Rhagor - darganfod byd o gasgliadau

Gwasanaeth Neilltuol - Medalau am Rhyfelgyrchoedd a Dewrder

[delwedd: Bathodyn arian 'Menter Ddiobaith' 1643 ]

Bathodyn arian 'Menter Ddiobaith' 1643

[delwedd: Medal De Affrica 1877-79: '1428 Pte E. Jones 2.24th Foot']

Medal De Affrica 1877-79: '1428 Pte E. Jones 2.24th Foot'

[delwedd: Sarjant Evan Jones, tua 1917.]

Sarjant Evan Jones, tua 1917. Ganed yng Nglyn Ebwy ym 1859 ac ymrestrodd ym Milisia Trefynwy ym 1874, gan ymuno â chatrawd y '24th Foot' ym 1877. Gwasanaethodd yn Ne Affrica, ac ar 23 Ionawr 1879 roedd yn rhan o'r gwarchodlu bychan a warchododd Rorke's Drift yn erbyn ymosodiad anferth gan y Zwlŵaid. Gwasanaethodd yn ddiweddarach yn ardal Môr y Canoldir, India a Byrma, ac fe arhosodd yn y fyddin mewn gwahanol unedau tan 1920. Bu farw yn Y Trallwng ym 1931.

Casgliadau medalau Amgueddfa Cymru

Ffurfiwyd casgliadau medalau Prydeinig Amgueddfa Cymru yn y 1920au diolch i roddion gan ddau ŵr.

Ym 1922, rhoddodd y Cyrnol Syr William Watts ei gasgliad o 105 o fedalau llyngesol a milwrol Prydeinig i'r Amgueddfa, ac ym 1923, derbyniwyd medalau tebyg yn rhodd hael gan W. Lisle Bowles.

Drwy hyn, cafodd yr Amgueddfa gasgliad nodweddiadol o fedalau rhyfelgyrchoedd milwrol Prydeinig, o frwydr Waterloo (1815), sef y frwydr gyntaf lle cafodd pawb a gymerodd ran ynddi fedal, i Ryfel Mawr 1914-18, ac wedi hynny. Serch hynny, nifer fach yn unig o'r medalau milwrol a dewrder hyn sydd ag unrhyw gysylltiadau Cymreig.

Yn ddiweddar, felly, mae'r amgueddfa wedi canolbwyntio ar agweddau Cymreig wrth brynu a derbyn rhoddion, gan mai ein polisi datganedig yw casglu medalau 'sydd â chysylltiadau â gweithredoedd pobl Cymru'.

'Menter ddiobaith'

Gwobr filwrol gynharaf y casgliad yw'r bathodyn 'Menter Ddiobaith', o gyfnod Rhyfel Cartref Lloegr, a roddwyd i'r milwyr hynny a ddewiswyd i frwydro ar flaen y gad. Cyflwynwyd y wobr Frenhinol hon ym 1643 gan Thomas Bushell, peiriannydd mwyngloddio a meistr y bathdy yn Aberystwyth.

Arwyr Sifil

Cyflwynwyd Medal Albert am y tro cyntaf ym 1866, fel cydnabyddiaeth am ddewrder ar y môr yn wreiddiol, ond cafodd ei estyn ym 1877 i gynnwys achub bywydau ar dir sych, pan wobrwywyd arwyr Pwll Glo Tynewydd, y Rhondda, am achub bywydau pump o'u cydweithwyr fu'n gaeth yn ddwfn o dan y ddaear am naw niwrnod oherwydd llifogydd. Bellach mae nifer o'r Medalau Albert oedd yn gysylltiedig â'r digwyddiad hwn yng Nghasgliad yr Amgueddfa. Pan grëwyd Medal Edward ym 1907 am ddewrder mewn pyllau glo a chwareli, cyflwynwyd un o'r ddwy wobr gyntaf i Gymro o'r enw Henry Everson o Bwll Glo Penallta. Rhoddodd ei fab y fedal yn rhodd i'r Amgueddfa ym 1978.

O Albert i Edward i George

Ym mis Rhagfyr 1971 diddymwyd medalau Albert ac Edward, a chyflwynwyd y George Cross yn eu lle. O blith y rhai a benderfynodd gyfnewid eu gwobrau, dewisodd saith ohonynt roi eu hen fedalau i'r Amgueddfa. Enillodd dau ohonynt, sef Gordon Bastian ac Eynon Hawkins, Fedal Albert am eu dewrder ar y moroedd, ar ôl achub aelodau eraill o'u criw mewn llongau a gafodd eu taro â thorpidos ym 1943. Mae tri o Fedalau 'tir' Albert yn perthyn i Walter Cleall; [linc i Fedal Albert @ CymruFu] Kenneth Farrow, heddwas o Gaerdydd a geisiodd achub bachgen bach rhag boddi; a Margaret Vaughan a achubodd fachgen a gafodd ei ddal gan droad y llanw ar Ynys Sili ger y Barri, pan yr oedd hi'n ferch ysgol.

Gwroldeb a Dewrder Mawr

Ym 1990, cafodd yr Amgueddfa dair Medal George sydd â chysylltiadau Cymreig.

Crëwyd medalau y George Cross a Medal George ym 1940 - yn bennaf fel ymateb i'r cynnydd mewn perygl i ddinasyddion yn ystod y cyrchoedd awyr. Ar 19 Awst 1940, bomiwyd storfa'r Llynges Frenhinol yn Llanreath, Sir Benfro, a bu'n llosgi am ddau ddiwrnod ar bymtheg gan ddinistrio dros ddeg miliwn ar hugain o alwyni o olew. Dyna fu'r tân mwyaf a welwyd erioed ym Mhrydain. Roedd Norman Groom yn un o'r 650 o ddynion tân fu'n ymladd yn erbyn y fflamau ac un o'r tri gŵr o Gaerdydd a dderbyniodd Medal George. Tynnodd Thomas Keenan, gwyliwr nos, fom gyneuol o ben tanc a oedd yn cynnwys 300,000 galwyn o betrol mewn storfa yn Ferry Roed, Caerdydd, ar 2 Ionawr 1941.

Dim ond blas ar yr hanes yw'r gwobrau a amlygir yma. Yn wahanol i fedalau gwledydd eraill, mae medalau milwrol a'r mwyafrif o'r medalau gwroldeb Prydeinig, er dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn cynnwys enw (ac mewn gwobrau milwrol, rhif, rheng ac uned) pob derbyniwr. Roedd y miliynau o sêr ymgyrchol a medalau Rhyfel Mawr 1914-18 wedi'u henwi yn unigol, er bod rhai'r Ail Ryfel Byd wedi'u dosbarthu heb enwau er mwyn arbed costau, o bosib. Mae'r mwyafrif o'r medalau, felly, yn fan cychwyn ar gyfer ymchwil hanesyddol i fywydau'r unigolion.

Dyddiad yr erthygl: 30 Mawrth 2007

6 sylw

Amgueddfa Cymru ar 18 Mawrth 2013, 11:47

Hi Jacqueline, Bert Craig’s medal is in store at the moment, but Edward Besly, our Numismatist would be happy to show it and other related stuff by appointment, he can be contacted on edward.besly@museumwales.ac.uk. (working days: Monday-Wednesday).

Many thanks,
Graham Davies

Amgueddfa Cymru ar 14 Mawrth 2013, 11:04

Hi Jacqueline,
Thank you for your enquiry, I have just asked our Numismatist to advise where this medal is currently located. I'll get back to you when I hear.
Thank you,
Graham Davies, Online Curator

Jacqueline Kendrick ar 14 Mawrth 2013, 00:20

Bert Craig who donated his Edward Medal was my Great-Uncle. I was wanting to come to see his medal on display, but am unsure which museum it is in.

Amgueddfa Cymru ar 7 Tachwedd 2008, 10:15

Dear Gilbert - Thank you for your enquiry: the following may be of interest to you:

Edward Medal, 2nd Class, Mine: George Jones

Dublin Main colliery, 5 August 1910. London Gazette Issue 28551, 17 November 1911

The London Gazette entry reads:

'His Majesty the KING has also been pleased to award the Edward Medal of the Second Class to George Jones and Hugh Roberts.

'On the 5th August 1910, a serious explosion, causing the loss of two lives, occurred at the Main Coal Colliery, Northop, near Flint, owing to the ignition of fire damp by a shot fired to bring down coal. Jones, the fireman in charge at the time of the explosion, was severely injured; but, although a fire was known to be burning in the mine, he returned twice to the workings in search of one of the men under his charge who was believed to be missing. On the second occasion Jones was accompanied by Roberts, a timberman, who subsequently went into the mine in order to extinguish the fire.'

The original can be viewed at www.gazettes-online.co.uk.
Select London and search the archive.

Daphne G. Davies, Llandeilo,Carms. ar 3 Tachwedd 2008, 12:14

Thank you for putting the information on the computer. I was interested in the Award of the First(?Land) Albert Medal to someone in the Rhondda. If we ever have the opportunity to call at Amgueddfa Cymru we will certainly look out to see the rare items which mark the Gallantry of fine Welsh people.
Diolch am ddangos pethau fel hyn i\'r plant ac i ni.Yr ydym i gyd yn cael digon o newyddion am y pethau drwg mae bobl yn gwneud.

gilbert jones ar 3 Tachwedd 2008, 12:14

I have just found out that my grandfather won the Edward Medal.His name was George Jones.I beleive this took place on the 5th August 1910 at Dublin Main Colliery Wales.Have you any knowledge of the incident and any details of the citation?.If you could reply either way I would appreciate it.Thank You,Gilbert.

Gadael sylw


Geirfa

Blaen y Gad
Y carfanau sy'n gweithredu ar flaen unrhyw fyddin.

Erthygl gwreiddiol

Cliciwch i lawrlwytho'r erthygl gwreiddiol.

Distinguished Service.pdf
509 KB

Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:     

Delweddau:     

Arddull a darllenadwyedd: