Rhagor - darganfod byd o gasgliadau

Pwy yw pwy yn yr Orsedd?

Yr Archdderwydd

[delwedd: Portread mewn olew o'r Archdderwydd Hwfa Môn gan Christopher Williams.]

Portread mewn olew o'r Archdderwydd Hwfa Môn gan Christopher Williams.

Yr Archdderwydd yn ei regalia ysblennydd yw canolbwynt holl ddefodau'r Orsedd ac ef/hi sy'n llywyddu'i seremonïau. Mae ef/hi yn oruchaf yn yr holl Orseddau eraill ac ef/hi sy'n cadeirio Bwrdd yr Orsedd.

Nid oedd Iolo Morganwg, tad Gorsedd Beirdd Ynys Prydain, yn arddel y teitl hwn ei hun. Wrth gynnal ei Orsedd gyntaf yn 1792 galwai'i hun yn 'Brif Fardd' a'r 'Bardd Gweinyddol' ydoedd yng Ngorsedd Caerfyrddin, 1819.

Cyn hir, er hynny, dechreuodd ambell lywydd yng ngorseddau'r eisteddfodau taleithiol ddefnyddio'r term 'archdderwydd' ond Clwydfardd a gyfrifir yr Archdderwydd swyddogol cyntaf. Mynnai ef:

'Penodwyd fi yn Archdderwydd ... yn y flwyddyn 1860; ond yn Eist. Wrexham yn y fl. 1876 y cefais fy nhrwyddedu yn Archdderwydd Gorsedd ... Beirdd Ynys Prydain.'

Bu'n dal y swydd am weddill ei oes.

Mae'r llu delweddau gweledol o'i olynydd, Hwfa Môn, (Rowland Williams) (1895-1915) yn tystio iddo dyfu'n eicon cenedlaethol. Ers 1936 tair blynedd yw hyd tymor swydd archdderwydd ond dros gyfnod yr Ail Ryfel Byd bu Crwys (W.Crwys Williams) yn Archdderwydd am wyth mlynedd. Dim ond un Archdderwydd, sef Cynan (1950-54; 1963-66) sy wedi gwasanaethu am fwy nag un tymor. Fel y dwedodd Tilsli amdano, 'i lawer o bobl ef yn wir oedd Gorsedd y Beirdd' ac ef a wnaeth ddefodau'r Orsedd 'yn gredadwy a lliwgar'. Trwy ddylanwad Cynan yn Abergwaun, 1936, y cafwyd trefn ar seremoni urddo'r Archdderwydd pryd y caiff ei h/arwisgo â choron, dwyfronneg, teyrnwialen a modrwy ei swydd.

Yn 1932 sefydlwyd rheol fod yn rhaid i Archdderwydd fod yn brifardd cadeiriog neu goronog. Erbyn dechrau'r unfed ganrif ar hugain cytunwyd i gynnwys Prif Lenorion ymysg yr ymgeiswyr posibl a'r cyntaf i'w ethol o dan y drefn hon oedd Robyn Llŷn (Robyn Léwis) (2002-2005). Tua'r un cyfnod newidiwyd y drefn bleidleisio i gynnwys holl aelodau'r Orsedd ac nid Bwrdd yr Orsedd yn unig. (2002-05).

Y Cofiadur

[delwedd: Eifionydd (John Thomas) - Cofiadur yr Orsedd, 1881-1922.]

Eifionydd (John Thomas) - Cofiadur yr Orsedd, 1881-1922.

Cofiadur Gorsedd Beirdd Ynys Prydain yw Ysgrifennydd Bwrdd yr Orsedd ac ef/hi sy'n ei harolygu. Mae'n un o'r prif swyddogion ar y Maen Llog ac ef/hi sy'n gyfrifol am drefniadau'r seremonïau ar lwyfan y Brifwyl. Fe/hi sy'n Cyhoeddi Eisteddfod a Gorsedd flwyddyn a diwrnod ymlaen llaw. Ymddengys fod llyfrgell Gwynfe, (Cofiadur 1922-27), gan gynnwys Llyfr Cofnodion yr Orsedd rhwng 1888 a 1921, wedi'i gwerthu i'r Unol Daleithiau ac y mae'r ddogfen hanesyddol bwysig hon bellach yn Llyfrgell Prifysgol Havard a chopi ohoni gan y Llyfrgell Genedlaethol. Heb amheuaeth Cynan (1935-50; 1954-63; 1966-70) oedd Cofiadur mwya dylanwadol yr Orsedd yn yr ugeinfed ganrif. Tystiodd Ernest Roberts iddo droi'r Orsedd 'o fod yn rhyw bantomeim o weinidogion ac eraill i fod yn basiant urddasol'; ac 'o fod yn destun gwawd a chwerthin i fod yn sefydliad a ddenodd ysgolheigion Cymraeg a gwŷr proffesiynol o lawer cylch i dderbyn eu hanrhydeddu ac i gefnogi ei dibenion.' Ers ei ddyddiau ef mae'r Cofiaduron gwahanol wedi cynnal y safonau uchel hyn.

Yr Arwyddfardd

[delwedd: T.H.Thomas yn arwain gorymdaith Gyhoeddi Llangollen 1907.]

T.H.Thomas, Arlunydd Pen-y-garn, yr Arwyddfardd (1895-1915) yn arwain gorymdaith Gyhoeddi Llangollen 1907.

Yr Arwyddfardd sy'n gofalu am ddodrefn a regalia'r Orsedd. Mae'n gyfrifol am orymdeithiau'r Orsedd a chynorthwyo'r Cofiadur gyda chyfarwyddo'r seremonïau. Caiff yntau'i gynorthwyo gan swyddogion eraill yr Orsedd: y Trefnydd Arholiadau, Meistres y Gwisgoedd a'i benodiadau ei hun - y Disteiniaid. Swydd a ddatblygodd yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg ydoedd. Yn sicr T.H. Thomas, Arlunydd Pen-y-garn, a'r Arwyddfardd rhwng 1895-1915 a ddylanwadodd fwyaf ar seremonïau'r Orsedd. Trwy ei chwaeth artistig neilltuol diwygiodd a thrawsnewidiodd ei gwisgoedd a'i regalia a Chylch yr Orsedd.

Arweiniai Sieffre o Gyfarthfa (y Capten Geoffrey Crawshay), Arwyddfardd 1925-1947, orymdeithiau'r Orsedd yn ddramatig iawn ar gefn ceffyl a gwisgai wisg marchogaeth ysblennydd. Cyhoeddodd nifer o bamffledi, â'r teitlau 'Aelodaeth', 'Seremoni'r Urddo' a.y.y.b. yn ystod ei dymor. Ar ei ymddeoliad yn 1947 cyflwynodd wialen bwrpasol at ddefnydd yr Arwyddfardd.

Cyhoeddodd Dilwyn Cemais, Arwyddfardd 1966-1996 lyfr gwerthfawr yn Saesneg ar hanes Gorsedd y Beirdd, The Secret of the Bards of the Isle of Britain (Gwasg Dinefwr Press, 1992) a llyfr o'i atgofion, Atgofion Hen Arwyddfardd (Gwasg Gee, 1997).

Meistres y Gwisgoedd

[delwedd: 'Mam o Nedd', Winifred Coombe Tennant, Meistres y Gwisgoedd tua 1923-34.]

'Mam o Nedd', Winifred Coombe Tennant, Meistres y Gwisgoedd tua 1923-34.

Yn ei gwisg werdd-las lachar saif Meistres y Gwisgoedd ar wahân i aelodau a swyddogion eraill Gorsedd y Beirdd. Ei chyfrifoldeb hi yw gofalu am ansawdd yr urddwisgoedd ar gyfer pob seremoni orseddol gydol y flwyddyn ynghyd ag arwisgo'r beirdd a'r llenorion buddugol cyn eu cyrchu o gorff y Pafiliwn i lwyfan y Brifwyl ar gyfer eu seremonïau priodol.

Daeth galw am swyddog o'r fath wedi i'r Orsedd fabwysiadu urddwisgoedd safonol tua 1900 a Mair Taliesin (Gwenddydd Morgan) oedd y gyntaf i gyflawni'r swyddogaeth.

Fe'i holynwyd hi tua1923 gan Mam o Nedd - Winifred Coombe-Tennant (1874-1956), gwraig o Swydd Gaergrawnt a briododd â Charles Tennant, Cadoxton Lodge, Llangatwg. Buasai hi'n Gadeirydd Pwyllgor Celf a Chrefft Eisteddfod Castell-nedd 1918 a bu'n hallt ei beirniadaeth o ddiffyg urddas a blerwch Gorsedd y Beirdd yn ystod yr Ŵyl Gyhoeddi yn 1917. Gadawodd Mam o Nedd £5000 yn ei hewyllys tuag at drwsio ac adnewyddu'r gwisgoedd a'r regalia.

Dengys adroddiadau blynyddol Siân Aman (Meistres y Gwisgoedd 1983 ymlaen) i Fwrdd yr Orsedd natur y swydd gyfrifol hon - nid yn unig y rheidrwydd i adnewyddu gwisgoedd yn flynyddol ond hefyd y galw cyson arni i siarad mewn cymdeithasau diwylliannol ledled Cymru am ei gwaith ac i egluro'i swyddogaeth.

Ceidwad y Cledd

[delwedd: Cario'r Cleddyf Mawr]

Cario'r Cleddyf Mawr yn ystod Seremoni'r Cadeirio, 2009.

Gofalu am Gleddyf yr Orsedd yn y gorymdeithiau a'r seremonïau yw swyddogaeth Ceidwad y Cledd. Mae'n cario'r Cleddyf o flaen yr Archdderwydd yn holl orymdeithiau'r Orsedd, a hynny bob amser gerfydd ei lafn ac nid gerfydd ei garn. Dyma'r swyddog cyntaf i'w enwi o blith y Gorseddogion oherwydd nodir yn 1819 mai Gwilym Morganwg (Thomas Williams) oedd y 'Cledd-gludydd' yng ngorsedd bwysig eisteddfod daleithiol Caerfyrddin. Yr enwocaf o Geidwaid diweddar y Cledd oedd y diweddar Ray Gravell.

Menywod a'r Orsedd

[delwedd: Menywod yn smwddio gwisgoedd yr gorseddogion, Dolgellau, 1949.]

Menywod yn smwddio gwisgoedd yr gorseddogion, Dolgellau, 1949.

Hyd yn hyn nid oes menyw wedi dal unrhyw un o brif swyddi Gorsedd Beirdd Ynys Prydain, ac eithrio Meistresi'r Gwisgoedd ar hyd y blynyddoedd a Mererid, a benodwyd yn Swyddog Cysylltiadau Celtaidd yn 2004.

Ond o'r cychwyn cyntaf, o gofio ymlyniad Iolo Morganwg wrth egwyddor cydraddoldeb, ymdengys fod croeso i fenywod yn rhengoedd Gorsedd y Beirdd. Pan gynhaliwyd yr Orsedd gyntaf yn Llundain, ym Mehefin 1792, urddwyd Sarah Elizabeth Owen i Urdd Ofydd, yn anffodus, mae'n debyg, nid am ei bod yn fardd na llenor, ond am ei bod yn wraig i William Owen (Pughe).

Y gyntaf i'w hurddo mewn Gorsedd yng Nghymru, yng Nghaerfyrddin yn 1819, oedd Elizabeth Jones, Eos Bele, eto nid oherwydd ei dawn fel bardd ond am fod Ifor Ceri y trefnydd â'i fryd ar ei phriodi! Yn eisteddfod daleithiol Powys yn 1821 urddwyd tair arall - Angharad Llwyd, hynafiaethydd galluog o Gaerwys, Hester Cotton, dysgwraig a hynafiaethydd a Mair Richards, telynores o Ddarowen. Mae adroddiadau'r eisteddfodau a'r gorseddau taleithiol wedi hyn yn nodi'n gyson fod menywod wedi'u hurddo a dilynwyd yr un patrwm gyda'r Gorseddau Cenedlaethol. Yn sgil hynny mae menywod wedi gwasanaethu fel cantorion, telynorion, cyflwynwyr y Corn Hirlas a'r Aberthged / Flodeuged, noddwyr, meistresi'r gwisgoedd, a merched y Ddawns Flodau yn seremonïau a defodau'r Orsedd.

Dyddiad yr erthygl: 25 Gorffennaf 2010

0 sylw

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:     

Delweddau:     

Arddull a darllenadwyedd: