Rydych chi yn: Archwilio'r Casgliadau > Yr Eisteddfod a'r Orsedd yn uno

Yr Eisteddfod a'r Orsedd yn uno

Caerfyrddin 1819

Cleddyf Iolo Morganwg a ddefnyddiwyd yn seremoni 1819
Cleddyf Iolo Morganwg a ddefnyddiwyd yn seremoni 1819.

Yn 1789 roedd Cymdeithas y Gwyneddigion wedi rhoi hwb a nawdd i eisteddfod yn y Bala er mwyn codi safon a statws eisteddfodau yng Nghymru. O hyn tyfodd mudiad yr eisteddfodau taleithiol ac erbyn 1819 roedd Esgob Tyddewi, Thomas Burgess, yn awyddus iawn i sefydlu eisteddfod o'r fath yng Nghaerfyrddin ac i'w chynnal yng Nghwesty'r Llwyn Iorwg. Enillodd Gwallter Mechain wobr am yr awdl orau a chlymodd Iolo Morganwg ysnoden neu fandyn glas am ei fraich fel arwydd ei fod yn perthyn i Urdd Bardd yng Ngorsedd y Beirdd.

Trannoeth, yng ngerddi'r gwesty, cynhaliodd Iolo seremoni orseddol o fewn cylch o gerrig mân a dynnodd o'i boced. Trwy hynny llwyddodd i drawsnewid dyfodol yr Orsedd a'i chysylltu â'r mudiad eisteddfodol. O'r digwyddiad syml hwn y datblygodd Eisteddfodau a Gorseddau Cenedlaethol diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fel y dwedodd G.J. Williams, 'rhoes Iolo i genedl y Cymry sefydliad cenedlaethol'.

Dechrau'r Eisteddfod Genedlaethol

Trefn seremoni'r Orsedd, Medi 21, 1858 yn Llangollen.
Copi o drefn seremoni'r Orsedd, Medi 21, 1858 yn Llangollen. AWC Llsgr. 2435 /280

Rhwng 1819 a 1840 câi ambell Orsedd ei chynnal yn yr eisteddfodau taleithiol ond doedd dim ffurf na threfn bendant i'r rhain. Yna, yn 1858, penderfynodd Ab Ithel (John Williams, 1811-1862), rheithor Llanymawddwy a gŵr oedd wedi meddwi'n gorn ar syniadau Iolo Morganwg, geisio sefydlu eisteddfod a gorsedd genedlaethol yn Llangollen yn enw Cadair daleithiol Powys. Heidiodd miloedd yno ac yn yr Orsedd gwelwyd golygfa ryfeddol Myfyr Morganwg fel derwydd ag ŵy derwyddol wrth linyn am ei wddf, a'r Dr William Price, Llantrisant mewn penwisg o groen cadno.

Er gwaetha'r olygfa hon bu eisteddfod a gorsedd Llangollen yn drobwynt yn hanes y mudiadau eisteddfodol a gorseddol oherwydd dyma fan cychwyn yr Eisteddfod Genedlaethol â Gorsedd y Beirdd yn rhan ganolog o'i gweithgareddau. Yn Aberdâr, yn 1861, gwireddwyd breuddwyd Ab Ithel a chynhaliwyd yr Eisteddfod a'r Orsedd Cenedlaethol cyntaf.

Yn ystod y blynyddoedd canlynol datblygodd seremonïau'r Orsedd ond doedd pawb ddim yn gefnogol iddynt. I Cynddelw (Robert Ellis) roedd y derwyddon fel ' pac o wallgofiaid' ac ofnai eraill nad oedd y defodau hynafol yn gweddu i 'Oes Cynnydd', Oes Victoria. Cafodd gohebydd y Times fodd i fyw yn 1867 yn gwawdio:

'This remarkable piece of pantomime ... the puerile fopperies of making Druids in broadcloth and Ovates in crinoline'.

Amheuwyr a Beirniaid

Dr William Price, Llantrisant fel Derwydd
Dr William Price, Llantrisant fel Derwydd

Er bod cymaint o Gymry wedi llyncu'n ddi-halen honiadau Iolo Morganwg am hynafiaeth a nodweddion Gorsedd Beirdd Ynys Prydain nid oedd pawb, hyd yn oed ymysg ei gyfoedion, mor hygoelus:

  • John Walters (1721-1797) a'i galwodd yn 'a made Dish'
  • Edward (Celtic) Davies (1756-1831), awdur llyfrau ar y Derwyddon
  • William Williams, Llandygái (1738-1817) a gredai 'no vouches can be produced (for it) but the brains of Iolo Morganwg.'
  • J.W. Prichard, Plas-y-brain, Llanbedr-goch (1749-1829) a ffieiddiai Iolo fel 'dyn ar ddrygioni bob amser, ... yn dyfeisio rhyw gelwyddau i geisio twyllo'r byd.'
  • Thomas Stephens (1821 -75) a feirniadodd y gyfundrefn dderwyddol a gorseddol yn Yr Ymofynnydd, 1852-3
  • Yna, cafwyd amheuon ymhlith ysgolheigion ac academwyr prifysgol o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen:

    • John Rhŷs (1840-1915), ysgolhaig Celtaidd a benodwyd yn athro Celteg cyntaf Prifysgol Rhydychen yn 1877. Galwodd e'r Orsedd yn 'antiquarian humbug, positively injurious to the true interests of the Eisteddfod'.
    • John Morris-Jones (1864-1929), Athro Cymraeg Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor o 1895 ymlaen. Mewn cyfres o bump erthygl ddeifiol yn Cymru 1896, taflodd amheuon ar hynafiaeth honedig yr Orsedd a daeth i'r casgliad (cyfeiliornus) i'r seremonïau gael eu cyflwyno gan feirdd Morgannwg yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg. Ychwanegodd 'nid yw'r cyfan ond chwarae plant'.
    • G.J.Williams (1892-1963) Athro Cymraeg Coleg Prifysgol Cymru Caerdydd o 1947 ymlaen. Trwy ei ymchwil manwl i draddodiadau Morgannwg a hanes Iolo ei hun tanseiliodd hynafiaeth a hygrededd yr Orsedd yn llwyr mewn erthygl yn Y Llenor yn 1922. Iddo ef 'noddfa cwacyddiaeth' ydoedd, a'i haelodau 'namyn aelodau difudd o sefydliad a sylfaenwyd ar dwyll ac a gynhaliwyd gan ryfyg ac anwybodaeth'. Ac eto, roedd yn barod i gydnabod 'y geill sefydliad diweddar fod o fendith i genedl.'

    Mwy o urddas i'r Orsedd

    T.H.Thomas, Arlunydd Pen-y-garn yr Arwyddfardd (1895-1915) yng ngwisg yr Orsedd.
    T. H. Thomas, Arlunydd Pen-y-garn yr Arwyddfardd (1895-1915) yng ngwisg yr Orsedd.

    Roedd hi'n amlwg erbyn yr 1890au bod gwir angen rhoi trefn ar seremonïau'r Orsedd, eu hurddasoli a chyfoethogi'i defodau a'i regalia. Byddai hynny'n gymorth i dawelu'r beirniaid ac i hyrwyddo'i delwedd.

    Yn 1895 etholwyd T.H.Thomas, Arlunydd Pen-y-garn (1839-1915) yn Arwyddfardd a chyda'i hyfforddiant artistig fel arlunydd proffesiynol aeth ati i'w diwygio. Cefnogodd gynlluniau Hubert Herkomer i ddiwygio urddwisgoedd yr Orsedd a regalia'r Archdderwydd a hynny ar seiliau patrymau Celtaidd. Arlunydd Pen-y-garn gynlluniodd Faner yr Orsedd, dyluniodd Gylch y Meini a gweddnewidiodd safon pasiantri'r Orsedd. Mae llawer o'r elfennau hyn wedi goroesi hyd heddiw ac mae dyled Gorsedd y Beirdd i greadigrwydd a sêl gwladgarol Arlunydd Pen-y-garn yn enfawr.

    Cynan a phasiantri'r Orsedd

    Portread gan C.F.Tunnicliffe o'r Archdderwydd Cynan, 1953.
    Portread gan C. F. Tunnicliffe o'r Archdderwydd Cynan, 1953.

    Yn 1935, etholwyd Cynan (Albert Evans-Jones 1895-1970) yn Gofiadur yr Orsedd, swydd a ddaliodd, rhwng bod yn Archdderwydd ddwywaith (1950-54; 1963-66), tan 1970. Roedd gan Cynan ddiddordeb mawr, fel awdur a pherfformiwr, ym maes y theatr a defnyddiodd ei ddawn yn y cyswllt hwn i greu seremonïau mwy lliwgar, dramatig a disgybledig ar gyfer yr Orsedd. Mireiniodd ddefod Cyflwyno'r Aberthged, cyfansoddodd eiriau newydd ar gyfer Cân y Cadeirio a dyfeisiodd ef ac athrawesau bro Machynlleth y Ddawns Flodau yn 1936.

    Llwyddodd Cynan i gael yr Orsedd a Chyngor yr Eisteddfod i gytuno i greu un corff cenedlaethol, sef Llys yr Eisteddfod, i'w rheoli a thrwy hyn sicrhawyd bod y ddwy elfen allweddol yma yn bartneriaid cyfartal. At hyn yr oedd y Cyfansoddiad newydd y cytunwyd arno yn 1937 ac a ddaeth i oed yng Nghaerffili yn 1950 yn ymgorffori'r Rheol Gymraeg. Fel y nododd Ernest Roberts:

    'Cynan, a neb arall, a wnaeth yr Orsedd yn un o brif atyniadau ein Gŵyl Genedlaethol'. Dyma wedi'r cyfan, meddai, 'yr unig basiantri cenedlaethol sydd gennym.'

    Dyddiad yr erthygl: 25 Gorffennaf 2010

    Gadael sylw


    Gwerthuswch yr erthygl

    Cynnwys:
    starstarstarstarstar

    Delweddau:
    starstarstarstarstar

    Arddull a darllenadwyedd:
    starstarstarstarstar