Rhagor - darganfod byd o gasgliadau

Symud eglwys ganoloesol i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

[delwedd: Eglwys Teilo Sant, Llandeilo Tal-y-bont, yn ei safle grweiddiol ym 1984]

Eglwys Teilo Sant, Llandeilo Tal-y-bont, yn ei safle grweiddiol ym 1984

[delwedd: Ffenestr garreg fylinog o'r Oesoedd Canol a ssaeth i'r amlwg o dan haenau o wyngalch a rendr yn ystod y broses o ddatgymalu'r eglwys]

Ffenestr garreg fylinog o'r Oesoedd Canol a ssaeth i'r amlwg o dan haenau o wyngalch a rendr yn ystod y broses o ddatgymalu'r eglwys

[delwedd: Murlun o Santes Catrin, yn ei safle gwreiddiol, a ddarganfuwyd ar fur dwyreiniol transept y de. Mae'n debyg y'i paentiwyd tua 1400]

Murlun o Santes Catrin, yn ei safle gwreiddiol, a ddarganfuwyd ar fur dwyreiniol transept y de. Mae'n debyg y'i paentiwyd tua 1400

Yr eglwys ganoloesol o Landeilo Tal-y-bont yw'r eglwys gyntaf o'i math i gael ei symud a'i hailgodi mewn amgueddfa awyr-agored Brydeinig. Mae'r murluniau a ddarganfuwyd o dan wyngalch ei waliau yn bwrw goleuni pellach ar arferion addoli a chredoau'r 15fed ganrif.

O Landeilo Tal-y-bont i Gaerdydd

Adeiladwyd eglwys Sant Teilo yn ystod yr 13eg ganrif. Mae'n debygol iddi gael ei hadeiladu ar safle eglwys gynharach. Cefnwyd ar yr eglwys yn y 1960au, ac fe'i hychwanegwyd at restr henebion Cadw: Henebion Hanesyddol Cymru yn y 1980au. Gan nad oedd modd achub yr eglwys ddadfeiliedig ar ei safle gwreiddiol, cynigiwyd hi i'r Amgueddfa ym 1984 er mwyn ei datgymalu a'i hailgodi yn Sain Ffagan.

Ar ddechrau'r broses o ddatgymalu'r Eglwys yn ofalus, darganfuwyd dau furlun hynod o'r 15fed a'r 16eg ganrif, yn ogystal â thestunau niferus a rhannau'n cynnwys patrymau arddurniadol. Cofnodwyd pob un ohonynt, cyn eu symud a'u cadw'n ofalus.

Wrth dynnu haenau o wyngalch yn ofalus o wyneb y murluniau, daethpwyd o hyd i gliwiau ynglŷn â dyddiad yr adeilad gwreiddiol. Wedi tynnu'r morter oddi ar y muriau allanol, roedd modd gweld y newidiadau a wnaed yn ystod Oes Fictoria neu'n ddiweddarach. Ar ôl gorffen datgymalu'r adeilad fe gloddiodd yr Amgueddfa'r seiliau, gan ddatgelu rhagor o gliwiau am adeiladwaith yr Eglwys.

Hanes yr Eglwys

Mae'n debyg bod yr adeilad cyntaf i oroesi yn adeilad bach dwy-gell, sef y prif gorff a'r gangell, o'r 13eg - 14eg ganrif. Roedd hwn yn batrwm cyffredin ledled Cymru ar y pryd. Yr ychwanegiad nesaf oedd transept y gogledd, ac adeiladwyd transept y de tua'r un adeg neu'n fuan wedi hynny, gan mai technegau adeiladu tebyg a ddefnyddiwyd i godi'r ddau. Credir bod y rhain yn dyddio o'r 14eg neu ddechrau'r 15fed ganrif, sy'n cyfateb i ddyddiad y murlun ar fur dwyreiniol transept y de.

Tybir mai ddiwedd y 15fed ganrif yr estynnwyd capel y de i ffurfio eil. Yn lle'r hen fur deheuol daeth arcêd o ddau fwa, gyda dau arall yn arwain i'r ddau gapel. Y peth olaf i gael ei ychwanegu at yr eglwys oedd porth a arweiniai at ystlys y de.

Twf cynulleidfaoedd yn ystod Cyfnod y Tuduriaid Cymreig

Penderfynodd yr Amgueddfa ailadeiladu'r Eglwys fel y byddai wedi ymddangos tua 1510-30. Mae'n bosibl defnyddio cliwiau archeolegol o'r cyfnod i gael gwell dealltwriaeth o'r cefndir cymdeithasol, crefyddol a gwleidyddol fu'n sail i lunio a dodrefnu'r Eglwys. Digwyddodd hyn yn fuan wedi estyn capel y de i ffurfio ystlys y de, i ddal cynulleidfa fwy mae'n debyg. Gallai hyn gyd-fynd â'r adferiad mawr yn economi Cymru, wedi'r cyfnod pan ddaeth y Tuduriaid Cymreig yn Frenhinoedd Lloegr ddiwedd y 15fed ganrif. Bryd hynny cafwyd cyfnod cymharol dawel wedi cyfnodau hir o ansefydlogrwydd gwleidyddol a chymdeithasol, yn cynnwys rhyfel cartref.

Mae'r cliwiau yn llunio darlun o'r ffordd yr oedd pobl yn addoli yn ystod y cyfnod hyd at 1530. Y pwysicaf ohonynt yw'r murluniau o'r cyfnod cyn y Diwygiad Protestannaidd. Maent yn dangos gwahanol themâu o fywyd Crist a nifer o seintiau, gan gynnwys Santes Catrin a Sant Cristoffer. Canfuwyd cerrig Corbel yng ngwaith carreg y bwa yn y gangell sy'n dangos olion croglen sgrin a llofft. Byddai'r murluniau, y groglen sgrin a'r llofft wedi cael eu peintio mewn lliwiau llachar.

Beibl y dyn tlawd

Mae murluniau mewn eglwysi wedi cael eu disgrifio fel "Beibl y werin dlawd". Cawsant eu cynllunio fel bod modd i gynulleidfa anllythrennog ddeall golygfeydd o'r Beibl. Eu pwrpas hefyd oedd ennyn arswyd, parchedig ofn, ac ufudd-dod. Mewn rhai achosion, murluniau fel y rhai a ganfuwyd yn Sant Teilo oedd yr unig fodd o gyfleu unrhyw neges grefyddol o gwbl, gan nad oedd cynulleidfaoedd yn deall Lladin, sef iaith y Beibl a phregethu ar y pryd.

Cyfnod o addoli'n dod i ben

O ganlyniad i'r cynnydd ym mhoblogaeth yr ardal, datblygiad eglwysi eraill mwy, fandaliaeth gyson, cefnwyd ar Sant Teilo'n gyfan gwbl. Gellir dadlau bod y digwyddiadau hyn yn adlewyrchu hanes cymdeithasol, crefyddol a gwleidyddol, yn yr un modd ag y gwna'r murluniau o'r cyfnod cyn y Diwygiad. Bydd ailgodi'r eglwys yn yr Amgueddfa'n dynodi pennod arall yn ei hanes, lle bydd ymwelwyr yr 21ain ganrif yr un mor bwysig â'r pererinion o'r Oesoedd Canol! Bellach mae gan Eglwys Sant Teilo bob cyfle i oroesi am flynyddoedd lawer.

Dyddiad yr erthygl: 22 Chwefror 2007

3 sylw

Amgueddfa Cymru ar 3 Tachwedd 2011, 10:58

Dear J F Barnes,
Thank you for your coment, as the church has not been consecrated, we could not perform marrages babtisms etc, however, it would be possible to perform non-official blessings in the church. for more information please contact: Visitor Services, St Fagans: National History Museum, CF5 6XB (029) 2057 3421
Thank you for your interest in Amgueddfa Cymru

J F Barnes ar 3 Tachwedd 2011, 09:41

We have visited St Teilo's, having seen the earlier stages of its rebuilding. It is excellent as an example of how a church interior would have looked at the time of King henry Viii.

We understand that the building has not been reconsecrated but that services are held from time to time.

Is it also licensed for marriages?

Greg ar 12 Awst 2011, 17:36

What a wonderful work of restoration and a real resurrection of history. The finished church at St Fagans is marvelous, well done to the National Museum of Wales!

With a note to the article, I think Duffy has demonstrated that medieval wall paintings were designed for catechesis and of course primarily as an aid to devotion and prayer (as in any modern RC church) rather than to 'create a sense of awe, fear and obedience'. The medieval religious mind focussed on beauty and colour in churches, and more generally demonstrated a bent towards exuberance and joy, even mischief (eg gargoyles, misericord carvings, etc), than they do towards creating an atmosphere of obedience and fear. The latter would be more prevalent in the iconoclastic mindset of the reformation, and the stern non-decor of the later puritan movements.

Also, although the Bible was in Latin, and its use in the liturgy was in Latin, preaching would not have been. Priests would have preached in the vernacular: at St Teilo's, in medieval Welsh. The great preaching Orders of pre-Reformation Europe (St Dominic's 'Order of Preachers'- Dominicans, and St Francis' 'Order of Friars Minor' - Franciscans) would not have got very far with the uneducated majority of Europe had they preached in Latin every Sunday morning!

Gadael sylw


Geirfa

Y Diwygiad
Symudiad gwleidyddol a chrefyddol o ogledd Ewrop o'r 15fed hyd at y 17eg ganrif a geisiodd ddiwygio Catholigiaeth; arweiniodd yn y pen draw at Brotestaniaeth.

Erthygl gwreiddiol

Cliciwch i lawrlwytho'r erthygl gwreiddiol.

st_teilos.pdf
1360 KB

Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:     

Delweddau:     

Arddull a darllenadwyedd: