Rhagor - darganfod byd o gasgliadau

Gorseddau y tu hwnt i Gymru

Gorseddau y tu hwnt i Gymru

[delwedd: Cyfarfod cyhoeddus cyntaf Gorsedd Llydaw, Brignogan, 1903.]

Cyfarfod cyhoeddus cyntaf Gorsedd Llydaw, Brignogan, 1903.

Seremonïau lliwgar a deniadol yw'r rhai a gynhelir yng Nghylch yr Orsedd fore Llun ac ar lwyfan y Pafiliwn yn y prynhawn, cyn y Coroni (ers 1954), pan groesewir cynrychiolwyr o'r Gwledydd Celtaidd a chyfeillion eraill i ymuno yn nefodau'r Orsedd. Bydd cynrychiolwyr yn bresennol gan amlaf o Lydaw, Cernyw, Iwerddon, yr Alban, Ynys Manaw ac hefyd o Batagonia a bydd cynrychiolwyr o Orsedd Beirdd Ynys Prydain yn mynychu eu gwyliau hwy yn eu tro. Dim ond mewn dwy o'r gwledydd Celtaidd er hynny y mae Gorsedd gyffelyb i un Cymru, sef yn Llydaw a Chernyw. Fe'u cyfrifir yn is-Orseddau ac mae Archdderwydd Cymru yn bennaeth dros y gorseddau hyn i gyd.

Gorsedd Llydaw

Roedd y diddordeb yn y byd Celtaidd yn Llydaw wedi'i ail-gynnau ers ymweliad le Villemarqué ag Eisteddfod y Fenni yn 1838 a defod priodi'r ddau hanner cleddyf eisoes yn boblogaidd cyn i ddirprwyaeth o Lydaw ymweld ag Eisteddfod Caerdydd yn 1899. Yna, yn 1900, penderfynwyd sefydlu Gorsedd Llydaw - ,em>Gorsedd Barzed Gourenez Breiz-Izel - ac apwyntiwyd Ar Fusteg yn Dderwydd Mawr a Taldir yn Arwyddfardd. Yn 1903, yn Brignonan y gwelwyd seremoni gyhoeddus gyntaf Gorsedd Llydaw.

Am resymau gwleidyddol a chrefyddol bu cryn ymgecru yn rhengoedd yr Orsedd ar hyd y daith. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd cyhuddwyd rhai o'r Llydawyr, gan gynnwys Taldir, o gydweithio â llywodraeth Vichy ac ar derfyn y Rhyfel fe'u carcharwyd. Pan rhyddhawyd Taldir bu'n rhaid iddo ymneilltuo i Ogledd Africa a daeth Eostig Sarzhaw yn Dderwydd Mawr (dirprwyol) yn ei le. Ond roedd tuedd rhai aelodau fwyfwy at Dderwyddiaeth a mynychu cyfarfodydd Côr y Cewri, yn hytrach nag at Gymru bellach.

I ddyfynnu Zonia Bowen am 'hanes trychinebus' Gorsedd Llydaw - nid oes ganddi "raison d'être" tebyg i draddodiad barddol Cymru na chyswllt â chorff tebyg i'r Eisteddfod Genedlaethol. Eto yr Orsedd yw'r gymdeithas hwyaf ei pharhâd yn hanes cythryblus y genedl Lydewig.

Gwisga Derwydd Mawr Llydaw goron arian o ddail uchelwydd.

Gorsedd Gâl

Sefydlwyd yr Orsedd yn 1923 ar y sail fod Gâl yn rhanbarth Celtaidd cyn dyfodiad y Rhufeiniaid ond erbyn 1939 roedd wedi chwythu'i phlwc.

Gorsedd Cernyw

Ers troad yr ugeinfed ganrif roedd rhywfaint o adfywiad wedi bod yn yr iaith Gernyweg yn enwedig trwy waith Henry Jenner, Ceidwad Llawysgrifau'r Amgueddfa Brydeinig. Sefydlwyd nifer o gymdeithasau 'Old Cornwall' ac yn Eisteddfod Treorci yn 1928 derbyniwyd wyth o wŷr o Gernyw yn aelodau o Orsedd y Beirdd. Ym mis Medi 1928 yn Boscawen Un y cynhaliwyd seremoni gyntaf Gorsedd Cernyw - Gorseth Kernow - ac urddwyd Henry Jenner yn Fardd Mawr cyntaf Cernyw. Un urdd, Urdd Bardd, mewn gwisg las, yn unig sy yng Ngorsedd Cernyw. Gwisga'r Bardd Mawr goron o ddail derw a dwyfronneg.

Gorsedd Gogledd America

Sefydlwyd Is-Orsedd Gogledd America yn Eisteddfod Pittsburg gan yr Archdderwydd Dyfed yn 1913 a'i Harchddewrydd dirprwyol oedd Thomas Edwards - Cynonfardd o Lan-dŵr, Abertawe. Erbyn 1946 yr oedd wedi dod i ben.

Gorsedd y Wladfa

Gutyn Ebrill (Griffith Griffiths, 1829-1909) oedd syflaenydd Gorsedd y Beirdd yn y Wladfa. Bu Caeron (W.H.Hughes) a Prysor (William Williams) yn gwasanaethu ar ei ôl ond ystyrient hwy mai dirprwy-archdderwyddon oeddynt, o ran statws, i archdderwyddon Cymru. Wedi marw Prysor yn 1945 ymddangosai fel petai Gorsedd y Wladfa am fynd i'r gwellt. Yna, ddechrau'r unfed ganrif ar hugain, dan archdderwyddiaeth Meirion, gwelwyd adferiad a dechreuodd cynrychiolwyr o'r Wladfa fynychu Eisteddfodau a Gorseddau Cenedlaethol Cymru drachefn.

Dyddiad yr erthygl: 25 Gorffennaf 2010

0 sylw

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:     

Delweddau:     

Arddull a darllenadwyedd: