yr Haearn. Defnyddiwyd celfyddyd La Tène, sef yr enw cywir amdano, ar draws Ewrop o ddiwedd y 5ed ganrif CC ymlaen. Roedd y gelfyddyd yn gwbl wahanol i arddulliau'r byd Canoldirol clasurol, a ddefnyddiai ffurfiau naturiol mewn arddull a lifai'n rhydd.

Credir mai'r Celtiaid oedd yn gyfrifol am gynhyrchu'r arddulliau La Tène cynnar. Roeddent yn bobl oedd yn rhannu ieithoedd, cymdeithasau a chredoau crefyddol paganaidd cyffelyb. Heriwyd y dyb yma'n ddiweddar; heddiw mae arbenigwyr yn credu bod arddulliau gwaith metel tebyg yn awgrymu i'r math yma o gelfyddyd groesi ffiniau diwylliannol, ac na wnaeth, o reidrwydd, aros o fewn ffiniau un hunaniaeth ethnig arbennig.

Mae gan Gymru nifer o ddarganfyddiadau o waith metel wedi'u haddurno yn yr arddulliau celf La Tène, ac mae esiamplau ohonynt yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Enamelau Gwydr

Dadansoddi samplau yn defnyddio Microsgop Scanio Electron
Dadansoddi samplau yn defnyddio Microsgop Scanio Electron

Meistrolwyd y dechneg o osod 'enamel' coch ar waith metel addurnedig gan weithwyr metel ym Mhrydain o'r 3ydd ganrif CC ymlaen. Math o wydr yw'r enamel mewn gwirionedd, a osodir drwy dorri darnau i'r siapiau cywir; cynheswyd y darnau yn ofalus nes eu bod yn feddal, cyn eu gwthio i mewn i'r gwaith metel. Darganfuwyd esiampl wedi ei addurno drwy gelfyddyd La Tène, gyda'r enamel coch, yn Alltwen ger Pontardawe (Castell Nedd - Port Talbot), a brynwyd gan Amgueddfa Cymru.

Mae'r darganfyddiad wedi codi cwestiynau ynghylch gwrthrychau enamlog ac addurnedig o Oes yr Haearn. Pa mor debyg (neu wahanol) oedd traddodiadau gwaith metal gogledd a de Cymru? A fu Aber yr Afon Hafren yn rhwystr neu'n ffocws diwylliannol i weithwyr metel rhwng De Cymru a de-orllewin Lloegr yn ystod yr Oes Haearn hwyr? Sut mae'r 'enamelau' (gwaith gwydr) yma'n dirywio?

Tynnu samplau i'w dadansoddi

Crysialau cwprit o fewn i�r matrics gwydr
Crysialau cwprit o fewn i'r matrics gwydr

Ymhlith yr eitemau a ddewiswyd ar gyfer eu hastudio roedd darn o gyfrwy ceffyl o Gaerdydd, Powlen yr Wyddfa (Gwynedd) gyda'r motiff sy'n debyg i gath, a detholiad o offer marchogaeth o gelc Blaendulais (Castell Nedd - Port Talbot), yn ogystal â darganfyddiad Alltwen. Cymerwyd samplau bach o enamel o'r gwrthrychau; gosodwyd a chabolwyd hwy ar sleid microsgop. Gwnaed dadansoddiadau o samplau gan ddefnyddio Microsgop Sganio Electron a dadansoddiad Pelydr-x.

Astudiwyd strwythur yr enamelau hefyd, drwy ddefnyddio cyfuniad o olau trosglwyddedig ac achlysurol gan ddefnyddio microsgop polareiddio golau.

Mae canlyniadau'r dadansoddi'n dangos gwydr 'calch-soda', a oedd yn cynnwys llawer o blwm a chopr. Dyma sydd yn gyfrifol am liw coch llachar ac anhryloywder y gwydrau hyn. Mae'r broses o'u cynhyrchu'n un ddatblygedig yn dechnegol, a gellir eu cynhyrchu yn unig drwy reoli cynhwysion y gwydr ac amodau'r ffwrnais yn ofalus.

Mae'r canlyniadau'n dangos bod gwrthrychau enamel o dde Cymru'n cyfateb yn weddol agos i'r rhai o dde-orllewin Lloegr; Fodd bynnag, mae'r enamel ar Bowlen yr Wyddfa yn wahanol iawn i'r gweddill. Awgryma hyn bod y broses o gynhyrchu'r gwydrau yn amrywio o ardal i ardal yng Nghymru.

Dyddiad yr erthygl: 2 Ebrill 2007

+ Dangos sylwadau

---

Gadael sylw


Geirfa

La Tène
Pentref ger y Neuenburger See yw La Tène. Yn ogystal â bod yn safle archeolegol dyma safle'r diwylliant La Tène o Oes yr Haearn.

Celtiaid
Grŵp o bobloedd a fu'n byw yng nghanolbarth a gorllewin Ewrop yn ystod yr Oes Haearn.

Pagan
Unigolyn sy'n arddel crefydd o gyfnod cynharach na Christnogaeth.

Enamel
Farnais lliwgar, neu baent sglein uchel. Yn gyffredinol, defnyddir y term ar gyfer paent o safon uchel sy'n gwrthsefyll budreddi (i'w ddefnyddio y tu mewn fel arfer) gyda lefel o ddisgleirdeb o sglein i loyw.

MSE (Microsgop Sganio Electron)
Microsgop sy'n defnyddio pelydr electron wedi'i ffocysu'n fanwl a'i sganio ar draws sampl i gynhyrchu delweddau o eglurder uchel. Gall MSE gydrannu nodweddion llawer llai na microsgop cyffredin, mor fanwl â thua 2 nanometr.

Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:
starstarstarstarstar

Delweddau:
starstarstarstarstar

Arddull a darllenadwyedd:
starstarstarstarstar